Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 18 Ebrill 2018.
A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am y pwynt ehangach ynglŷn â sut y mae'r Cynulliad hwn, Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd, neu beidio, a sut y gallwn ni fel Cynulliad graffu ar berfformiad yr Ysgrifennydd Gwladol? Nawr, nid wyf am ddychwelyd at yr hen ddyddiau o gael ymddangosiad blynyddol gan y rhaglaw yma, ond mae gennym gynifer o faterion lle rydym wedi bod angen cymorth pwrpasol, lefel uchel gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru deinamig: fel cael morlyn llanw ym Mae Abertawe, fel trydaneiddio prif linell reilffordd De Cymru, fel cael carchar mawr ym Maglan. Cymaint o faterion lle y gallai cefnogaeth ymroddedig, lefel uchel gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod wedi gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Yn lle hynny, cawn ailenwi dibwrpas pont ffordd na fydd yn gwneud dim i helpu sefyllfa economaidd Cymru a gwneud dim ond atgyfnerthu'r farn y dylai Cymru fach wrando ar ei meistri yn Llundain.
Ai dyn Cymru yn San Steffan yw'r Ysgrifennydd Gwladol neu ddyn San Steffan yng Nghymru? Hynny yw, lle mae diwedd hyn? Mae cymaint o bontydd ffyrdd yng Nghymru heb enw; mae cynifer o aelodau o'r teulu brenhinol yn parhau i fod heb gysylltiad ag unrhyw strwythurau o'r fath. Er hynny, cafwyd ymdrechion glew dros y blynyddoedd i rwbio ein trwynau ynddo fel cenedl a orchfygwyd drwy eneinio sawl ysbyty ag enwau brenhinol.
Felly, ai dyna ni? Neu a all y Prif Weinidog, neu unrhyw un arall, ddefnyddio eu dylanwad i ddylanwadu mwy ar ymddygiad yr Ysgrifennydd Gwladol er mwyn sicrhau'r penderfyniadau rydym o ddifrif am eu gweld yn digwydd yma yng Nghymru, fel y morlyn llanw ym Mae Abertawe? Diolch yn fawr.