Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 18 Ebrill 2018.
Ddirprwy Lywydd, mae'r adroddiad yn gwneud cyfanswm o saith argymhelliad, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, pob un o'r saith. Fel arfer, nid wyf yn mynd drwy bob un o'r saith, ond y tro hwn fe wnaf hynny.
Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â'r angen i Lywodraeth Cymru archwilio ar frys beth yw paramedrau tebygol senarios Brexit amrywiol, gan gynnwys senario 'dim bargen', ac adrodd i'n pwyllgor o fewn chwe mis. Nawr, wrth baratoi'r adroddiad hwn, rydym wedi gweithio yn y gobaith diffuant y bydd y negodiadau erthygl 50 yn dod i ben gyda chanlyniad llwyddiannus i bawb, ac mae cynnydd wedi'i wneud yn ddi-os, yn enwedig ers i ni gyhoeddi ein hadroddiad. Ond mae'n bwysig i ni beidio â chilio rhag mynd i'r afael â chanlyniad 'dim bargen' a allai ddigwydd o hyd. Er ein bod yn glir nad yw hwn yn ganlyniad yr ystyriwn ei fod yn ddymunol mewn unrhyw ffordd, credwn fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o ran cynllunio senarios er mwyn paratoi Cymru. Yn ei hymateb, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr angen am hyn, a dywedir wrthym yn aml ei fod ar y gweill.
Roedd ein hail argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei hymchwil ar effaith gwahanol senarios Brexit ar economi Cymru, ac rydym yn falch o ddarllen dadansoddiad Ysgol Fusnes Caerdydd o'r effeithiau ar fusnesau mwy yng Nghymru. Yn ymateb Llywodraeth Cymru, sylwaf fod ymchwil pellach ar y gweill ar hyn o bryd. Hoffwn gofnodi'r ffaith bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at weld canlyniad y gwaith ymchwil hwnnw maes o law. Mae'n hanfodol fod gennym fynediad at wybodaeth a thystiolaeth sy'n llywio gwaith y Llywodraeth a'r ddadl gyhoeddus ehangach am ffurf canlyniad ymadael. Mae hynny'n ein galluogi i graffu ar weithredoedd y Llywodraeth a gwneud penderfyniadau mewn mwy o fanylder.
Mae'r trydydd argymhelliad yn ymwneud ag agwedd allweddol ar ein hymchwiliad, sef cyfathrebu. Yn ystod yr ymchwiliad, clywsom bryderon gan rai rhanddeiliaid nad oes gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i baratoi ar gyfer Brexit. At hynny, clywsom fod diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU a'r amrywiaeth eang, o bosibl, o senarios a allai ddigwydd o hyd yn llesteirio gallu gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector ac eraill i gynllunio a pharatoi'n ddigonol ar gyfer Brexit. Er inni glywed bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar lefel gynrychioliadol, clywsom hefyd fod yna heriau mewn perthynas â rhaeadru'r wybodaeth honno i lawr i sefydliadau a chyrff unigol a staff rheng flaen. I helpu i fynd i'r afael â hyn, mae argymhelliad 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella ei gwaith cyfathrebu â sefydliadau unigol drwy annog cyrff cynrychioliadol i raeadru gwybodaeth i lawr, ac ymhellach, i sefydliadau unigol edrych ar ymgysylltu dwy ffordd, oherwydd ceir gwybodaeth sy'n dod i fyny o'r gwaelod y dylid ei ystyried yn bwysig.
Yn ein hadroddiad, roeddem hefyd yn cydnabod bod gennym ein rôl ein hunain i'w chwarae o ran sicrhau bod y cyhoedd a chymdeithas sifil yng Nghymru â mynediad at wybodaeth ddibynadwy ac awdurdodol ar Brexit. Rwy'n manteisio ar y cyfle hwn—ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn caniatáu i mi wneud hynny—i atgoffa pawb am y newyddion rheolaidd ynghylch Brexit ac adroddiadau monitro a gynhyrchir gan Wasanaeth Ymchwil diduedd y Cynulliad sydd ar gael ar wefan y Cynulliad ac yn arbennig, hefyd, ar wefan ein pwyllgor. Felly, defnyddiwch y cyfle i gadw llygad ar yr holl wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r adroddiadau monitro yn rhagorol, ac unwaith eto, rwy'n cymeradwyo'r staff sy'n cynhyrchu'r adroddiadau hynny.
Yn yr un modd, mae argymhelliad 4 yn ymwneud â mater gwybodaeth a chyfathrebu ac yn benodol, galwn ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau clir a hygyrch ac arweiniad i fusnesau, sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ar oblygiadau senarios amrywiol, gan gynnwys senario 'dim bargen'. Yn ei hymateb, dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cytuno â'n hargymhelliad i raddau, ond mae'n dadlau nad yw'r amseru'n iawn. At hynny, mae ymateb y Llywodraeth yn codi mater pwysig o gyfnod pontio a beth y gall hynny ei olygu ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghymru. Rwy'n derbyn hynny i gyd, ac rwy'n cytuno ag ef. Byddwn yn cadw llygad ar sut y mae'r trafodaethau ar bontio'n datblygu, ond fel pwyllgor, nid ydym wedi dod i gasgliad pendant ynghylch pryd yn union y dylid cyhoeddi'r canllawiau hyn. Rwy'n cydnabod y dadleuon a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar yr angen i osgoi sbarduno mwy o ansicrwydd. Ond mae ansicrwydd yn bodoli, a rhaid inni ymdrin â'r ansicrwydd hwnnw gystal ag y gallwn. Fel y cyfryw, buaswn yn croesawu'r newyddion diweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod y ddadl heddiw ynglŷn â sut y mae'n rhagweld y bydd yr amserlenni ar gyfer y canllawiau'n datblygu, yn enwedig o ystyried cyfarfod diweddaraf y Cyngor Ewropeaidd a gynhaliwyd tuag at ddiwedd mis Mawrth.
I droi at argymhelliad 5, clywsom bryderon gan randdeiliaid am golli cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol a'r her y byddai hyn yn ei chreu i wasanaethau a sefydliadau yng Nghymru. Dyna pam y galwasom ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mwy o eglurder gan Lywodraeth y DU ar sut y byddai'r gronfa ffyniant gyffredin yn cael ei dyrannu a'i gweinyddu. Gwn y gallai hyn fod yn heriol oherwydd ar hyn o bryd nid wyf yn meddwl bod gan unrhyw un syniad beth y mae'n ei olygu hyd yn oed y tu hwnt i'r tri gair 'cronfa ffyniant gyffredin', ond mae'n bwysig eich bod yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am fanylion pellach ar hynny. Fel y mynegwyd gennym eisoes mewn gwaith cynharach ar bolisi rhanbarthol yng Nghymru, mae'n hanfodol nad yw Cymru yn waeth ei byd o ran arian cyfatebol o ganlyniad i DU yn gadael yr UE nag y byddai wedi bod pe baem wedi aros yn yr UE. Mae bod heb y wybodaeth honno yn peri anhawster i lawer o gyrff cyhoeddus yn benodol.
Mae ein chweched argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru, ar y cyd â'r gweithgor addysg uwch, i gyhoeddi unrhyw waith a wnaeth o ran ymchwil ac arloesi yn y sector addysg uwch ac i ystyried goblygiadau Brexit yn y sector hwnnw. Gwn ei fod wedi'i roi ar waith, ond nid ydym wedi gweld unrhyw gyhoeddiadau o hynny.
Clywsom yn uniongyrchol gan fyfyrwyr a'r sector prifysgolion am rôl hollbwysig cyllid Ewropeaidd ar gyfer ymchwil, cydweithio ac arloesi yn y gorffennol, a'r angen i sicrhau bod y sector prifysgolion yn chwarae rôl yn paratoi Cymru ar gyfer cyfleoedd posibl ar ôl Brexit. Ers cyhoeddi'r adroddiad, mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod y DU yn dymuno parhau i gymryd rhan mewn meysydd ymchwil ac arloesedd ledled yr UE, ac rydym yn croesawu hynny, ond dylai gwaith paratoi cynnar yng Nghymru sicrhau ein bod ar y flaen y gad yn hyn o beth.
Mae ein seithfed argymhelliad, a'r un terfynol, yn ymwneud â'r arian canlyniadol Barnett disgwyliedig y mae Llywodraeth Cymru i fod i'w gael o ganlyniad i'r arian ychwanegol a werir ar lefel y DU i baratoi ar gyfer Brexit. Rydym yn croesawu'n fawr y cyhoeddiad am y gronfa bontio o £15 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i nodi ar gyfer ei ddefnyddio er mwyn paratoi busnesau a sefydliadau ar gyfer Brexit. Mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ac eraill yng Nghymru yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i baratoi'n ddigonol ar gyfer Brexit. Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i adolygu'r sefyllfa ac fel pwyllgor, edrychwn ymlaen at graffu ar sut y caiff yr arian ei ddefnyddio.
Ond mae hefyd yn cydnabod bod y Canghellor yn ei ddatganiad ym mis Tachwedd wedi nodi y byddai £3 biliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer Brexit. Edrychwn ymlaen at ddysgu pa arian canlyniadol a ddaw i Gymru a sut y caiff ei wario i gefnogi busnesau a chyrff cyhoeddus yr effeithir arnynt gan y paratoadau ar gyfer Brexit a'i effeithiau, ond hefyd efallai, sut y caiff y busnesau a'r sefydliadau hynny eu cynorthwyo i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd a allai godi o ganlyniad i Brexit er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu at y diben hwnnw mewn gwirionedd.
Ddirprwy Lywydd, wrth ddod â fy sylwadau i ben, hoffwn atgoffa'r Siambr y bydd gan Brexit oblygiadau pwysig i lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru ac wrth i'r broses fynd rhagddi'n gyflym—ac mae'n mynd rhagddi'n gyflym; mae'n newid bron bob wythnos—mae'n ddyletswydd ar y Siambr hon i sicrhau, mewn meysydd lle mae gan Gymru ei phwerau a'i chyfrifoldebau ei hun, ein bod yn barod ar gyfer yr hyn sydd o'n blaenau, nid yn unig er mwyn lleihau unrhyw effeithiau negyddol, ond hefyd er mwyn bachu ar y cyfleoedd a fydd yn deillio o Brexit.