– Senedd Cymru am 3:43 pm ar 18 Ebrill 2018.
Pwynt o drefn—Simon Thomas.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i godi pwynt o drefn o dan Reolau Sefydlog, ac yn benodol Rheol Sefydlog 13.9, ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr. Wrth ymateb i Angela Burns ac wedyn Adam Price ddoe, fe gyfeiriodd y Prif Weinidog ddwywaith ataf fi a'm gwaith fel ymgynghorydd arbennig i Weinidogion Plaid Cymru rhwng 2007 a 2010. Dywedodd e, o ran y gweithredoedd a ddisgrifiwyd gan Angela Burns, ac rwy'n dyfynnu:
Mae hynny'n arferol. Gwnaeth Gweinidogion Plaid Cymru, fel y bydd Simon Thomas yn gallu dweud wrthych chi, yn union yr un fath pan oedden nhw mewn Llywodraeth.
Rwyf eisiau ei wneud yn glir na wnes i, fel ymgynghorydd arbennig, byth gysylltu ag unrhyw gorff cyhoeddus i holi am gynnwys neu natur gohebiaeth gydag Aelodau'r Cynulliad, ac nid oedd hynny yn rhan o ddiwylliant Gweinidogion Llywodraeth Cymru'n Un hyd fy ngwybodaeth i. Felly, nid yw honiad y Prif Weinidog yn gywir.
Nid yw hynny'n bwynt o drefn i fi wneud dyfarniad arno, ond mae'r Aelodau wedi clywed beth oedd gyda chi i'w ddweud, Simon Thomas, ac mae bellach yn rhan o'r cofnod.