Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:04, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Hydref 2017, bu Heddlu De Cymru yn ymdrin â bron i 36,000 achos o gam-drin domestig, a'r rheini yw'r rhai y maent wedi ymdrin â hwy. Felly, mae hon yn broblem enfawr, ac mewn llawer o ffyrdd, nid yw ond yn cael cydnabyddiaeth lawn yn awr. A wnewch chi ymuno â mi a chanmol gwaith Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru? Yn wir, rwy'n credu bod yr arweiniad a ddangoswyd gan gomisiynwyr yr heddlu yn allweddol yn y maes hwn, ond cafodd comisiynydd heddlu De Cymru grant o £1.4 miliwn gan y Swyddfa Gartref y llynedd i helpu i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, gan ganolbwyntio ar ddiogelu ac atal, ac rwy'n deall mai hwn oedd y grant mwyaf a roddwyd i gomisiynydd yr heddlu. Credaf fod rhywfaint o waith gwych yn digwydd yn awr, ond mae'n dasg enfawr, ac mae llawer ohono'n ymwneud ag addysgu pobl, atal ymddygiad cyn iddo waethygu, ac ymagwedd dim goddefgarwch tuag at gam-drin.