Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 2:58, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, unwaith eto, diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ond y gwir cas amdani yw bod asiantaethau megis Uned Ddiogelwch Cam-drin Domestig a Cymorth i Fenywod Cymru yn datgan, ymhell o fod cyllid yn ddigonol i ariannu llochesau ychwanegol, maent bellach yn ofni y bydd rhai llochesau'n gorfod cau. Felly, a yw symud cyllid o'r prosiectau hyn i awdurdodau lleol yn ddewis amgen synhwyrol, o ystyried y posibilrwydd o frigdorri'r ffynhonnell hanfodol hon ar gyfer costau gweinyddol?