3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
3. Pa waith y mae’r Comisiwn yn ei wneud i leihau allyriadau carbon? OAQ51979
Diolch, Simon. Mae'r Comisiwn yn falch o fanteisio ar y cyfle hwn i gyhoeddi ein bod wedi ennill ardystiad yn ddiweddar i'r safon ryngwladol ar gyfer rheoli amgylcheddol, ISO 14001. Fel rhan o'r system amgylcheddol hon, mae gennym darged lleihau carbon hirdymor o ostyngiad o 30 y cant yn ein hôl troed ynni erbyn 2021. Mae hyn yn adeiladu ar darged blaenorol oedd gennym am ostyngiad o 40 y cant yn ein hôl troed carbon erbyn 2015. Rydym yn gwneud cynnydd da gyda'r targed newydd hwn drwy ystod o gamau gweithredu, ac rydym wedi cyflawni gostyngiad o 23 y cant hyd yn hyn, fel rhan o'n KPI. Mae camau diweddar i gefnogi cynaliadwyedd yn cynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar yr ystâd.
A gaf i ddiolch i'r Comisiynydd am ateb, ac am ateb yn Gymraeg? Nid y jargon gorau a'r iaith orau mewn unrhyw iaith yw iaith amgylcheddol, rwy'n derbyn hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am hynny.
A gaf i longyfarch y Comisiwn ar ddau beth, yn gyntaf oll am ennill yr ISO ac am y safon amgylcheddol yna ac, yn ail, am y newyddion bod pwyntiau gwefru ceir trydan bellach wedi eu gosod? Rwy'n edrych ymlaen at edrych arnyn nhw fy hun, ac i fanteisio arnyn nhw.
Y cwestiwn ehangach roeddwn am ei ofyn heddiw oedd ynglŷn â sut mae'r Cynulliad yn annog teithio i'r Cynulliad mewn ffordd fwy cynaliadwy. Rwy'n sylwi wrth ymweld â phrif ddinasoedd eraill sydd â seneddau ynddyn nhw fod llwybrau cerdded neu seiclo i'r senedd wedi eu marcio gyda'r amseroedd arnyn nhw—'20 munud o gerdded i'r senedd hwn a'r llall'. Os ydych chi yng nghanol Caerdydd fyddech chi ddim yn gweld unrhyw arwydd yn dweud, 'Ffordd hyn lawr i gerdded at Senedd Cymru'. Ac rwy'n gofyn a fydd y Comisiwn efallai yn siarad â Chyngor Dinas Caerdydd, sydd yn cynllunio llwybrau diogel a hefyd llwybrau cynaliadwy o gerdded a seiclo, i wneud yn siŵr bod y ddinas yn gwneud llawer mwy o hysbysebu y ffyrdd amgen o deithio i fan hyn i'r Senedd ac, wrth gwrs, i Fae Caerdydd yn ogystal.
Diolch, Simon, ac rydych yn nodi pwynt dilys iawn am gysylltu â meysydd eraill, megis y cyngor, i egluro ein bod yn ceisio lleihau ein hôl troed carbon, ac yr hoffem edrych ar y gwahanol ffyrdd drwy deithio llesol, ac ati, o ddod i'r Senedd a mynd oddi yma, a hoffem annog ffyrdd amgen i Aelodau, teuluoedd yr Aelodau ac ymwelwyr â'r Senedd i ddod yma drwy ddulliau eraill o deithio, neu ffyrdd amgen. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny i chi.
Rydym yn cynhyrchu adroddiad amgylcheddol blynyddol ac fe'i cyhoeddir ar y wefan, felly tybed a ydych chi'n manteisio ar hynny, ac mae ein system amgylcheddol yn cael ei gwirio'n flynyddol. Mae gennym dargedau carbon hirdymor a chynlluniau gweithredu ar waith lle'r ydym yn gobeithio cyflawni hyn. Felly, byddaf yn ystyried eich cwestiwn ymhellach a dof yn ôl atoch gydag ateb. Diolch yn fawr.