Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch. Ysgrifennydd Cabinet, mae bron 40,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn erbyn ailenwi'r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru. Roedd pobl Cymru yn siomedig iawn, i ddweud y lleiaf, nad ymgynghorwyd â hwy, ond mae'n ymddangos, fel rydych wedi cadarnhau, eu bod wedi ymgynghori â'ch Llywodraeth, ond nad oedd gennych unrhyw wrthwynebiad. Ac nid yw hwn yn ddigwyddiad unigryw, oherwydd rai misoedd yn ôl yn unig cawsom ffiasgo'r 'fodrwy haearn' fel y'i gelwid a dathlu'r goncwest, y teimlai cynifer o bobl ei fod yn sarhaus. Roeddwn i'n meddwl mai'r syniad wrth wraidd cael Cynulliad Cenedlaethol i Gymru oedd adeiladu democratiaeth fodern, felly pam y credech ei bod yn syniad da gadael i Alun Cairns ailenwi'r bont yn 'bont Tywysog Cymru'? Pam na wnaeth eich Llywodraeth wrthwynebu, a hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol y byddem yn hoffi i'r brif fynedfa i'n gwlad gael ei henwi ar ôl rhywun o Gymru, sydd wedi cyflawni rhywbeth dros ein gwlad mewn gwirionedd? Mae gennym gynifer o bobl dalentog yn Nghymru, yn y gorffennol a'r presennol, felly pam nad ydynt yn ddigon da i gael y bont wedi'i henwi ar eu hôl?