Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 18 Ebrill 2018.
A gaf fi longyfarch y Cwnsler Cyffredinol ar ei ddull digyffro a phwyllog o fynd i'r afael â'r mater hwn, yn ogystal â chanmol y ffordd y disgrifiodd y sefyllfa rydym ynddi bellach fel datblygiad na ddylid gwneud môr a mynydd ohono? Os oes amheuon cyfreithiol dilys ynglŷn â chydnawsedd y Bil parhad â'r ddeddfwriaeth gyfredol sy'n sefydlu'r Cynulliad hwn ac yn datganoli pwerau, mae'n debyg ei bod hi'n iawn y dylid rhoi barn ar y mater, er mor anffodus yw hynny. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Simon Thomas, sef bod hwn, yn y bôn, yn fater gwleidyddol a ddylai fod wedi ei ddatrys ar lefel wleidyddol. Ac a yw'n rhannu fy nryswch parhaus ynglŷn ag arafwch Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymdrin â'r mater hwn a bod Llywodraeth sydd i bob golwg yn ymrwymedig i warchod y Deyrnas Unedig yn ceisio ysgogi argyfwng cyfansoddiadol diangen sy'n bygwth ei rhannu? Os gall arweinydd UKIP ddweud hynny, rydym bellach mewn sefyllfa ryfedd iawn yn hanes gwleidyddiaeth Prydain.
Mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar ôl cymeradwyo'r setliad deddfwriaethol sy'n gyfrifol am ein bodolaeth—ni ddylai hwnnw gael ei danseilio, yn uniongyrchol na'n anuniongyrchol, gan ei ddeddfau na'i fwriadau ei hun. Ni allaf ddeall, felly, pam fod Llywodraeth y DU wedi bod mor araf, ac yn parhau i fod yn araf mae'n ymddangos, yn ei hymateb i'r dadleuon a gyflwynwyd dros yr hyn rydym i gyd eisiau ei gyflawni yn y pen draw. Mae un o'r seiliau hynny a ddyfynnwyd gan y Twrnai Cyffredinol yn peri dryswch i mi, sef anghydnawsedd â chyfraith yr UE, o ystyried na fydd y Bil parhad yn dod i rym hyd nes y byddwn wedi gadael yr UE yn gyfreithiol mewn gwirionedd. Felly, ni wn a oes gan y Cwnsler Cyffredinol unrhyw wybodaeth ynglŷn â safbwynt y Twrnai Cyffredinol ar hyn, neu a yw hyn yn enghraifft o daflu sinc y gegin atom rhag ofn.
Mae'r cyfan yn ymddangos braidd yn broblemus ac anghyffredin, ond rwy'n falch y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn lliniaru'r mater yn y ffordd y mae wedi'i nodi, oherwydd mae'n angenrheidiol fod unrhyw ansicrwydd neu amwysedd yn cael ei ddatrys. Ni allwn gael ein rhoi mewn sefyllfa, sef yr hyn y lluniwyd y Bil parhad ei hun i ymdrin ag ef, lle y ceir rhyw fath o fwlch deddfwriaethol yn y gyfraith fel y mae'n gymwys yng Nghymru. Felly, mae'n eithaf rhyfedd. Mae gennym sefyllfa yn awr lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymgyfreitha ar Fil rydym wedi'i basio yn y lle hwn ac a gafodd ei lunio er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd amheuon cyfreithiol yn bodoli pan fyddwn yn gadael yr UE. Felly, mae'n baradocs a fydd, o bosibl, yn cael ei ddatrys gan hyn yn y pen draw.