Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 18 Ebrill 2018.
Yn bendant. Rwy'n hapus iawn i gytuno â hynny ac rwy'n ategu'r sylwadau a wnaeth Leanne Wood yn llwyr. Fel y mae'n digwydd, rwy'n cadeirio cyfarfod tasglu'r Cymoedd fore Llun sy'n ymwneud yn gyfan gwbl â chysylltedd digidol a bydd y mater hwnnw'n cael sylw blaenllaw yn y cyfarfod hwnnw gyda'r bwriad o wneud yn union hynny. Ac ymhlith y nifer o bethau y dywedais yn gynharach ein bod yn eu gwneud, rydym hefyd yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud gyda seilwaith cyhoeddus—felly, rhedeg signalau Wi-Fi oddi ar adeiladau cyhoeddus ac ati. Felly, mae cryn dipyn o waith ar y gweill mewn perthynas â chymhlethdodau'r gyfraith yn hynny o beth, oherwydd, yn anffodus, mae yna broblemau sy'n ymwneud â chymorth gwladwriaethol yn codi o'i ddefnyddio, ond rwy'n hyderus y gallwn ddatrys y rheini a darparu Wi-Fi da ar gyfer ein holl gymunedau ledled Cymru pan fyddwn wedi gwneud hynny. Ond yn ddigon diddorol, mae'r cyfarfod i drafod hynny ar gyfer y Cymoedd ddydd Llun.