2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 dair blynedd ers ei chymeradwyo? OAQ51978
Gwnaf, gyda phleser. Ers i'r Ddeddf ddod i rym, mae'r dull o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi cael ei drawsnewid. Mae gweithredu'r Ddeddf wedi arwain at fwy o hyfforddiant, canllawiau cryfach, newid arferion a chyfeiriad strategol clir yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru drwyddi draw. Mae'r trydydd sector yn parhau i chwarae rôl bwysig iawn yn hyn oll.
Wel, wrth gwrs, fel rydym wedi'i glywed heddiw, mae'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn faes hollbwysig yn eich portffolio, ac rwy'n croesawu'r ffordd rydych yn ymgysylltu mor llawn yn y maes polisi hanfodol hwn. Mae gan y Ddeddf hon dri diben: atal, diogelu a chefnogi, ac ym mis Tachwedd siaradais yn nigwyddiad aml-ffydd blynyddol Cynnau Cannwyll BAWSO yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, a thynnais sylw at y ffaith bod dwy fenyw yr wythnos, ar gyfartaledd, yn cael eu lladd gan bartner neu gyn-bartner yng Nghymru a Lloegr. Felly, o ystyried cymaint o drais sy'n parhau yn erbyn menywod a merched, a wnewch chi roi sylw pellach ar y cynnydd mewn perthynas â gweithredu'r ddeddfwriaeth arloesol hon, o ystyried yr heriau sy'n wynebu sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau arbenigol i fenywod, y pwysau ar ddarparwyr amlasiantaethol fel yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, byrddau iechyd, y mae pob un â rôl i'w chwarae, a'r GIG, yn enwedig o ganlyniad i gyni a'r pwysau y mae'r Llywodraeth hon yn ei wynebu o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU?
Gwnaf, yn wir. Rydym wedi gwneud cynnydd enfawr er gwaethaf yr heriau, ac mae sefydliadau ledled Cymru wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i'r Ddeddf ac i'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Nid yw hyn yn syndod i ni; gwyddom fod pobl yn ymroddedig iawn yn y maes hwn.
Rydym, fel y gŵyr Jane Hutt, yn y broses o symud i sylfaen gomisiynu ranbarthol gydgysylltiedig, a arweinir gan anghenion, ar gyfer gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Gwnawn hynny er mwyn gwella'r ffordd y bydd gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u cydgysylltu, fel y dywedais mewn atebion blaenorol, yn ogystal ag arbedion maint. Ond mae gennym wasanaethau trydydd sector arbenigol a fydd yn rhan hanfodol o'r dull rhanbarthol cydweithredol hwnnw, ac er mwyn ymhelaethu rhywfaint, mynychais lansiad consortiwm Seren Fôr bae'r gorllewin, sef consortiwm o bum sefydliad sydd wedi dod at ei gilydd i weithio ar y cyd. Rwy'n credu bod angen gwirioneddol i ni wneud yn siŵr nad yw'r ffordd rydym yn comisiynu gwasanaethau yn esgor ar ganlyniadau anfwriadol o ran lleihau cydweithio, ac rydym yn gobeithio y bydd y dull rhanbarthol hwn yn allweddol wrth ddwyn y gwasanaethau hynny ynghyd â sicrhau eu bod yn cydweithio mewn modd cydlynol ac yn rhannu eu data i gyd, yn hytrach na'n bod yn caffael gwasanaethau unigol a'u bod yn cystadlu â'i gilydd, ac yn tynnu eu data'n ôl yn naturiol. Felly, rydym yn ymrwymedig iawn i wneud hynny.
Mae ein fframwaith hyfforddiant cenedlaethol yn sicrhau bod y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn rhan greiddiol o'r gwasanaeth y mae ein cydweithwyr iechyd, tân ac achub ac awdurdodau lleol yn ei gynnig. Fel y dywedais yn gynharach, mae gwasanaethau cyhoeddus wedi dangos eu hymrwymiad i'r hyfforddiant ac mae dros 70,000 o bobl wedi'u hyfforddi hyd yma. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i gyhoeddi eu strategaethau lleol o dan y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol erbyn dechrau'r mis nesaf. Mae'n ymrwymiad allweddol yn y Ddeddf, ac mae'n ei rhoi ar sail strategol newydd, a fydd, yn ein barn ni, yn sicrhau'r arweinyddiaeth a'r cyfeiriad cryfach y mae'r sector eu hangen. Rydym yn falch iawn o fod wedi cyhoeddi ein canllawiau ein hunain, wrth i'r trydydd pen-blwydd agosáu.
Ysgrifennydd y Cabinet, rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Hydref 2017, bu Heddlu De Cymru yn ymdrin â bron i 36,000 achos o gam-drin domestig, a'r rheini yw'r rhai y maent wedi ymdrin â hwy. Felly, mae hon yn broblem enfawr, ac mewn llawer o ffyrdd, nid yw ond yn cael cydnabyddiaeth lawn yn awr. A wnewch chi ymuno â mi a chanmol gwaith Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru? Yn wir, rwy'n credu bod yr arweiniad a ddangoswyd gan gomisiynwyr yr heddlu yn allweddol yn y maes hwn, ond cafodd comisiynydd heddlu De Cymru grant o £1.4 miliwn gan y Swyddfa Gartref y llynedd i helpu i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, gan ganolbwyntio ar ddiogelu ac atal, ac rwy'n deall mai hwn oedd y grant mwyaf a roddwyd i gomisiynydd yr heddlu. Credaf fod rhywfaint o waith gwych yn digwydd yn awr, ond mae'n dasg enfawr, ac mae llawer ohono'n ymwneud ag addysgu pobl, atal ymddygiad cyn iddo waethygu, ac ymagwedd dim goddefgarwch tuag at gam-drin.
Ie, rwy'n cytuno'n llwyr. Cefais y pleser mawr o fynd gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu o amgylch y ganolfan wasanaeth amlasiantaethol, yng ngorsaf heddlu canol Caerdydd. Ni wn a yw'r Aelod wedi cael cyfle i wneud hynny, ond buaswn yn ei argymell i bob Aelod, os nad ydych wedi cael cyfle. Mae'n dangos yr arweiniad go iawn y mae gwasanaeth yr heddlu, yn arbennig, wedi'i roi i'r dull cydweithredol hwnnw. Roeddwn yn gallu gweld drosof fy hun sut y gallent wneud yn siŵr eu bod yn ymateb yn llawer cyflymach ac yn fwy priodol i'r holl ddigwyddiadau roeddent yn ymdrin â hwy, a gwneud defnydd llawer gwell o'r cyfoeth o ddata, a'r gweithwyr proffesiynol gwahanol i gyd yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd i wneud yn siŵr eu bod yn cael y canlyniad gorau posibl o dan yr amgylchiadau a wynebent.
Buom yn cydweithio gyda hwy, a—fel y dywedais—gyda nifer fawr o'n partneriaid statudol yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn cyflwyno ein hyfforddiant a'n cwrs e-ddysgu 'gofyn a gweithredu', a lansiwyd gennym yn gynharach y llynedd, ac mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ogystal. Y syniad yw sicrhau bod pob un o'n hymatebwyr cyntaf a'r bobl sy'n ymdrin â phobl o ddydd i ddydd yn sylwi ar arwyddion cynnar y math hwn o gam-drin domestig. Felly, mae ein staff addysgu, ein cynorthwywyr addysgu, ein gwasanaethau tân ac achub, ein gwasanaethau heddlu, ein gwasanaeth ambiwlans ac ymatebwyr eraill, i gyd yn cwblhau'r hyfforddiant 'gofyn a gweithredu'. Mae sawl haen i'r hyfforddiant, felly mae'r ymatebwyr rheng flaen yn cael pecyn hyfforddiant penodol, ac mae yna becynnau hyfforddiant cydgysylltiedig i bobl sy'n ymdrin â'r canlyniadau—gyda digwyddiadau byw go iawn, er enghraifft, yn y ganolfan ddiogelu amlasiantaethol.
Mae gennym nifer o ymgyrchoedd eraill hefyd oherwydd rydym yn ceisio mynd i'r afael ag achos llawer o hyn yn ogystal. Felly, lansiwyd ein hymgyrch Dyma Fi ym mis Ionawr. Roeddwn yn falch iawn o allu ei lansio yng Ngholeg Gŵyr, gyda chriw brwdfrydig iawn o bobl ifanc yng nghanol eu harddegau a gymerodd ran frwdfrydig iawn ynddi. Mae honno'n un o'r ymgyrchoedd sydd wedi cael y derbyniad gorau o'r holl ymgyrchoedd a gynhaliwyd gennym fel Llywodraeth, rwy'n credu. Mae'r ymateb iddi wedi bod yn anhygoel. Oherwydd bod hwn yn fater cymdeithasol mawr yn ogystal, a diben hynny—. Rydym yn gwybod bod stereoteipio ar sail rhywedd yn rhan fawr o'r hyn sy'n gyrru trais domestig, wrth i bobl geisio cydymffurfio â stereoteipiau nad ydynt yn realistig nac yn bosibl eu gwireddu. Rydych yn gweld y pwynt rwy'n ei wneud. Mae'n bwysig dros ben nad yw dynion yn teimlo bod yn rhaid iddynt fod yn gryf a beth bynnag arall, ac nad yw menywod yn teimlo bod yn rhaid iddynt fod yn ostyngedig mewn sefyllfaoedd lle mae trais domestig yn digwydd. Dyna un enghraifft yn unig. Ceir ystod fawr o rai eraill. Felly, mae honno wedi bod yn ymgyrch lwyddiannus iawn.
Gobeithio bod yr holl Aelodau wedi cael cyfle i weld yr ymgyrch. Mae i'w gweld ar lawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Rydym wedi cael mwy o ymateb i'r ymgyrch hon nag i unrhyw ymgyrch arall, rwy'n credu. Mae wedi bod yn rhyfeddol. Oherwydd fe welwn hyn fel angen i newid. Mae angen newid cymdeithasol er mwyn newid rhai o'r pethau, ac yn y cyfamser wrth gwrs, rydym yn parhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y rhai sy'n cael eu heffeithio.