Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 18 Ebrill 2018.
Rwyf eisiau ei wneud yn glir na wnes i, fel ymgynghorydd arbennig, byth gysylltu ag unrhyw gorff cyhoeddus i holi am gynnwys neu natur gohebiaeth gydag Aelodau'r Cynulliad, ac nid oedd hynny yn rhan o ddiwylliant Gweinidogion Llywodraeth Cymru'n Un hyd fy ngwybodaeth i. Felly, nid yw honiad y Prif Weinidog yn gywir.