Pwynt o Drefn

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:43, 18 Ebrill 2018

Diolch, Llywydd. Hoffwn i godi pwynt o drefn o dan Reolau Sefydlog, ac yn benodol Rheol Sefydlog 13.9, ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr. Wrth ymateb i Angela Burns ac wedyn Adam Price ddoe, fe gyfeiriodd y Prif Weinidog ddwywaith ataf fi a'm gwaith fel ymgynghorydd arbennig i Weinidogion Plaid Cymru rhwng 2007 a 2010. Dywedodd e, o ran y gweithredoedd a ddisgrifiwyd gan Angela Burns, ac rwy'n dyfynnu: