5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn y cynnig arfaethedig i ailenwi’r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru? 159
Gwnaf. Ased Llywodraeth y DU yw'r ail bont Hafren. Ysgrifennodd Llywodraeth y DU i hysbysu'r Prif Weinidog ynglŷn â newid yr enw ym mis Medi 2017, ac nid oedd y Prif Weinidog yn gwrthwynebu'r cynnig.
Diolch. Ysgrifennydd Cabinet, mae bron 40,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn erbyn ailenwi'r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru. Roedd pobl Cymru yn siomedig iawn, i ddweud y lleiaf, nad ymgynghorwyd â hwy, ond mae'n ymddangos, fel rydych wedi cadarnhau, eu bod wedi ymgynghori â'ch Llywodraeth, ond nad oedd gennych unrhyw wrthwynebiad. Ac nid yw hwn yn ddigwyddiad unigryw, oherwydd rai misoedd yn ôl yn unig cawsom ffiasgo'r 'fodrwy haearn' fel y'i gelwid a dathlu'r goncwest, y teimlai cynifer o bobl ei fod yn sarhaus. Roeddwn i'n meddwl mai'r syniad wrth wraidd cael Cynulliad Cenedlaethol i Gymru oedd adeiladu democratiaeth fodern, felly pam y credech ei bod yn syniad da gadael i Alun Cairns ailenwi'r bont yn 'bont Tywysog Cymru'? Pam na wnaeth eich Llywodraeth wrthwynebu, a hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol y byddem yn hoffi i'r brif fynedfa i'n gwlad gael ei henwi ar ôl rhywun o Gymru, sydd wedi cyflawni rhywbeth dros ein gwlad mewn gwirionedd? Mae gennym gynifer o bobl dalentog yn Nghymru, yn y gorffennol a'r presennol, felly pam nad ydynt yn ddigon da i gael y bont wedi'i henwi ar eu hôl?
Wel, mae'r Llywodraeth hon wedi cydnabod llawer o bobl ddawnus a galluog o'n gorffennol drwy enwi, er enghraifft, byrddau iechyd a darnau eraill o seilwaith ar eu holau, ond mae'n werth ailadrodd y pwynt fod hon yn bont sy'n eiddo i Lywodraeth arall, ac mae ei hanner mewn gwlad arall, ac rwy'n poeni mwy am ddiddymu'r tollau dros y bont i leddfu llif y traffig nag am enwi'r bont ei hun. Ac er y credaf fod y bont wedi cael ei henwi i anrhydeddu a chydnabod y Tywysog Cymru presennol, ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Charles, ni welaf unrhyw reswm pam na ellir ei dathlu fel cofeb i holl dywysogion Cymru yn y gorffennol hefyd.
Mae'n ymddangos i mi, rwy'n credu, ei bod yn deyrnged briodol i nodi'r berthynas bwysig ac arbennig sydd gan Dywysog Cymru â'n cenedl drwy ailenwi'r bont ar achlysur ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain, ac i nodi hanner can mlynedd ers i'r Frenhines ei wneud yn Dywysog Cymru. Yn fy marn i, mae hyn yn rhywbeth y mae mwyafrif llethol y cyhoedd yng Nghymru yn ei groesawu.
A fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, ei bod yn llawer pwysicach i bobl Cymru ein bod yn sicrhau bod pontydd yr Hafren yn parhau i fod yn symbol o gyfraniad economaidd cryf Cymru i'r Deyrnas Unedig, ac y dylem fod yn hyrwyddo diddymu'r tollau ar bont Hafren, a fydd, wrth gwrs, yn hwb enfawr i economi Cymru, yn hytrach na chanolbwyntio ar fater cymharol ddibwys ailenwi'r bont?
Wel, buaswn yn wir. Credaf y bydd cael gwared ar y tollau ar bont Hafren yn anfon neges glir fod Cymru ar agor ar gyfer busnes, ac wrth inni adael yr UE, mae'n hanfodol ein bod yn achub ar bob cyfle i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang, ac mae'n ffaith mai ychydig iawn o ffigurau eraill sy'n fwy adnabyddus o gwmpas y byd na'i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, ac felly credaf y dylem nid yn unig gydnabod y gwaith gwerthfawr y mae wedi'i wneud, a llawer o aelodau eraill o'r teulu brenhinol—ac nid wyf yn dweud hyn fel breniniaethwr, ond fel gweriniaethwr—a'n bod yn parhau i wneud popeth a allwn i hyrwyddo Cymru'n fyd-eang.
A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am y pwynt ehangach ynglŷn â sut y mae'r Cynulliad hwn, Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd, neu beidio, a sut y gallwn ni fel Cynulliad graffu ar berfformiad yr Ysgrifennydd Gwladol? Nawr, nid wyf am ddychwelyd at yr hen ddyddiau o gael ymddangosiad blynyddol gan y rhaglaw yma, ond mae gennym gynifer o faterion lle rydym wedi bod angen cymorth pwrpasol, lefel uchel gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru deinamig: fel cael morlyn llanw ym Mae Abertawe, fel trydaneiddio prif linell reilffordd De Cymru, fel cael carchar mawr ym Maglan. Cymaint o faterion lle y gallai cefnogaeth ymroddedig, lefel uchel gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Yn lle hynny, cawn ailenwi dibwrpas pont ffordd na fydd yn gwneud dim i helpu sefyllfa economaidd Cymru a gwneud dim ond atgyfnerthu'r farn y dylai Cymru fach wrando ar ei meistri yn Llundain.
Ai dyn Cymru yn San Steffan yw'r Ysgrifennydd Gwladol neu ddyn San Steffan yng Nghymru? Hynny yw, lle mae diwedd hyn? Mae cymaint o bontydd ffyrdd yng Nghymru heb enw; mae cynifer o aelodau o'r teulu brenhinol yn parhau i fod heb gysylltiad ag unrhyw strwythurau o'r fath. Er hynny, cafwyd ymdrechion glew dros y blynyddoedd i rwbio ein trwynau ynddo fel cenedl a orchfygwyd drwy eneinio sawl ysbyty ag enwau brenhinol.
Felly, ai dyna ni? Neu a all y Prif Weinidog, neu unrhyw un arall, ddefnyddio eu dylanwad i ddylanwadu mwy ar ymddygiad yr Ysgrifennydd Gwladol er mwyn sicrhau'r penderfyniadau rydym o ddifrif am eu gweld yn digwydd yma yng Nghymru, fel y morlyn llanw ym Mae Abertawe? Diolch yn fawr.
Nid ydym bellach—. Mae fy nghyd-Aelod a'm cyfaill, Dafydd Elis-Thomas, yn llygad ei le, nid ydym wedi ein goresgyn mwyach; rydym yn genedl falch, rydym yn genedl hyderus, a dylai fod gennym hyder yn ein hunaniaeth yn ogystal. Drwy gael hyder, gallwn estyn allan yn fyd-eang, gallwn fod yn oddefgar, gallwn fod yn agored i bobl, a gallwn gydnabod, fel cenedl hyderus, y cyfraniad a wna pobl megis ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru i'n lles a'n ffyniant.
Mae'r Aelod yn iawn, ceir nifer enfawr o bontydd sydd heb eu henwi eto, ac roedd hi'n ddiddorol fod yna ymgyrch gyhoeddus enfawr ynghanol y 1990au, ymgyrch gyhoeddus enfawr, gyda degau o filoedd o bobl yn gwthio am enwi'r bont newydd yn Sir y Fflint yn bont y Foneddiges Diana. Ni ddigwyddodd hynny, ond mae'n dangos, er efallai fod 30,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb a nodwyd heddiw, fod dros 3 miliwn o bobl heb lofnodi'r ddeiseb. Yn wir, roedd llawer o ddegau o filoedd o bobl yn gwthio am enwi pont yng ngogledd y wlad ar ôl aelod o'r teulu brenhinol yn y 1990au.
Er nad oes gennyf unrhyw wrthwynebiad o gwbl i enwi'r bont ar ôl Tywysog Cymru, sydd â chysylltiadau Cymreig hysbys—bu ef a minnau yn cydfyw unwaith mewn rhyw ffordd fel preswylwyr yn Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth pan oeddem yn fyfyrwyr yn ôl yn 1969—rwy'n cytuno gyda Russell George fod angen inni hysbysebu rhan Cymru yn y Deyrnas Unedig yn cael ein rheoli gan frenhiniaeth hynafol.
Ond mae gennym ail bont, wrth gwrs, i'w henwi ar draws afon Hafren, ac oni fyddai'n syniad da, felly, inni gydnabod y traddodiad arall, sy'n eistedd ar fy ochr chwith yma yn y Cynulliad hwn? Efallai y gellid enwi honno ar ôl Owain Glyndŵr neu Lywelyn Ein Llyw Olaf.
Gallai hynny fod, ac unwaith eto, mae llawer iawn o bontydd o amgylch Cymru yn dal heb eu henwi. O ran rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i leoedd, cymunedau, a gwella ansawdd lle, ni welaf unrhyw reswm pam na ellid enwi rhagor o bontydd ar ôl unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i'n gorffennol, ac yn wir, i'n presennol. Buaswn yn croesawu enwi ein pontydd ar ôl unigolion o Gymru, ac yn wir, unigolion o dramor.
Mae yna nifer enfawr o bobl sydd naill ai wedi eu geni dramor neu sy'n byw dramor ar hyn o bryd, neu sydd wedi byw dramor, sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i Gymru. Ni welaf unrhyw reswm pam na ellid enwi mwy o asedau i'w hanrhydeddu.
Fodd bynnag, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn deall cyd-destun ehangach hyn? Mae'n Ysgrifennydd Gwladol sydd mewn gwirionedd yn gweld de-ddwyrain Cymru fel maestref i Fryste, sydd eisiau—ynghyd â'i gyfaill a'i gydweithiwr—ailgategoreiddio Cymru fel tywysogaeth. Mae'n rhan o ymgais fwriadol i ailintegreiddio Cymru mewn rhyw fath o gysyniad hiraethus o Brydain nad yw erioed wedi bodoli yn ôl pob tebyg; ymdrech i ailgoloneiddio yw hi. Dyna pam y mae wedi taro nerf oherwydd nid yw mewn gwirionedd yn cyd-fynd â'r syniad o Gymru fel y mae heddiw, heb sôn am y Gymru rydym am ei hadeiladu yn y dyfodol. Gallwn weld mai 15 parti stryd yn unig a gynhelir ledled Cymru gyda'r briodas frenhinol. Roedd 15 parti stryd yn fy mhentref i 40 mlynedd yn ôl. Mae Cymru wedi symud ymlaen, ac mae enwi pethau—. Mae symbolau'n bwysig oherwydd maent yn dweud rhywbeth am y genedl ydym ni, a dyna pam y mae hyn wedi corddi'r bobl. A gaf fi ofyn i Lywodraeth Cymru—rydych yno i gynrychioli pobl Cymru—oni wnewch chi ofyn i Lywodraeth y DU feddwl eto?
Na wnaf, ni wnawn ofyn i Lywodraeth y DU feddwl eto. Credaf ei bod hi'n hollol iawn fod Tywysog Cymru yn cael ei gydnabod, a chredaf fod enwi'r bont ar ei ôl, er mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw hynny, yn rhywbeth y bydd llawer iawn o bobl yng Nghymru yn ei gefnogi. Ond hoffwn ddweud hefyd fod yna nifer enfawr o bontydd eraill y gallem eu henwi i anrhydeddu pobl eraill. Buaswn yn annog yr Aelod i ailystyried y defnydd o'r term 'ailgoloneiddio', oherwydd nid wyf yn gweld unrhyw dystiolaeth fod hynny'n digwydd, a buaswn hefyd yn dweud bod fy ffrind da a'm cyd-Aelod yn gwneud gwaith rhagorol yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan gwych i dwristiaid, ac i bobl fyw ynddo.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.