4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:20, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Pasiwyd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gan y Cynulliad ar 21 Mawrth. Rydym wedi bod yn glir, cyn cyflwyno'r Bil, yn ystod ei daith ac yn dilyn hynny, mai dewis wrth gefn yw'r Bil. Drwy gydol y broses, rydym wedi ffafrio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) diwygiedig sy'n parchu datganoli, ac rydym yn parhau i ffafrio hwnnw. Rydym wedi dweud yn glir, hyd yn oed ar ôl cyflwyno'r Bil, ac yn wir, ar ôl pasio'r Bil, mai dyna yw ein prif ffocws o hyd. Mae cyd-Aelodau o fewn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddiflino yn eu hymdrechion, sy'n parhau, i ddod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar welliannau a fyddai'n gwneud Bil y DU yn dderbyniol i ni. Byddai cytundeb o'r fath yn ein galluogi i argymell i'r Cynulliad y dylai roi ei gydsyniad i'r Bil ymadael â'r UE, a fyddai'n cael gwared ar yr angen am ddeddfwriaeth ein hunain.

Fodd bynnag, yn absenoldeb unrhyw gytundeb, roeddem yn teimlo bod angen gwneud trefniadau cyfrifol ar gyfer y posibilrwydd na fyddai'r Cynulliad yn rhoi ei gydsyniad i'r Bil ymadael â'r UE. Cefnogwyd y dull hwn o weithredu gan y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad hwn pan basiodd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gyda mwyafrif mawr.

Fodd bynnag, yn amlwg, nid yw pasio Bil yw ddiwedd ar y broses. Fel y bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol, ar ôl cyfnod 4 pob Bil Cynulliad, mae cyfnod hysbysu yn dilyn ar unwaith. Yn ystod y cyfnod hwn, mae gan y Twrnai Cyffredinol a'r Cwnsler Cyffredinol bŵer i gyfeirio'r Bil at y Goruchaf Lys am benderfyniad ynglŷn ag a yw'r Bil, neu unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi penderfynu arfer y pŵer mewn perthynas â'r Bil hwn, a ddoe, cyfeiriodd y Bil at y Goruchaf Lys. Yn yr un modd, mae'r Twrnai Cyffredinol ac Adfocad Cyffredinol yr Alban wedi cyfeirio Bil parhad yr Alban at y Goruchaf Lys.

Er ei fod yn anffodus, nid wyf yn credu y dylem wneud môr a mynydd o'r datblygiad. Cyflwynasom ein deddfwriaeth ein hunain er mwyn osgoi cyrraedd sefyllfa lle nad oedd cytundeb wedi'i gyrraedd ar welliannau a lle nad oedd gennym Fil parhad mwyach fel dewis amgen. Yn yr un modd, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y cyfeiriad ar ddiwedd y cyfnod hysbysu, oherwydd nad oes cytundeb wedi'i gyrraedd eto ar gynnwys y Bil ymadael â'r UE ac oherwydd y byddent wedi colli'r hawl i wneud cyfeiriad pe na baent wedi gwneud hynny yn awr.

Mae trafodaethau'n parhau, ac rydym ni a Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau cytundeb. Felly, mae hwn yn fesur amddiffynnol ar ran y Twrnai Cyffredinol. Yn wir, nodaf ei fod, yn ei ddatganiad i'r wasg, yn pwysleisio:

Mae'r Llywodraeth yn mawr obeithio y bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys heb fod angen parhau â'r ymgyfreitha hwn.

Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi cyfeirio'r Bil yn ei gyfanrwydd at y Goruchaf Lys am benderfyniad, yn hytrach na chyfyngu'r cyfeiriad i adrannau penodol. Mae wedi dyfynnu nifer o seiliau yn y cyfeiriad, yn cynnwys nad yw'r Bil yn ymwneud â'r pynciau a restrir yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru, fod y Bil yn anghydnaws â chyfraith yr UE, yn gosod swyddogaethau nas caniateir ar Weinidogion y Goron, yn gwneud addasiadau nas caniateir i Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac yn gwneud addasiadau nas caniateir i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn deall mai ychydig o amser yn unig a gawsom i ystyried y dadleuon hyn, ond rydym yn parhau i fod yn glir yn ein safbwynt fod y Bil a basiwyd gan y Cynulliad o fewn ei gymhwysedd deddfwriaethol. Byddwn yn parhau i ystyried y cyfeiriad a'r dadleuon mwy manwl y bydd angen i'r Twrnai Cyffredinol eu darparu maes o law i gefnogi ei benderfyniad i gyfeirio fel rhan o'r trafodion, ond gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn, os bydd angen, yn amddiffyn y cyfeiriad yn llawn. Yn benodol, rydym yn cymryd camau i geisio cael gwrandawiad cyflym a byddwn yn rhoi gwybod i'r Cynulliad am unrhyw ddatblygiadau yn y cyswllt hwn.

Fel y pwysleisiais eisoes, rydym yn parhau i weithio tuag at sicrhau cytundeb ar y Bil ymadael â'r UE. Os ceir cytundeb o'r fath, bydd angen gwneud gwelliannau priodol i'r Bil ymadael â'r UE. Yna, bydd angen i'r Cynulliad ystyried y Bil terfynol fel rhan o'r broses o gynnig cydsyniad deddfwriaethol. Os yw'r Cynulliad yn y pen draw yn cymeradwyo cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil ymadael â'r UE, ni fydd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn angenrheidiol mwyach, a byddwn yn rhoi camau ar waith yn sgil hynny i ddiddymu'r Bil. Bryd hynny, byddem yn disgwyl i'r cyfeiriad gael ei dynnu'n ôl.