Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 18 Ebrill 2018.
Rydw i'n croesawu'r ffaith bod datganiad wedi cael ei wneud gan y Cwnsler Cyffredinol heddiw, ond mae'n rhaid imi ddweud hyn: fe wnaed addewid gan Weinidog y Goron ar lawr Tŷ'r Cyffredin cyn Nadolig, ganol mis Rhagfyr, y byddai hwn yn cael ei sortio. A dyma ni, mae'r Lady Boys of Bangkok wedi cyrraedd y bae, fel maen nhw'n ei wneud pob gwanwyn, ac nid ydym wedi cael ateb i'r broblem yma. Mae wedi bod yn glir, ers i'r Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd gael ei gyflwyno, bod angen gwella adran 11, ac mae yna o leiaf bedwar mis wedi mynd heibio heb unrhyw arwydd bod y Ceidwadwyr yn deall beth yw natur y datganoli maen nhw'n gyfrifol amdano fe.
Fe ddywedodd, heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin, Jeremy arall, Jeremy Wright, nad oedd cytundeb ynglŷn ag ystyr y gair continuity. Ai dyna ddehongliad y Cwnsler Cyffredinol o'r problem fan hyn yn ogystal? Ac os ydym ni yn gweld bod y Bil bellach wedi cael ei gyfeirio i'r Goruchaf Lys, pa sefyllfa ydyn ni ynddo nawr o ran gwariant gan y Llywodraeth hyn, a Llywodraeth San Steffan, i baratoi tuag at achos llys, i gymryd cwnsel, i ddechrau ymwneud a pharatoi? Achos rydym yn dechrau gwario arian cyhoeddus am rywbeth a ddylai fod wedi cael ei benderfynu yn wleidyddol dim jest heddiw, ond bedwar mis yn ôl. Ac felly, rwyf eisiau clywed gan y Cwnsler Cyffredinol, os yn bosib, mwy o syniad o amserlen fan hyn. Mae'n dweud bod e'n gobeithio y bydd y Goruchaf Lys yn cyflymu'r broses, achos mae yna broses yn bodoli, wrth gwrs, i'r Goruchaf Lys wneud hynny, ac mae'n ymddangos i mi y gallem ni gael penderfyniad ar y Bil yma cyn ein bod ni'n cael penderfyniad a chytundeb yn wleidyddol ynglŷn â natur datganoli a chymal 11.
Felly, beth yw'r cynlluniau sydd gan y Llywodraeth nawr i baratoi ar gyfer yr achos llys yma, a pha wariant cyhoeddus fydd yn rhan o hynny? A ydych chi am wneud hyn mewn unrhyw ffordd ar y cyd gyda Llywodraeth yr Alban? Ond wrth gwrs, rhaid cydnabod o bosib bod achos Cymru yn gryfach y tro yma nag achos Llywodraeth yr Alban, oherwydd ein bod ni wedi gwasgu'r Bil yma drwy'r darn olaf o'r toothpaste tube o dan y pwerau diwethaf, ac felly, o bosib, ein bod ni mewn sefyllfa gryfach. Ond a ydyn ni'n cydweithio gyda Llywodraeth yr Alban? A beth yn union nawr bydd y trefniadau os yw hwn yn mynd i'r Goruchaf Lys? Os oes yna wedyn gytundeb gwleidyddol, a oes yna wedyn welliannau yn cael eu gwneud i'r Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi neu efallai yn cyfeirio yn ôl at Dŷ'r Cyffredin? Ac wedyn, wrth gwrs, rhywbryd, bydd rhaid i ni gael penderfyniad fel Llywodraeth, os yw hyn yn digwydd—neu fel Senedd dylwn i ddweud; mae Llywodraeth yn dod mewn tair blynedd—os yw hyn yn digwydd, i rhoi cydsyniad deddfwriaethol, fel mae David Melding wedi dweud. A fyddai sicrwydd gyda ni, ac a wnewch chi roi'r sicrwydd i ni, y byddwn ni fel Cynulliad yn meddu ar yr holl wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad ar gydsyniad deddfwriaethol os daw at hynny?