Y Cynllun Gweithredu Digidol

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:38, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, ymddengys bod gan gynllun gweithredu digidol Llywodraeth Cymru ddau nod—Cymru fwy cysylltiedig a Chymru fwy cyfartal. Nawr, fe gyhoeddoch ddiweddariad i'ch cynllun cynhwysiant digidol y bore yma, ac rwyf wedi ei ddarllen, ac mae'n nodi cynnydd da. Ond mae'n rhaid imi ddweud mai'r gwir amdani, wrth gwrs, yw bod cysylltedd band eang miloedd o fy etholwyr, yn Sir Drefaldwyn, yn dal i fod yn araf neu heb fodoli o gwbl. Felly, golyga hynny, wrth gwrs, na allant gael mynediad at wasanaethau Llywodraeth Cymru ar-lein. Nid ydynt yn teimlo'n fwy cysylltiedig, ac nid ydynt yn teimlo'n rhan o Gymru fwy cyfartal yn y cyswllt hwn, ac ni fydd yn syndod, wrth gwrs, fy mod yn dweud hyn wrthych. Ond a gaf fi ofyn am ddiweddariad ar gaffael cam 2 y prosiect Cyflymu Cymru, a phryd y byddwch mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr gyflawn o'r 88,000 o safleoedd a fydd yn elwa ar y cynllun nesaf?