Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 18 Ebrill 2018.
Rwy'n ymwybodol iawn o gamsyniadau ynglŷn â sut y mae plentyn sydd ar y sbectrwm awtistig yn ymddangos. Gwn fod yr Aelod yn ymwybodol fod gennyf achos yn fy nheulu fy hun, sydd ar flaen fy meddwl.
Rwy'n fwy na pharod, fel rhan o'n trafodaeth, i gynnwys fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r gwasanaethau, ac rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonynt yn wasanaethau addysg yn ogystal mae'n debyg. Felly, os cawn y sgwrs honno, rwy'n fwy na pharod i fwrw ymlaen â hynny.
Hoffwn ailadrodd nad yw'r pryderon hynny wedi cael eu dwyn i fy sylw yn uniongyrchol, ond rwy'n fwy na pharod i fynd i'r afael â hwy.