Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch yn fawr iawn. Ac mae yna wahoddiad wedi mynd i'ch swyddfa chi i ddod i Arfon hefyd, os caf ddweud?
Yn ystod y mis diwethaf, yn ystod araith yn Rhydychen, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd yn cynnal adolygiad o bolisïau rhywedd a chydraddoldeb Llywodraeth Cymru a fyddai'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, ystyried sut i symud rhywedd i'r blaen wrth wneud bob penderfyniad, gofalu bod cynllunio economaidd yn cyd-fynd â'r rhethreg ar rywedd, a gwneud Cymru, drwy ddeddfwriaeth newydd, y lle diogelaf i fod yn fenyw yn Ewrop gyfan—swnio'n wych, onid ydy, ond beth ydy'r manylion? Pryd fydd yr adolygiad yma yn cychwyn? Pwy fydd yn ei gynnal o? A fydd yna dargedau penodol a deilliannau penodol, a beth fydd pwrpas yr adolygiad yma?