– Senedd Cymru am 3:20 pm ar 18 Ebrill 2018.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Rydw i’n galw ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. A gaf i gydnabod cyn dechrau ar y datganiad y cwestiynau sydd wedi’u cynnig gan Aelodau â diddordeb yn y testun pwysig a chyfredol hwn?
Pasiwyd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gan y Cynulliad ar 21 Mawrth. Rydym wedi bod yn glir, cyn cyflwyno'r Bil, yn ystod ei daith ac yn dilyn hynny, mai dewis wrth gefn yw'r Bil. Drwy gydol y broses, rydym wedi ffafrio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) diwygiedig sy'n parchu datganoli, ac rydym yn parhau i ffafrio hwnnw. Rydym wedi dweud yn glir, hyd yn oed ar ôl cyflwyno'r Bil, ac yn wir, ar ôl pasio'r Bil, mai dyna yw ein prif ffocws o hyd. Mae cyd-Aelodau o fewn Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddiflino yn eu hymdrechion, sy'n parhau, i ddod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar welliannau a fyddai'n gwneud Bil y DU yn dderbyniol i ni. Byddai cytundeb o'r fath yn ein galluogi i argymell i'r Cynulliad y dylai roi ei gydsyniad i'r Bil ymadael â'r UE, a fyddai'n cael gwared ar yr angen am ddeddfwriaeth ein hunain.
Fodd bynnag, yn absenoldeb unrhyw gytundeb, roeddem yn teimlo bod angen gwneud trefniadau cyfrifol ar gyfer y posibilrwydd na fyddai'r Cynulliad yn rhoi ei gydsyniad i'r Bil ymadael â'r UE. Cefnogwyd y dull hwn o weithredu gan y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad hwn pan basiodd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) gyda mwyafrif mawr.
Fodd bynnag, yn amlwg, nid yw pasio Bil yw ddiwedd ar y broses. Fel y bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol, ar ôl cyfnod 4 pob Bil Cynulliad, mae cyfnod hysbysu yn dilyn ar unwaith. Yn ystod y cyfnod hwn, mae gan y Twrnai Cyffredinol a'r Cwnsler Cyffredinol bŵer i gyfeirio'r Bil at y Goruchaf Lys am benderfyniad ynglŷn ag a yw'r Bil, neu unrhyw ddarpariaeth yn y Bil, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi penderfynu arfer y pŵer mewn perthynas â'r Bil hwn, a ddoe, cyfeiriodd y Bil at y Goruchaf Lys. Yn yr un modd, mae'r Twrnai Cyffredinol ac Adfocad Cyffredinol yr Alban wedi cyfeirio Bil parhad yr Alban at y Goruchaf Lys.
Er ei fod yn anffodus, nid wyf yn credu y dylem wneud môr a mynydd o'r datblygiad. Cyflwynasom ein deddfwriaeth ein hunain er mwyn osgoi cyrraedd sefyllfa lle nad oedd cytundeb wedi'i gyrraedd ar welliannau a lle nad oedd gennym Fil parhad mwyach fel dewis amgen. Yn yr un modd, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y cyfeiriad ar ddiwedd y cyfnod hysbysu, oherwydd nad oes cytundeb wedi'i gyrraedd eto ar gynnwys y Bil ymadael â'r UE ac oherwydd y byddent wedi colli'r hawl i wneud cyfeiriad pe na baent wedi gwneud hynny yn awr.
Mae trafodaethau'n parhau, ac rydym ni a Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau cytundeb. Felly, mae hwn yn fesur amddiffynnol ar ran y Twrnai Cyffredinol. Yn wir, nodaf ei fod, yn ei ddatganiad i'r wasg, yn pwysleisio:
Mae'r Llywodraeth yn mawr obeithio y bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys heb fod angen parhau â'r ymgyfreitha hwn.
Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi cyfeirio'r Bil yn ei gyfanrwydd at y Goruchaf Lys am benderfyniad, yn hytrach na chyfyngu'r cyfeiriad i adrannau penodol. Mae wedi dyfynnu nifer o seiliau yn y cyfeiriad, yn cynnwys nad yw'r Bil yn ymwneud â'r pynciau a restrir yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru, fod y Bil yn anghydnaws â chyfraith yr UE, yn gosod swyddogaethau nas caniateir ar Weinidogion y Goron, yn gwneud addasiadau nas caniateir i Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac yn gwneud addasiadau nas caniateir i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn deall mai ychydig o amser yn unig a gawsom i ystyried y dadleuon hyn, ond rydym yn parhau i fod yn glir yn ein safbwynt fod y Bil a basiwyd gan y Cynulliad o fewn ei gymhwysedd deddfwriaethol. Byddwn yn parhau i ystyried y cyfeiriad a'r dadleuon mwy manwl y bydd angen i'r Twrnai Cyffredinol eu darparu maes o law i gefnogi ei benderfyniad i gyfeirio fel rhan o'r trafodion, ond gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn, os bydd angen, yn amddiffyn y cyfeiriad yn llawn. Yn benodol, rydym yn cymryd camau i geisio cael gwrandawiad cyflym a byddwn yn rhoi gwybod i'r Cynulliad am unrhyw ddatblygiadau yn y cyswllt hwn.
Fel y pwysleisiais eisoes, rydym yn parhau i weithio tuag at sicrhau cytundeb ar y Bil ymadael â'r UE. Os ceir cytundeb o'r fath, bydd angen gwneud gwelliannau priodol i'r Bil ymadael â'r UE. Yna, bydd angen i'r Cynulliad ystyried y Bil terfynol fel rhan o'r broses o gynnig cydsyniad deddfwriaethol. Os yw'r Cynulliad yn y pen draw yn cymeradwyo cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil ymadael â'r UE, ni fydd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn angenrheidiol mwyach, a byddwn yn rhoi camau ar waith yn sgil hynny i ddiddymu'r Bil. Bryd hynny, byddem yn disgwyl i'r cyfeiriad gael ei dynnu'n ôl.
A gaf fi ddechrau drwy nodi tôn bwyllog y Cwnsler Cyffredinol? Rwy'n croesawu hyn fel arwydd fod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu o ddifrif i sicrhau cytundeb ar y materion hyn. Rwyf hefyd yn credu y dylid ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfeirio'r mater at y Goruchaf Lys fel ymgais i egluro'r sefyllfa gyfreithiol gyfredol. Wedi'r cyfan, roedd Llywydd yr Alban yn credu bod eu Bil y tu hwnt i'w cymhwysedd hwy, ac rydych wedi pwysleisio, Lywydd, wrth fynegi barn bendant mewn perthynas â'n Bil ni, fod y mater yn gytbwys iawn. Felly, ymddengys i mi fod ceisio'r eglurder hwn, o dan yr amgylchiadau hyn, yn beth rhesymol i'w wneud.
Fel y Cwnsler Cyffredinol, ar yr ochr hon i'r Cynulliad, credwn fod sicrhau cytundeb er mwyn gallu pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn hanfodol ac yn sicr ar hynny y dylem fod yn canolbwyntio, ac yn amlwg mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r Bil ymadael â'r UE gael ei ddiwygio'n briodol, mewn perthynas â chymal 11 yn benodol, er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd, ac rydym wedi cefnogi pob ymdrech resymol i gyflawni hyn a dyna fydd ein hagwedd. Mae sut y bydd y fframweithiau a'r dull o'u llywodraethu yn gweithredu yn berthnasol iawn i'r mater hwn. Unwaith eto, rydym wedi ceisio rhoi cymorth adeiladol i Lywodraeth Cymru wrth fynd ar drywydd y materion hyn yn seiliedig yn gyffredinol ar ryw fath o gysyniad o gydlywodraethu. Mae'r rhain yn faterion pwysig iawn i'r cyfansoddiad Prydeinig, i ddatblygiad datganoli, tra bôm yn y sefyllfa ryfedd hon o ymwahanu â'r Undeb Ewropeaidd.
Felly, er ein bod yn gwrthwynebu'r Bil parhad, rydym yn barod yn awr i weld y sefyllfa gyffredinol ac rydym yn annog pob plaid i fod yn bwyllog ac yn adeiladol. Tybed a all y Cwnsler Cyffredinol roi unrhyw arwydd pellach i ni o sefyllfa'r trafodaethau ar hyn o bryd. Ymddengys i mi, yn ôl y dôn ar y ddwy ochr, y gallem fod yn eithaf agos at sicrhau cytundeb ac rwy'n meddwl tybed a yw hwnnw'n ddarlleniad teg o'r sefyllfa—neu a oes cymhlethdodau mwy nag y gwyddom amdanynt ar hyn o bryd, efallai, sy'n gysylltiedig ag awdurdodaethau eraill a'u hagweddau hwy? Ond rwyf am gloi gyda hyn: o ystyried y datganiad hwn y prynhawn yma a'i naws adeiladol, byddwn yn annog pob plaid i weithio a dyblu eu hymdrechion i groesi'r llinell, fel y gallwn gael cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n amddiffyn y setliad datganoli yn briodol ac un y gall pob plaid gytuno arno.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Dylwn fod yn glir, yn amlwg, y byddai wedi bod yn well gennym pe na bai'r mater hwn wedi cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys, ond yn sicr, rydym yn deall pam y gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw ar y pryd, heddiw—ddoe, yn hytrach—sef y diwrnod olaf yr oedd y dewis hwnnw ar gael i'r Twrnai Cyffredinol.
Fe gyfeirioch chi at y trafodaethau mewn perthynas â chymhwysedd. Rydym yn credu o hyd fod gennym y cymhwysedd yn y lle hwn i weithredu'r Bil rydym wedi'i basio. Yr hyn y mae'r Twrnai Cyffredinol wedi'i nodi yn y cyfeiriad yw ei seiliau dros geisio barn y llys ar hynny. Nid yw wedi nodi'r rhesymau dros y seiliau hynny eto, felly nid ydym wedi gallu ymgysylltu â'r rhesymau dros hynny eto, er ein bod yn amlwg yn ystyried y seiliau rydym wedi'u cael. Byddwn yn cael y rhesymau llawnach maes o law.
Yn amlwg, mae trafodaethau wedi bod, ac yn parhau i fod, rhwng y tair Llywodraeth mewn perthynas â gwelliannau priodol i'r Bil ymadael â'r UE, ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Rydym yn mawr obeithio y byddant yn dod i ben mewn ffordd gadarnhaol. Rwyf am ailadrodd, rhag ofn bod unrhyw rithyn o amheuaeth, ein bod yn gobeithio'n gryf y bydd y Bil ymadael â'r UE yn cael ei ddiwygio'n briodol drwy gytundeb rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig, ac yn yr achos hwnnw, wrth gwrs, ni fydd y Bil, a gyfeiriwyd at y Goruchaf Lys ddoe, yn angenrheidiol mwyach.
Rydw i'n croesawu'r ffaith bod datganiad wedi cael ei wneud gan y Cwnsler Cyffredinol heddiw, ond mae'n rhaid imi ddweud hyn: fe wnaed addewid gan Weinidog y Goron ar lawr Tŷ'r Cyffredin cyn Nadolig, ganol mis Rhagfyr, y byddai hwn yn cael ei sortio. A dyma ni, mae'r Lady Boys of Bangkok wedi cyrraedd y bae, fel maen nhw'n ei wneud pob gwanwyn, ac nid ydym wedi cael ateb i'r broblem yma. Mae wedi bod yn glir, ers i'r Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd gael ei gyflwyno, bod angen gwella adran 11, ac mae yna o leiaf bedwar mis wedi mynd heibio heb unrhyw arwydd bod y Ceidwadwyr yn deall beth yw natur y datganoli maen nhw'n gyfrifol amdano fe.
Fe ddywedodd, heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin, Jeremy arall, Jeremy Wright, nad oedd cytundeb ynglŷn ag ystyr y gair continuity. Ai dyna ddehongliad y Cwnsler Cyffredinol o'r problem fan hyn yn ogystal? Ac os ydym ni yn gweld bod y Bil bellach wedi cael ei gyfeirio i'r Goruchaf Lys, pa sefyllfa ydyn ni ynddo nawr o ran gwariant gan y Llywodraeth hyn, a Llywodraeth San Steffan, i baratoi tuag at achos llys, i gymryd cwnsel, i ddechrau ymwneud a pharatoi? Achos rydym yn dechrau gwario arian cyhoeddus am rywbeth a ddylai fod wedi cael ei benderfynu yn wleidyddol dim jest heddiw, ond bedwar mis yn ôl. Ac felly, rwyf eisiau clywed gan y Cwnsler Cyffredinol, os yn bosib, mwy o syniad o amserlen fan hyn. Mae'n dweud bod e'n gobeithio y bydd y Goruchaf Lys yn cyflymu'r broses, achos mae yna broses yn bodoli, wrth gwrs, i'r Goruchaf Lys wneud hynny, ac mae'n ymddangos i mi y gallem ni gael penderfyniad ar y Bil yma cyn ein bod ni'n cael penderfyniad a chytundeb yn wleidyddol ynglŷn â natur datganoli a chymal 11.
Felly, beth yw'r cynlluniau sydd gan y Llywodraeth nawr i baratoi ar gyfer yr achos llys yma, a pha wariant cyhoeddus fydd yn rhan o hynny? A ydych chi am wneud hyn mewn unrhyw ffordd ar y cyd gyda Llywodraeth yr Alban? Ond wrth gwrs, rhaid cydnabod o bosib bod achos Cymru yn gryfach y tro yma nag achos Llywodraeth yr Alban, oherwydd ein bod ni wedi gwasgu'r Bil yma drwy'r darn olaf o'r toothpaste tube o dan y pwerau diwethaf, ac felly, o bosib, ein bod ni mewn sefyllfa gryfach. Ond a ydyn ni'n cydweithio gyda Llywodraeth yr Alban? A beth yn union nawr bydd y trefniadau os yw hwn yn mynd i'r Goruchaf Lys? Os oes yna wedyn gytundeb gwleidyddol, a oes yna wedyn welliannau yn cael eu gwneud i'r Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi neu efallai yn cyfeirio yn ôl at Dŷ'r Cyffredin? Ac wedyn, wrth gwrs, rhywbryd, bydd rhaid i ni gael penderfyniad fel Llywodraeth, os yw hyn yn digwydd—neu fel Senedd dylwn i ddweud; mae Llywodraeth yn dod mewn tair blynedd—os yw hyn yn digwydd, i rhoi cydsyniad deddfwriaethol, fel mae David Melding wedi dweud. A fyddai sicrwydd gyda ni, ac a wnewch chi roi'r sicrwydd i ni, y byddwn ni fel Cynulliad yn meddu ar yr holl wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad ar gydsyniad deddfwriaethol os daw at hynny?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. I fod yn hollol amlwg am y peth, wrth gwrs, nid fy newis i oedd danfon y Mesur, y Bil, i'r Goruchaf Lys. Felly, y cwestiwn i Lywodraeth Cymru yw beth yw'r camau sydd yn briodol i'w cymryd yng nghyd-destun y ffaith bod hynny wedi digwydd. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni baratoi ar gyfer bod hyn yn mynd i'r Llys. Bydd rhaid i ni baratoi. Mae gyda ni broses gyfreithiol nawr i'w ddilyn, ac maen rhaid i ni sicrhau bod buddiannau y lle hwn yn cael eu gwarchod drwy wario yr hyn sydd angen er mwyn sicrhau bod yr hawliau a bod y Mesur yn cael eu hamddiffyn yn y broses gyfreithiol sydd o'n blaenau ni.
Y cam nesaf un yw ein bod ni wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar y broses o gael dyddiad cynnar am unrhyw achos llys fydd angen. Mae trafodaethau eisoes wedi dechrau ynglŷn â hynny. Dyna'r cam nesaf un. O ran y cwestiwn ynglŷn â'r berthynas gyda'r Alban, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi cydweithio ac wedi bod yn gweithredu ar y cyd drwy'r broses yma, ac mae'r camau rydym ni wedi'u llwyddo i'w cael ar hyd y broses wedi digwydd yn sgil cydweithio fel yna. A'r bwriad yw, wrth ein bod ni'n mynd yn ein blaenau, ein bod ni'n dal yn gweithio mewn partneriaeth. Fel y gwnaeth yr Aelod gydnabod, mae sefyllfa yr Alban yn wahanol i sefyllfa Llywodraeth Cymru yn nhermau sut mae Bil yr Alban wedi'i strwythuro a'r dadansoddiad cyfansoddiadol sydd yn dod yn sgil hynny, ond, er hynny, rydym yn mynd i gydweithio gyda Llywodraeth yr Alban.
Ynglŷn â'r camau gyda chydsyniad yn y Senedd, yn y Cynulliad, bydd angen sicrhau amryw o bethau cyn ein bod ni'n gallu argymell bod y Cynulliad yn derbyn y Mesur yn San Steffan—hynny yw, bod cytundeb wedi ei gyrraedd, bod gwelliannau wedi eu cyrraedd a'u bod nhw wedi eu cynnig. Wedyn byddwn yn dod a gofyn am gydsyniad y Cynulliad yn y cyd-destun hwnnw. Buaswn i'n tybio, ar ôl hynny, y buasai camau'n cael eu cymryd i dynnu'r Mesur hwn yn ôl, ond mae angen edrych ar y camau hynny yn sgil beth sy'n digwydd ar hyn o bryd.
A gaf fi longyfarch y Cwnsler Cyffredinol ar ei ddull digyffro a phwyllog o fynd i'r afael â'r mater hwn, yn ogystal â chanmol y ffordd y disgrifiodd y sefyllfa rydym ynddi bellach fel datblygiad na ddylid gwneud môr a mynydd ohono? Os oes amheuon cyfreithiol dilys ynglŷn â chydnawsedd y Bil parhad â'r ddeddfwriaeth gyfredol sy'n sefydlu'r Cynulliad hwn ac yn datganoli pwerau, mae'n debyg ei bod hi'n iawn y dylid rhoi barn ar y mater, er mor anffodus yw hynny. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Simon Thomas, sef bod hwn, yn y bôn, yn fater gwleidyddol a ddylai fod wedi ei ddatrys ar lefel wleidyddol. Ac a yw'n rhannu fy nryswch parhaus ynglŷn ag arafwch Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymdrin â'r mater hwn a bod Llywodraeth sydd i bob golwg yn ymrwymedig i warchod y Deyrnas Unedig yn ceisio ysgogi argyfwng cyfansoddiadol diangen sy'n bygwth ei rhannu? Os gall arweinydd UKIP ddweud hynny, rydym bellach mewn sefyllfa ryfedd iawn yn hanes gwleidyddiaeth Prydain.
Mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar ôl cymeradwyo'r setliad deddfwriaethol sy'n gyfrifol am ein bodolaeth—ni ddylai hwnnw gael ei danseilio, yn uniongyrchol na'n anuniongyrchol, gan ei ddeddfau na'i fwriadau ei hun. Ni allaf ddeall, felly, pam fod Llywodraeth y DU wedi bod mor araf, ac yn parhau i fod yn araf mae'n ymddangos, yn ei hymateb i'r dadleuon a gyflwynwyd dros yr hyn rydym i gyd eisiau ei gyflawni yn y pen draw. Mae un o'r seiliau hynny a ddyfynnwyd gan y Twrnai Cyffredinol yn peri dryswch i mi, sef anghydnawsedd â chyfraith yr UE, o ystyried na fydd y Bil parhad yn dod i rym hyd nes y byddwn wedi gadael yr UE yn gyfreithiol mewn gwirionedd. Felly, ni wn a oes gan y Cwnsler Cyffredinol unrhyw wybodaeth ynglŷn â safbwynt y Twrnai Cyffredinol ar hyn, neu a yw hyn yn enghraifft o daflu sinc y gegin atom rhag ofn.
Mae'r cyfan yn ymddangos braidd yn broblemus ac anghyffredin, ond rwy'n falch y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn lliniaru'r mater yn y ffordd y mae wedi'i nodi, oherwydd mae'n angenrheidiol fod unrhyw ansicrwydd neu amwysedd yn cael ei ddatrys. Ni allwn gael ein rhoi mewn sefyllfa, sef yr hyn y lluniwyd y Bil parhad ei hun i ymdrin ag ef, lle y ceir rhyw fath o fwlch deddfwriaethol yn y gyfraith fel y mae'n gymwys yng Nghymru. Felly, mae'n eithaf rhyfedd. Mae gennym sefyllfa yn awr lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymgyfreitha ar Fil rydym wedi'i basio yn y lle hwn ac a gafodd ei lunio er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd amheuon cyfreithiol yn bodoli pan fyddwn yn gadael yr UE. Felly, mae'n baradocs a fydd, o bosibl, yn cael ei ddatrys gan hyn yn y pen draw.
Rhannaf y farn sydd wedi cael ei mynegi gan nifer o'r Aelodau sef bod hwn yn fater y dylid ei ddatrys ar lefel wleidyddol. Ac er mwyn bod yn glir, dyna yw dull Llywodraeth Cymru o weithredu; mae wedi cadw hynny mewn cof wrth fynd ati i drafod â llywodraethau eraill drwy gydol y broses. Yr amcan drwy'r adeg oedd dod i gytundeb mewn perthynas â'r Bil a oedd yn mynd drwy Senedd y DU, fel na fyddai'r broses rydym wedi'i dilyn drwy broses frys yn y lle hwn yn angenrheidiol yn y pen draw. Rwyf wedi dweud yn y gorffennol, mewn ymateb i gwestiynau eraill, fod amser wedi bod yn brin ers peth amser mewn perthynas â chytuno ar y gwelliannau hynny. Ond fel rwy'n dweud, rydym yn obeithiol y byddwn yn croesi'r llinell ac yn cytuno ar welliannau rydym ni fel Llywodraeth yn teimlo'n hapus i'w hargymell i'r Cynulliad, gyda'r ddwy Lywodraeth arall.
Mae'n tynnu sylw at un o'r seiliau y mae'r Twrnai Cyffredinol wedi'u nodi, sy'n ymwneud ag anghydnawsedd â chyfraith yr UE. Fel rwy'n dweud, rydym yn ystyried y dadansoddiad ar hyn o bryd a byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach iddo pan fyddwn yn cael dadleuon llawnach maes o law, er, yn amlwg, roedd yn un o'r seiliau a gafodd eu hystyried yn y trafodaethau yn y Siambr hon ac yn nadansoddiad y Llywydd yn ei datganiad. Mae'n ymddangos i mi mai'r hyn rydym wedi'i wneud yn y lle hwn yw cymryd camau o fewn y pwerau sy'n bodoli i'n paratoi ar gyfer cyfnod pan fyddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn yr un modd, os caf ddweud, ag y mae Tŷ'r Cyffredin wedi'i wneud gyda'u Bil hwy.
Rwyf am osgoi ailadrodd gormod o'r hyn y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i ddweud eisoes, ond rwyf am eich llongyfarch ar y ffordd rydych wedi cyflwyno dadl bwyllog y prynhawn yma. A gaf fi hefyd gofnodi'r ddadl bwyllog a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid pan fo'n cynnal y trafodaethau? Efallai fod hynny'n fwy rhwystredig o ran pam nad yw Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb eto mewn gwirionedd, oherwydd ymddengys eu bod yn peri rhwystredigaeth i ni'n gyson.
Mae gennyf ychydig o bwyntiau. Rwy'n derbyn nad oeddem eisiau cyflwyno Bil parhad, ond rydym wedi gwneud hynny oherwydd mai dyna'r peth cywir i'w wneud, ac mae'n rhaid i ni gofio hynny. Felly, pe bai'n dod i achos llys yn y pen draw, rwy'n gobeithio y byddwch chi, fel Llywodraeth Cymru, yn mynd ati'n frwd i amddiffyn hawliau'r sefydliad hwn i gyflwyno'r Bil hwn a gadael iddo weithio, oherwydd gwelsom yr angen am y Bil ac nid yw'r angen hwnnw wedi diflannu. Rydym yn rhagweld, o'r hyn a ddywedwyd, y byddwn yn cael trafodaeth gadarnhaol ynghyd â gwelliannau, ond fel y crybwyllodd Simon Thomas yn gynharach, dywedodd y Gweinidog Cabinet hynny o'r blaen yn San Steffan ac rydym yn dal heb ei chael. Felly, hyd nes y cytunir ac y cymeradwyir y gwelliannau, a hyd nes y byddant yn y Bil, rydym mewn sefyllfa lle mae'r Bil parhad hwnnw'n dal i gyflawni'r hyn rydym ei eisiau.
Yn yr ystyr hwnnw, a allwch roi eglurhad—? Fe wnaethoch sôn ychydig am yr hyn a fyddai'n digwydd. Yn gyntaf oll, os ceir cytundeb ac os gwelwn y gwelliannau hynny'n cael eu cymeradwyo a'u cynnwys yn y Bil, beth fydd y broses a fydd yn digwydd i'r Bil penodol hwn? Oherwydd rydym ni, fel Cynulliad, wedi cytuno ac wedi pasio'r Bil, felly beth yw'r broses wedyn ar gyfer diddymu'r Bil fel rydych newydd ei ddweud? Ac o ran amseru—heb fwrw sen ar gyfreithwyr, ond dyma ni eto—mae'r gyfraith yn cymryd amser hir iawn; nid yw'n broses gyflym. Gallem fod mewn sefyllfa lle bydd y Bil ymadael â'r UE yn cael ei gymeradwyo, heb ei ddiwygio, cyn i hyn fynd i'r llys. Beth fydd y sefyllfa os yw hynny'n digwydd? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hynny fel y gallwn sicrhau bod yr hyn a gymeradwywyd gennym ym mis Mawrth yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru mewn gwirionedd?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a diolch iddo hefyd am gydnabod gwaith fy nghyfaill, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn bwrw ymlaen â'r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n ategu hynny'n llwyr, os caf. Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch pwysigrwydd amddiffyn y trafodion hyn yn egnïol, ac yn sicr dyna yw fy mwriad i a bwriad Llywodraeth Cymru.
O ran yr hyn a fydd yn digwydd maes o law gyda diddymu, os mynnwch, bydd yr Aelod yn cofio bod y Bil, fel y'i pasiwyd gan y Cynulliad, yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r Ddeddf, ar ôl iddi gael ei phasio, i gael ei diddymu o dan amgylchiadau o'r fath. Er mwyn i hynny ddigwydd, wrth gwrs, byddai angen iddi gael Cydsyniad Brenhinol yn gyntaf. Felly, byddai cyfres o gamau, os mynnwch, y byddem angen cytuno arnynt gyda'r Twrnai Cyffredinol pe baem ni yma, maes o law, yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol a'n bod yn ystyried y gwelliannau i Fil Tŷ'r Cyffredin yn dderbyniol yn y lle hwn. Ond yn amlwg, byddai angen i'r camau gynnwys diddymu'r cyfeiriad i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol ac yna byddai'r pwerau hynny ar gael i Weinidogion Cymru yn y lle hwn ymdrin â'r broses honno o ddiddymu'r Bil.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.