Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch, Simon. Mae'r Comisiwn yn falch o fanteisio ar y cyfle hwn i gyhoeddi ein bod wedi ennill ardystiad yn ddiweddar i'r safon ryngwladol ar gyfer rheoli amgylcheddol, ISO 14001. Fel rhan o'r system amgylcheddol hon, mae gennym darged lleihau carbon hirdymor o ostyngiad o 30 y cant yn ein hôl troed ynni erbyn 2021. Mae hyn yn adeiladu ar darged blaenorol oedd gennym am ostyngiad o 40 y cant yn ein hôl troed carbon erbyn 2015. Rydym yn gwneud cynnydd da gyda'r targed newydd hwn drwy ystod o gamau gweithredu, ac rydym wedi cyflawni gostyngiad o 23 y cant hyd yn hyn, fel rhan o'n KPI. Mae camau diweddar i gefnogi cynaliadwyedd yn cynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar yr ystâd.