Gwella Cysylltedd Rhyngrwyd Symudol

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:18, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Mae llawer o leoedd yng Nghymru sydd â chysylltedd rhyngrwyd symudol eilradd, fel y clywsom yn gynharach, ac nid yw fy etholaeth yn ddiogel rhag y broblem hon. Mae llawer o gymunedau wedi'u heffeithio, ond yn ddiweddar, yn y Porth, er enghraifft, nid oedd y cyngor yn gallu casglu data ar nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref oherwydd nad oedd y rhifydd yn gallu cael signal cyson. Wrth gwrs, mae hyn yn ddrwg i drigolion lleol, ond mae hefyd yn ddrwg i fusnesau. Nawr, rwy'n sylweddoli nad yw'r polisi telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru, ond mae yna ddulliau ar gael i chi ac rydych wedi amlinellu rhai ohonynt mewn atebion i gwestiynau yn gynharach. A wnewch chi gytuno i edrych ar leoedd, fel y Porth yn y Rhondda, sydd ar ei hôl hi mewn perthynas â'r hyn sy'n dderbyniol o ran cysylltedd rhyngrwyd symudol? Ac a wnewch chi ddefnyddio'r pwerau a'r dylanwad sydd gennych i ddatrys y problemau lleol hyn cyn gynted ag y bo modd?