Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch i chi am hynny. Ysgrifennydd y Cabinet, yn fwy cyffredinol, a minnau wedi cael fy magu yng Nghasnewydd, rwy'n adnabod llawer o bobl sy'n rhan o genhedlaeth Windrush, a ddaeth i Gymru o'r Caribî yn dilyn yr ail ryfel byd, a gwneud cyfraniadau enfawr i'n cymunedau, ein heconomi ac yn wir, i'n gwasanaethau cyhoeddus. Rhannaf y dicter presennol tuag at y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn cynnal gwiriadau ar statws y rheini a ymfudodd i'r DU o wledydd y Gymanwlad rhwng 1948 a 1971, gan arwain at nifer ohonynt yn cael gwybod nad oes ganddynt hawl i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ac yn wir, y gallent gael eu halltudio. A wnewch chi, a Llywodraeth Cymru yn gyffredinol, Ysgrifennydd y Cabinet, barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i unioni'r camweddau hyn fel mater o frys, ac i atal y sefyllfa bresennol, a gwrthdroi'r sefyllfa bresennol, lle mae'r aelodau hyn o'n cymunedau yn destun amarch dybryd a llawer iawn o ansicrwydd a phryder?