– Senedd Cymru am 4:18 pm ar 18 Ebrill 2018.
Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?' A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw, David Rees, i wneud y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit, a hefyd i wneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i.
Dirprwy Lywydd, fis diwethaf, nodwyd un flwyddyn hyd nes y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol, ar ôl i'r Prif Weinidog rhoi erthygl 50 o gytundeb Lisbon mewn grym. Yn ystod cam cyntaf y drafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, cytunwyd bod cynnydd digonol wedi'i wneud ar ddwy agwedd allweddol ar ymadawiad y DU, a bod llawer i'w drafod o hyd. Mae llawer o gwestiynau am sut y mae Cymru am baratoi ar gyfer Brexit wedi dod yn gliriach.
Ac yn ystod yr ymchwiliad hwn, aethom ati i archwilio sut y dylai Cymru, a Llywodraeth Cymru yn benodol, fod yn paratoi ar gyfer Brexit. Cafodd ansawdd ein sylfaen dystiolaeth ei wella'n fawr gan ein proses ymgynghori draddodiadol a sesiynau tystiolaeth lafar yn y Senedd, ac ymweliadau â rhanddeiliaid ym Mhrifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a Calsonic Kansei yn Llanelli. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, y rhanddeiliaid yr aethom i gyfarfod â hwy, y rhai a ddaeth i roi tystiolaeth a'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth ysgrifenedig. Ac fel pwyllgor, rydym bob amser yn ddiolchgar i'n tîm pwyllgor sy'n darparu'r cymorth i'n galluogi i gwblhau ein gwaith.
Ddirprwy Lywydd, mae'r adroddiad yn gwneud cyfanswm o saith argymhelliad, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, pob un o'r saith. Fel arfer, nid wyf yn mynd drwy bob un o'r saith, ond y tro hwn fe wnaf hynny.
Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â'r angen i Lywodraeth Cymru archwilio ar frys beth yw paramedrau tebygol senarios Brexit amrywiol, gan gynnwys senario 'dim bargen', ac adrodd i'n pwyllgor o fewn chwe mis. Nawr, wrth baratoi'r adroddiad hwn, rydym wedi gweithio yn y gobaith diffuant y bydd y negodiadau erthygl 50 yn dod i ben gyda chanlyniad llwyddiannus i bawb, ac mae cynnydd wedi'i wneud yn ddi-os, yn enwedig ers i ni gyhoeddi ein hadroddiad. Ond mae'n bwysig i ni beidio â chilio rhag mynd i'r afael â chanlyniad 'dim bargen' a allai ddigwydd o hyd. Er ein bod yn glir nad yw hwn yn ganlyniad yr ystyriwn ei fod yn ddymunol mewn unrhyw ffordd, credwn fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o ran cynllunio senarios er mwyn paratoi Cymru. Yn ei hymateb, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr angen am hyn, a dywedir wrthym yn aml ei fod ar y gweill.
Roedd ein hail argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei hymchwil ar effaith gwahanol senarios Brexit ar economi Cymru, ac rydym yn falch o ddarllen dadansoddiad Ysgol Fusnes Caerdydd o'r effeithiau ar fusnesau mwy yng Nghymru. Yn ymateb Llywodraeth Cymru, sylwaf fod ymchwil pellach ar y gweill ar hyn o bryd. Hoffwn gofnodi'r ffaith bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at weld canlyniad y gwaith ymchwil hwnnw maes o law. Mae'n hanfodol fod gennym fynediad at wybodaeth a thystiolaeth sy'n llywio gwaith y Llywodraeth a'r ddadl gyhoeddus ehangach am ffurf canlyniad ymadael. Mae hynny'n ein galluogi i graffu ar weithredoedd y Llywodraeth a gwneud penderfyniadau mewn mwy o fanylder.
Mae'r trydydd argymhelliad yn ymwneud ag agwedd allweddol ar ein hymchwiliad, sef cyfathrebu. Yn ystod yr ymchwiliad, clywsom bryderon gan rai rhanddeiliaid nad oes gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i baratoi ar gyfer Brexit. At hynny, clywsom fod diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU a'r amrywiaeth eang, o bosibl, o senarios a allai ddigwydd o hyd yn llesteirio gallu gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector ac eraill i gynllunio a pharatoi'n ddigonol ar gyfer Brexit. Er inni glywed bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar lefel gynrychioliadol, clywsom hefyd fod yna heriau mewn perthynas â rhaeadru'r wybodaeth honno i lawr i sefydliadau a chyrff unigol a staff rheng flaen. I helpu i fynd i'r afael â hyn, mae argymhelliad 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella ei gwaith cyfathrebu â sefydliadau unigol drwy annog cyrff cynrychioliadol i raeadru gwybodaeth i lawr, ac ymhellach, i sefydliadau unigol edrych ar ymgysylltu dwy ffordd, oherwydd ceir gwybodaeth sy'n dod i fyny o'r gwaelod y dylid ei ystyried yn bwysig.
Yn ein hadroddiad, roeddem hefyd yn cydnabod bod gennym ein rôl ein hunain i'w chwarae o ran sicrhau bod y cyhoedd a chymdeithas sifil yng Nghymru â mynediad at wybodaeth ddibynadwy ac awdurdodol ar Brexit. Rwy'n manteisio ar y cyfle hwn—ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn caniatáu i mi wneud hynny—i atgoffa pawb am y newyddion rheolaidd ynghylch Brexit ac adroddiadau monitro a gynhyrchir gan Wasanaeth Ymchwil diduedd y Cynulliad sydd ar gael ar wefan y Cynulliad ac yn arbennig, hefyd, ar wefan ein pwyllgor. Felly, defnyddiwch y cyfle i gadw llygad ar yr holl wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r adroddiadau monitro yn rhagorol, ac unwaith eto, rwy'n cymeradwyo'r staff sy'n cynhyrchu'r adroddiadau hynny.
Yn yr un modd, mae argymhelliad 4 yn ymwneud â mater gwybodaeth a chyfathrebu ac yn benodol, galwn ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau clir a hygyrch ac arweiniad i fusnesau, sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ar oblygiadau senarios amrywiol, gan gynnwys senario 'dim bargen'. Yn ei hymateb, dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cytuno â'n hargymhelliad i raddau, ond mae'n dadlau nad yw'r amseru'n iawn. At hynny, mae ymateb y Llywodraeth yn codi mater pwysig o gyfnod pontio a beth y gall hynny ei olygu ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghymru. Rwy'n derbyn hynny i gyd, ac rwy'n cytuno ag ef. Byddwn yn cadw llygad ar sut y mae'r trafodaethau ar bontio'n datblygu, ond fel pwyllgor, nid ydym wedi dod i gasgliad pendant ynghylch pryd yn union y dylid cyhoeddi'r canllawiau hyn. Rwy'n cydnabod y dadleuon a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar yr angen i osgoi sbarduno mwy o ansicrwydd. Ond mae ansicrwydd yn bodoli, a rhaid inni ymdrin â'r ansicrwydd hwnnw gystal ag y gallwn. Fel y cyfryw, buaswn yn croesawu'r newyddion diweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod y ddadl heddiw ynglŷn â sut y mae'n rhagweld y bydd yr amserlenni ar gyfer y canllawiau'n datblygu, yn enwedig o ystyried cyfarfod diweddaraf y Cyngor Ewropeaidd a gynhaliwyd tuag at ddiwedd mis Mawrth.
I droi at argymhelliad 5, clywsom bryderon gan randdeiliaid am golli cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol a'r her y byddai hyn yn ei chreu i wasanaethau a sefydliadau yng Nghymru. Dyna pam y galwasom ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mwy o eglurder gan Lywodraeth y DU ar sut y byddai'r gronfa ffyniant gyffredin yn cael ei dyrannu a'i gweinyddu. Gwn y gallai hyn fod yn heriol oherwydd ar hyn o bryd nid wyf yn meddwl bod gan unrhyw un syniad beth y mae'n ei olygu hyd yn oed y tu hwnt i'r tri gair 'cronfa ffyniant gyffredin', ond mae'n bwysig eich bod yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am fanylion pellach ar hynny. Fel y mynegwyd gennym eisoes mewn gwaith cynharach ar bolisi rhanbarthol yng Nghymru, mae'n hanfodol nad yw Cymru yn waeth ei byd o ran arian cyfatebol o ganlyniad i DU yn gadael yr UE nag y byddai wedi bod pe baem wedi aros yn yr UE. Mae bod heb y wybodaeth honno yn peri anhawster i lawer o gyrff cyhoeddus yn benodol.
Mae ein chweched argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru, ar y cyd â'r gweithgor addysg uwch, i gyhoeddi unrhyw waith a wnaeth o ran ymchwil ac arloesi yn y sector addysg uwch ac i ystyried goblygiadau Brexit yn y sector hwnnw. Gwn ei fod wedi'i roi ar waith, ond nid ydym wedi gweld unrhyw gyhoeddiadau o hynny.
Clywsom yn uniongyrchol gan fyfyrwyr a'r sector prifysgolion am rôl hollbwysig cyllid Ewropeaidd ar gyfer ymchwil, cydweithio ac arloesi yn y gorffennol, a'r angen i sicrhau bod y sector prifysgolion yn chwarae rôl yn paratoi Cymru ar gyfer cyfleoedd posibl ar ôl Brexit. Ers cyhoeddi'r adroddiad, mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod y DU yn dymuno parhau i gymryd rhan mewn meysydd ymchwil ac arloesedd ledled yr UE, ac rydym yn croesawu hynny, ond dylai gwaith paratoi cynnar yng Nghymru sicrhau ein bod ar y flaen y gad yn hyn o beth.
Mae ein seithfed argymhelliad, a'r un terfynol, yn ymwneud â'r arian canlyniadol Barnett disgwyliedig y mae Llywodraeth Cymru i fod i'w gael o ganlyniad i'r arian ychwanegol a werir ar lefel y DU i baratoi ar gyfer Brexit. Rydym yn croesawu'n fawr y cyhoeddiad am y gronfa bontio o £15 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i nodi ar gyfer ei ddefnyddio er mwyn paratoi busnesau a sefydliadau ar gyfer Brexit. Mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ac eraill yng Nghymru yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i baratoi'n ddigonol ar gyfer Brexit. Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i adolygu'r sefyllfa ac fel pwyllgor, edrychwn ymlaen at graffu ar sut y caiff yr arian ei ddefnyddio.
Ond mae hefyd yn cydnabod bod y Canghellor yn ei ddatganiad ym mis Tachwedd wedi nodi y byddai £3 biliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer Brexit. Edrychwn ymlaen at ddysgu pa arian canlyniadol a ddaw i Gymru a sut y caiff ei wario i gefnogi busnesau a chyrff cyhoeddus yr effeithir arnynt gan y paratoadau ar gyfer Brexit a'i effeithiau, ond hefyd efallai, sut y caiff y busnesau a'r sefydliadau hynny eu cynorthwyo i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd a allai godi o ganlyniad i Brexit er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu at y diben hwnnw mewn gwirionedd.
Ddirprwy Lywydd, wrth ddod â fy sylwadau i ben, hoffwn atgoffa'r Siambr y bydd gan Brexit oblygiadau pwysig i lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru ac wrth i'r broses fynd rhagddi'n gyflym—ac mae'n mynd rhagddi'n gyflym; mae'n newid bron bob wythnos—mae'n ddyletswydd ar y Siambr hon i sicrhau, mewn meysydd lle mae gan Gymru ei phwerau a'i chyfrifoldebau ei hun, ein bod yn barod ar gyfer yr hyn sydd o'n blaenau, nid yn unig er mwyn lleihau unrhyw effeithiau negyddol, ond hefyd er mwyn bachu ar y cyfleoedd a fydd yn deillio o Brexit.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion ein hadroddiad yn honni ei bod wedi symud
'yn gyflym yn dilyn canlyniad y refferendwm i greu’r gallu ar draws y Llywodraeth i ymateb i’r heriau ac i archwilio’r cyfleoedd y mae ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig.'
Fodd bynnag, gwyddom o'r adborth a gafwyd yn ystod ymweliadau pwyllgorau'r Cynulliad sy'n gysylltiedig â Brexit â Brwsel, Dulyn a mannau eraill mai ni, y pwyllgorau, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, a arweiniodd yr ymgysylltu a'r agenda hon. Rydym yn croesawu'r ffaith eu bod yn dilyn ein harweiniad.
Wrth dderbyn ein hargymhelliad cyntaf mewn egwyddor yn unig, dywed Llywodraeth Cymru y byddai senario 'dim bargen' yn drychinebus i Gymru, ond mae'n methu ymrwymo i ddarparu adroddiadau cynnydd ar ei harchwiliad o senarios Brexit amrywiol.
Yn ei haraith Mansion House y mis diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog:
Nid yn unig y mae'n rhaid i ni negodi ein hymadawiad o sefydliad sy'n cyffwrdd â chynifer o rannau pwysig o'n bywyd cenedlaethol, rhaid inni hefyd adeiladu perthynas newydd barhaol gan baratoi ar gyfer pob sefyllfa.
Ac fel y dywedodd yn Fflorens, rydym yn rhannu'r un set o gredoau sylfaenol; cred mewn masnach rydd, cystadleuaeth drwyadl a theg, hawliau defnyddwyr cryf, a bod ceisio trechu diwydiannau gwledydd eraill drwy sybsideiddio eich diwydiant eich hun mewn modd annheg yn gamgymeriad difrifol.
Dywedodd hefyd:
Bydd angen i gytundeb dwfn a chynhwysfawr gyda'r UE gynnwys ymrwymiadau sy'n adlewyrchu i ba raddau y mae economïau'r DU a'r UE ynghlwm wrth ei gilydd.
Wel, dechreuodd cam olaf y trafodaethau yr wythnos hon, gyda'r wasg yn datgan bod cysylltiadau rhwng yr UE a'r DU wedi'u normaleiddio lawer mwy a bod rhai o fewn yr UE yn credu y bydd llawer o'r manylion a'r sylwedd sy'n llywodraethu perthynas yr UE a'r DU yn y dyfodol yn cael eu datrys wedi i'r DU adael y bloc ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf mewn gwirionedd.
Wrth dderbyn ein hail argymhelliad mewn egwyddor yn unig, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod wedi gweithio'n agos gyda'i
'holl dimau sy’n ymwneud â’r sectorau, er mwyn... [c]ael gwell dealltwriaeth o’r darlun ar draws pob un o’r sectorau y bydd ymadawiad y DU â’r UE yn effeithio arnynt.'
Ac wrth dderbyn ein trydydd argymhelliad, dywed ei bod wedi bod yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys busnesau, ffermwyr, undebau llafur, cyrff addysg, gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a’r cyhoedd... i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o'u blaenoriaethau, eu pryderon a'u mannau gwan, gan gyfathrebu â safbwynt Llywodraeth Cymru ar ystod o faterion Brexit a bydd y gweithgarwch hwn yn parhau.
Fodd bynnag, fel y dywed ein hadroddiad, dywedodd Michael Trickey o Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 wrthym:
Nid wyf yn meddwl ein bod yn llawer iawn mwy datblygedig o ran ein dealltwriaeth o oblygiadau Brexit nag yr oeddem flwyddyn yn ôl mewn gwirionedd.
Cydnabu Mr Trickey a Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, fod unrhyw waith cynllunio senarios a wnaed hyd yma i'w weld yn gymharol gyfyngedig. At hynny, er bod y sefydliadau ymbarél yn ymwneud â Brexit, dywedodd Mr Trickey fod y mater—rwy'n dyfynnu—'yn teimlo'n bell iawn, iawn' ar lefel sefydliadau unigol.
Wrth dderbyn ein hargymhelliad 4 mewn egwyddor yn unig, mae Llywodraeth Cymru yn nodi
'Bydd angen meddwl yn ofalus cyn darparu canllawiau ar gyfer busnesau a’r trydydd sector, o ystyried pa mor eang yw ystod y buddiannau.'
Fodd bynnag, dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrthym y byddent yn hoffi gweld cyngor penodol ar gynllunio busnesau fferm yn ymwneud â'r gwahanol senarios masnachu ar ôl Brexit. Galwodd Undeb Amaethwyr Cymru ar Lywodraeth Cymru i fesur effeithiau posibl senarios ôl-Brexit gwahanol.
Ac er bod Conffederasiwn GIG Cymru o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd wedi anfon negeseuon e-bost at Aelodau ddoe yn datgan ei fod wedi bod yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i ystyried ac asesu maint yr effaith ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru ar ôl Brexit, dywedodd y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol y cyfarfuom â hwy ym mwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan yng Nghaerllion wrthym fod diffyg eglurder a chyfeiriad mewn perthynas â Brexit yn gwneud cynllunio wrth gefn yn anodd, ac o ganlyniad, nid yw'r sgyrsiau ynghylch cynllunio senarios wedi dechrau eto.
Fel y dywed Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'n hargymhelliad 5, rhaid i'r hyn a ddaw yn lle cronfeydd strwythurol yr UE weithio o fewn cyd-destun datganoledig. Er gwaethaf hyn, wrth gwrs, rydym hefyd yn nodi mai bwriad y cronfeydd hyn oedd cau'r bwlch ffyniant cymharol, ond yn wahanol i nifer o rai eraill sy'n eu derbyn ledled Ewrop, mae hyn wedi ehangu yng Nghymru.
Wrth dderbyn ein chweched argymhelliad, mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at
'oblygiadau Brexit i ymchwil ac arloesedd a gomisiynir gan y Llywodraeth yng Nghymru'.
Rhaid inni felly groesawu datganiad y Prif Weinidog sy'n dweud bod y DU hefyd wedi ymrwymo i sefydlu cytundeb gwyddoniaeth ac arloesi pellgyrhaeddol gyda'r UE, i hwyluso cyfnewid syniadau ac ymchwilwyr. Byddai hyn yn galluogi'r DU i gymryd rhan mewn rhaglenni allweddol ochr yn ochr â'n partneriaid yn yr UE.
Rydym yn dymuno'n dda i Lywodraeth Cymru yn ei gwaith ymgysylltu yn y dyfodol ar y mater hwn ond yn gobeithio y bydd yn ailystyried rhai agweddau ar ei hymateb ac yn ystyried ymhellach y dystiolaeth a gawsom. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor materion allanol am eu gwaith ar yr adroddiad hwn a hoffwn hefyd ddiolch i Steffan Lewis, nad yw'n gallu bod yma i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ond sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i waith y pwyllgor a bydd yn parhau i wneud hynny pan fydd yn gallu ymuno â hwy eto yn y dyfodol. Efallai nad oedd Brexit yn bolisi a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, ond bydd goblygiadau sylweddol yn deillio o weithredu canlyniad refferendwm yr UE i ddyfodol ein cenedl. Ein heconomi, ein hamgylchedd, ein gwasanaethau cyhoeddus—ychydig iawn a fydd heb ei effeithio gan delerau'r cytundeb gwahanu rhwng y DU a'r UE. Mae'r ansicrwydd y mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw ato y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n creu her go iawn i barodrwydd y Llywodraeth, busnes a'r sector cyhoeddus fod ein dyfodol yng Nghymru yn nwylo negodwyr o'r DU a'r UE ac yn dibynnu i'r fath raddau ar siâp y fargen derfynol.
Mae'r adroddiad hwn yn datgelu nifer o fylchau sy'n peri pryder yn y gwaith sy'n cael ei wneud i gael Cymru'n barod ar gyfer y nifer o ganlyniadau terfynol posibl a fydd yn deillio o'r negodiadau Brexit. Mae'n hanfodol fod craffu priodol yn digwydd ar waith paratoi Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit. Mae angen inni weld gwell cyfathrebu ac arweinyddiaeth fel y gall Cymru fod yn barod ar gyfer Brexit mewn pryd ar gyfer gwahanu oddi wrth yr UE. Mae amharodrwydd Llywodraeth Cymru i hyd yn oed ystyried y camau angenrheidiol ar gyfer paratoi ar gyfer senario Brexit 'dim bargen' yn peri pryder mawr. Rwy'n derbyn y byddai 'dim bargen' Brexit yn drychinebus. Pan wnaeth Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi ymchwil ar Brexit 'dim bargen', ni allent weld unrhyw fantais bosibl. Gallem weld silffoedd gwag mewn uwchfarchnadoedd a chynnydd o 20 y cant ym mhrisiau bwyd, gallai teithiau hedfan i Ewrop gael eu canslo ar y diwrnod ymadael, a gallem weld milltiroedd o dagfeydd yn ein porthladdoedd. Mae'n dra esgeulus ar ran y Torïaid i chwarae gyda dyfodol economaidd y DU drwy ystyried Brexit 'dim bargen' fel opsiwn. Rwy'n deall mai'r syniad yw y byddai Brexit 'dim bargen' yn llanastr a wnaed gan y Torïaid ac mai cyfrifoldeb y Torïaid yn San Steffan fyddai ei glirio, ond lle yr effeithir ar feysydd cymhwysedd datganoledig, bydd cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wneud beth bynnag sy'n bosibl i liniaru'r effeithiau. Rhaid i Gymru fod yn barod ar gyfer unrhyw bosibilrwydd, ac mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i gynllunio ar gyfer y canlyniad hwn sydd bron y tu hwnt i amgyffred.
I sefydliadau unigol, y mae llawer ohonynt eisoes yn teimlo dan bwysau, nid oes ganddynt gapasiti i feddwl am Brexit pan fo cymaint o waith o ddydd i ddydd i'w wneud. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw darparu'r canllawiau a sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cyrraedd y bobl iawn, yn enwedig yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n frawychus fod yr adroddiad hwn yn canfod bod nifer o sectorau yn teimlo eu bod yn brin o'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i baratoi'n ddigonol. Gwyddom y gallai goblygiadau Brexit i'n gwasanaethau cyhoeddus fod yn enfawr. Bydd colled o £680 miliwn o arian Ewropeaidd bob blwyddyn, heb unrhyw sicrwydd gwirioneddol eto gan Lywodraeth y DU y byddwn yn cael cyllid yn ei le.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y felin drafod Global Future yn awgrymu y byddai cytundeb terfynol yn unol â'r fargen benodol a ddymuna Llywodraeth y DU yn torri £615 miliwn yr wythnos oddi ar y swm o arian a fyddai ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn y DU—sy'n cyfateb i 22 y cant o'r hyn a werir ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, rydym yn gwybod y gallai ein mynediad at feddyginiaethau ac ymchwil feddygol gael eu amharu. Cafodd apêl Theresa May i gael parhau'n aelod cysylltiol o Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd ar ôl Brexit ei gwrthod gan y Comisiwn oherwydd ei bod hefyd am adael y farchnad sengl. Gallai cleifion Cymru gael eu hamddifadu o driniaethau sydd eu hangen arnynt a'r ymchwil fwyaf arloesol. Mae Canada yn aml yn cael cyffuriau newydd chwech i 12 mis ar ôl yr UE. Os mai bargen debyg fydd gan y DU, a fyddwn ninnau yn yr un cwch?
Ni allwn fod yn hunanfodlon ynglŷn â maint yr her a allai ein hwynebu, ond mae'r ansicrwydd parhaus a wynebwn ynghylch canlyniad y negodiadau Brexit yn gwneud unrhyw waith paratoi yn anodd iawn. Mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad gwerthfawr i'r drafodaeth ynglŷn â sut y gall Cymru ddechrau paratoi ar gyfer effaith bosibl Brexit, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar ei argymhellion.
Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r adroddiad a'r cyfraniad pwysig iawn y mae'r pwyllgor wedi'i wneud i'n dealltwriaeth o'r heriau rydym yn mynd i'w hwynebu wrth inni nesáu at Brexit. Mae yna ddau faes yr hoffwn gyfeirio atynt yn benodol.
Un yw bod Cadeirydd y pwyllgor, Dai Rees, a minnau wedi mynychu'r fforwm rhyngseneddol yng Nghaeredin, sef corff o bron holl bwyllgorau seneddol cyfansoddiadol Tŷ'r Arglwyddi, San Steffan, yr Alban a Chymru. Ac un o'r meysydd allweddol a oedd yn peri pryder yno, ar nifer o'r materion hyn, yw beth fydd yn digwydd, ar ôl Brexit, o ran y strwythur cyfansoddiadol sydd gennym mewn perthynas â'r angen am gytundebau ar faterion megis cymorth gwladwriaethol, amaethyddiaeth ac ati. Ac roedd yn beth prin iawn ar draws y pleidiau, ar draws yr holl bwyllgorau hyn, gyda'r amrywiaeth o ymchwil a thystiolaeth a'r adroddiadau a gynhyrchwyd, eu bod yn cytuno'n unfrydol nad yw'r cyd-bwyllgor Gweinidogion, ar ei ffurf bresennol, yn addas at y diben. 'Anaddas at y diben'—sylw dinistriol ac un y mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU wedi rhoi sylw iddo, ond gwn fod Llywodraeth Cymru yn un sydd wedi tynnu sylw ato'n barhaus. Mae'n faes hollbwysig sy'n galw am ei ddatrys.
Yr un arall, wrth gwrs—a chyfeiriodd Leanne Wood at gyllido ac arian a gollir—yw sylwadau a wnaed yn ddiweddar gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn tystiolaeth yn ymwneud â'r gronfa ffyniant gyffredinol. Mae'n ymddangos bod ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i wneud hon yn gronfa a reolir o San Steffan. Beth yw'r pwynt inni ennill y ddadl ar ddeddfwriaeth parhad, ennill y ddadl ar gymal 11, os yw Llywodraeth y DU yn cymryd rheolaeth ar y cronfeydd hynny ac yn gallu dweud wrthym, 'Gallwch gael yr holl bwerau a ddymunwch, ond ni chewch yr arian sy'n mynd gyda'r pwerau oni bai eich bod yn gwneud pethau fel rydym ni'n dweud'? Dyna wneud llanastr o ddatganoli. Mae'n tanseilio egwyddorion sylfaenol datganoli, ac mae'n rhywbeth sy'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef.
Ynddo'i hun, mae'r adroddiad hwn a'r ffaith bod ei holl argymhellion wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru yn un peth, ac mae'n iawn fod yna lefel uchel o ddadansoddi a chraffu wrth inni anelu tuag at Brexit. Pe bai cymaint o graffu wedi bod ar y newid a oedd yn digwydd wrth arwain tuag at unol daleithiau Ewrop, byddai'r DU wedi gwneud y penderfyniad synhwyrol i adael amser maith yn ôl. Ond nid oedd fawr ddim craffu neu ddadleuon, os o gwbl, yn y fan hon neu yn San Steffan pan oedd pwerau ychwanegol yn cael eu rhoi i ffwrdd, i raddau helaeth am fod pob plaid yn y Siambr hon ar y pryd yn cefnogi integreiddio pellach, er ei bod hi bellach yn amlwg nad oedd y cyhoedd yng Nghymru yn ei gefnogi.
Mae'r adroddiad yn synhwyrol ac yn werthfawr, wrth gwrs, ond mae'r cyfan yn dibynnu ar gynnwys prosesau cyfathrebu'r Llywodraeth hon â'r rhanddeiliaid perthnasol a'r cyhoedd. Ceir llawer yn y lle hwn ac eraill a fydd yn gwneud popeth a allant i anwybyddu ewyllys y pleidleiswyr a cheisio gwrthdroi'r penderfyniad democrataidd a wnaed yn y refferendwm, neu'n ceisio gadael yr UE mewn enw'n unig. Fy mhryder i yw y bydd Llywodraeth yn defnyddio ei chysylltiad â rhanddeiliaid i barhau ei phrosiect ofn i ennyn cefnogaeth i'r Brexit mwyaf meddal a diystyr sy'n bosibl. Yn eu trafodaethau, rwy'n tybio y byddant yn ceisio paentio darlun o sefydlogrwydd o fewn yr UE nad yw'n bodoli o gwbl.
Mae'r rhai sydd am aros yn ceisio dadlau y byddai gadael yn creu ansicrwydd, tra'n anwybyddu'r gwir amlwg y byddai aros hefyd yn creu ansicrwydd. Gyda'r holl symudiadau tuag at fwy o integreiddio gwleidyddol, mwy o bwerau'n cael eu hildio i Frwsel, byddin yr UE ac ati, nid oedd opsiwn 'status quo' ar y papur pleidleisio, ac nid oes opsiwn o'r fath yn awr chwaith.
Mae'r syniad y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau gwrthrychol a diduedd ar oblygiadau'r senarios Brexit amrywiol yn chwerthinllyd a dweud y gwir. Nid ydynt wedi llwyddo i ddweud unrhyw beth cywir am y senarios Brexit amrywiol hyd yn hyn, ac maent wedi rhoi eu hunain yn y sefyllfa hon drwy gychwyn ar brosiect ofn yn ystod ymgyrch y refferendwm. Aethant dros ben llestri i'r fath raddau gyda'u darlun o anobaith fel bod yn rhaid iddynt barhau gyda'r naratif hwnnw wrth adrodd yn ôl i'r lle hwn neu rywle arall rhag inni weld eu bod yn anghywir unwaith eto. Os ânt yn ôl at fusnesau a dweud, 'Gwyddom ein bod wedi dweud wrthych y byddai pleidleisio dros adael yn drychinebus, ond mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy'n wir,' byddent yn colli'r ychydig hygrededd a allai fod yn weddill ganddynt.
Nid yw'r Llywodraeth hon byth yn cyfaddef ei bod yn anghywir, ac mae hyn ar ei fwyaf amlwg pan fyddant yn ceisio dweud dros beth y pleidleisiodd y bobl a beth na phleidleisiodd y bobl drosto. Yn hytrach na derbyn bod y cyhoedd yn anghytuno â hwy, maent yn ceisio ailddiffinio beth oedd pobl Cymru yn ei fynegi drwy'r bleidlais i adael i'w gadw'n unol ag agenda wleidyddol eu plaid.
Felly, yn olaf, pa un a yw'n fater o archwilio senario 'dim bargen', cyhoeddi'r naw dadansoddiad sector, gwell cyfathrebu â sefydliadau, cyhoeddi canllawiau neu unrhyw un o'r argymhellion eraill, mae'r adroddiad a'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor yn un peth, ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr ei bod yn rhoi ewyllys pobl Cymru o flaen ei balchder cleisiog ac agenda wleidyddol eu plaid wrth gyflawni'r argymhellion. Diolch.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon fel aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ac o gofio natur anrhagweladwy'r canlyniadau yn y negodiadau Brexit, ceir meysydd, wrth gwrs, lle mae argymhellion a safbwyntiau'r pwyllgor eisoes wedi cael eu goddiweddyd. Roedd hi'n ddefnyddiol cael cadarnhad ynghylch cyfnod pontio ym mis Mawrth, gan fod hyn yn ansicr ar yr adeg y cynhaliodd y pwyllgor ei ymchwiliad. Rwy'n credu y gallwn weld bod y pwyllgor eisoes wedi dylanwadu ar Lywodraeth Cymru, ond rwy'n cytuno â datganiad Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb i'n hadroddiad, pan ddywed fod ei ymateb i argymhellion y pwyllgor yn dangos
'ein bod wedi dwysáu ein gwaith o baratoi ar gyfer Brexit'.
Ond mae gennyf ddiddordeb arbennig yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig. Mae hyn wedi'i grybwyll fwy nag unwaith y prynhawn yma. Mae hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar nifer o sefydliadau a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, gan nodi eu pryderon ynghylch goblygiadau ariannol Brexit, gyda Chymru ar hyn o bryd yn elwa ar £680 miliwn o gyllid Ewropeaidd bob blwyddyn, a hefyd gan edrych ar randdeiliaid megis Cytûn a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a thynnu sylw at yr angen i unrhyw gronfa yn y dyfodol gael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na Llywodraeth y DU, ac i fod yn seiliedig ar angen yn hytrach na chyfran o'r boblogaeth. Felly, byddai o gymorth pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y defnyddir y dystiolaeth gan y pwyllgor yn yr achos y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud dros drefniadau ariannu yn y dyfodol, sydd wedi eu hamlinellu'n glir iawn yn eich adroddiad 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit', ac a all gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrwydd na fydd Cymru yn waeth ei byd o ran arian cyfatebol o ganlyniad i adael yr UE.
Nawr, mae Mick Antoniw eisoes wedi rhoi adborth oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryderon sy'n codi o ganlyniad i'r dystiolaeth a roddwyd a sylwadau gan Lywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'n peri pryder, ac mae angen inni ddod â'r lleisiau at ei gilydd yng Nghymru a chynrychioli buddiannau Cymru yma yn y Siambr hon er mwyn sicrhau y mabwysiedir y cynigion ar ddull partneriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweinyddu cyllid.
Mae'n berthnasol i dynnu sylw at safbwyntiau'r pwyllgor yn yr adroddiad ar yr angen i ymdrin â materion cydraddoldeb a pharodrwydd ar gyfer Brexit. Nododd rhanddeiliaid eu pryderon yn yr ymchwiliad hwn am y goblygiadau i gydraddoldeb, gan ddweud bod yr UE wedi gwasanaethu fel rhwyd ddiogelwch, a mynegwyd pryderon ynghylch diffyg darpariaethau yn y Bil ymadael i drosi siarter yr UE ar hawliau sylfaenol i gyfraith ddomestig ar ôl Brexit. Rhoddodd y pwyllgorau sylw pellach i'r pryderon hyn, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn croesawu'r llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog gan David Rees a John Griffiths, Cadeiryddion y pwyllgorau perthnasol, ar oblygiadau Brexit i gydraddoldeb a hawliau dynol. Yn y llythyr at y Prif Weinidog mae Cadeiryddion ein pwyllgorau'n cyfeirio at y gronfa ffyniant gyffredin ac yn nodi mai Llywodraeth Cymru a ddylai weinyddu'r gronfa mewn perthynas â Chymru er mwyn sicrhau ei bod yn sensitif i anghenion anghydraddoldebau lleol. Maent hefyd yn dweud y dylid targedu arian tuag at fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ddoe gofynnais gwestiwn i arweinydd y tŷ ynglŷn â'n pŵer newydd i gychwyn dyletswydd economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010. Gofynnaf unwaith eto i Lywodraeth Cymru ystyried hyn fel mater o flaenoriaeth, a chydnabod y byddai hon yn ffordd y gallai Lywodraeth helpu i sicrhau parodrwydd ar gyfer Brexit o ran mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sydd wedi cael sylw gan fuddsoddiad drwy'r rhaglenni Ewropeaidd. Mae'r rhaglenni hyn wedi helpu i wrthdroi'r anghydraddoldebau strwythurol sydd wedi difetha cymunedau a rhoi grwpiau yng Nghymru dan anfantais a'r anghydraddoldebau cynyddol o ganlyniad i gyni ariannol, cyflogau isel a pholisïau treth a budd-daliadau ymosodol Llywodraeth y DU sydd ond yn mynd i waethygu oni bai ein bod yn defnyddio'r holl bwerau sydd gennym at ein defnydd i fynd i'r afael â hyn. Rwy'n siŵr fod hyn yn rhan o'r modd y dylai Llywodraeth Cymru baratoi ar gyfer Brexit.
Fel y dywedodd David Rees eisoes, yr addewid yn ystod y refferendwm oedd na fyddem yn waeth ein byd pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a mater i Senedd y DU yw sicrhau bod pa fargen bynnag a gytunir gan Mrs May, ac y daw â hi'n ôl i Senedd y DU, yn bodloni'r meini prawf hynny. Fel arall, dylent wybod beth i'w wneud â'r fargen honno. Ein gwaith ni yw mynegi anghenion Cymru a sut nad yw Cymru'n mynd i oddef colli ei phwerau datganoledig o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym eisoes wedi trafod y problemau sy'n ymwneud â'r gyfraith sy'n deillio o'r Undeb Ewropeaidd a'r cyfeiriad i'r Goruchaf Lys, felly dyma drafodaeth sy'n mynd i barhau. Ond credaf fod angen inni fod yn ddoeth yn wyneb y rhethreg sydd ynghlwm wrth hyn yn erbyn y realiti.
Pan ymwelodd aelodau'r pwyllgor â Toyota yng Nglannau Dyfrdwy ym mis Chwefror, dywedwyd yn glir iawn wrthym y byddai'n drychineb pe bai'r nwyddau mewn union bryd y maent yn eu mewnforio i Felixstowe yn mynd i gael eu dal yn ôl o ganlyniad i'r ffaith na fyddai gennym drefniant marchnad sengl bellach, a phe bai gwiriadau tollau ychwanegol yn Felixstowe, byddai'n amlwg yn codi cwestiwn ynglŷn ag a fyddai Toyota yn parhau yn y DU ai peidio. Felly roedd hi'n braf iawn gweld bod Toyota wedi cytuno i adeiladu'r injan ddiweddaraf ar Lannau Dyfrdwy, cyhoeddiad a wnaed ar ôl ein hymweliad.
Credaf mai un o'r problemau i mi yw nid yn unig yr amser y mae'r holl ymenyddiau mawr yn Llywodraeth Cymru yn gorfod ei dreulio ar y pwnc hwn pan allem fod yn ymdrin â materion eraill mwy taer fel dileu tlodi neu ddatrys digartrefedd, ond hefyd y gallai'r gost o adael yr UE fod yn enfawr. Yn ei haraith Mansion House, er enghraifft, nododd Mrs May nifer o asiantaethau'r UE yr oedd am i'r DU barhau i gymryd rhan ynddynt fel aelod cyswllt. Soniodd am yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, yr Asiantaeth Gemegion Ewropeaidd ac Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop fel rhai a oedd ganddi mewn golwg.
Gwnaeth ein trafodaethau â rhanddeiliaid hi'n glir fod y tair asiantaeth honno'n bwysig iawn i weithrediad parhaus sefydliadau Cymreig. Rhybuddiodd maes awyr Caerdydd os na fyddent yn rhan o Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop, y byddai'n effeithio'n sylweddol ar eu gallu i gystadlu â meysydd awyr Ewropeaidd eraill a byddai'n sicr yn creu costau newydd ac oedi newydd i'w gweithrediadau. Roedd Cydffederasiwn y GIG, y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain oll yn glir fod angen inni fod yn rhan o'r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau yn ogystal â'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Mae Leanne Wood eisoes wedi cyfeirio at y ffaith y byddwn yng nghefn y ciw o ran cael meddyginiaethau newydd os nad ydym yn rhan o'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, gan na fydd gennym economi ddigon mawr mwyach i'w gwneud hi'n werth rhoi blaenoriaeth i feddyginiaethau newydd yn ein gwlad, felly mae hynny'n amlwg yn fater difrifol iawn.
Un o'r bobl a welsom pan oeddem ym Mrwsel ddiwedd y mis diwethaf oedd Mr Stanislav Todorov, cynrychiolydd parhaol Bwlgaria, sy'n ffigur eithriadol o bwysig ar hyn o bryd, oherwydd mai Bwlgaria sy'n dal llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd, felly mae'r hyn a oedd ganddo i'w ddweud yn bwysig iawn. Roedd yn berffaith glir gyda ni—roedd yn braf ei weld yn bod mor glir a gonest gyda ni mewn gwirionedd—ynglŷn â'r disgwyliadau sy'n cael eu codi gan Mrs May ac eraill. Dywedodd hyn: 'Edrychwch, nod yr asiantaethau hyn i gyd yw cryfhau'r farchnad sengl, ac os nad yw'r DU yn rhan o'r farchnad sengl, nid ydynt yn mynd i fod yn aelodau o'r asiantaethau hyn.' Yn amlwg, gallwn negodi rhyw fath o statws sylwedydd, ond nid yw'n edrych yn addawol iawn os yw'r ymagwedd ddiwyro a fabwysiadwyd gan Fwlgaria yn cael ei hailadrodd ar draws gweddill yr UE. Felly, mae'n rhaid inni ofyn beth fydd y gost o sefydlu cyrff rheoleiddio tebyg yn y DU, sef arian na fydd gennym, felly, i'w wario ar bethau eraill fel inswleiddio ein holl gartrefi.
Felly, credaf fod yna duedd wirioneddol i fod eisiau ei chael hi bod ffordd yn hyn o beth, ond rwy'n gobeithio bod yr adroddiad hwn yn grynodeb defnyddiol o rai o'r materion y mae angen inni barhau i fynd ar eu trywydd er mwyn diogelu buddiannau Cymru.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i aelodau gweithgar iawn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Rwyf am ddiolch yn gyntaf am eu hadroddiad ac yn ail am y cyfle a gynigiwyd i mi a'r Prif Weinidog i roi tystiolaeth fel rhan o ymchwiliad y pwyllgor i sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit.
Ddirprwy Lywydd, fel y gwelaf fi, dyma'r sefyllfa: lle mae materion yn ein dwylo ni, credaf y gallwn ddangos bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n brydlon ac yn gyson i gasglu'r dystiolaeth a nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer Cymru wrth i ni symud tuag at Brexit. Lle mae gwaith paratoi'n dibynnu'n llwyr ar benderfyniadau a wneir gan eraill, mae ein gallu i baratoi yn anochel yn llai sicr—fel y dywedodd Leanne Wood yn gynharach, mae y tu allan i'n rheolaeth ni.
Hyd yn oed pan fyddwn yn ymdrin â'n cyfrifoldebau ein hunain, mae'r cyd-destun newidiol yn golygu bod yn rhaid inni adnewyddu ein hymdrechion ac ail-lunio ein camau gweithredu yn ôl y stori sy'n datblygu. Mae adroddiad y pwyllgor yn arbennig o ddefnyddiol yn casglu safbwyntiau ystod eang o sefydliadau sydd â diddordeb uniongyrchol yn Brexit a dod i gasgliadau ynglŷn â sut y gallwn weithio gyda'n gilydd hyd yn oed yn fwy agos yn y dyfodol.
Mae popeth a wnaethom fel Llywodraeth ers Mehefin 2016 wedi bod drwy ymgysylltu ag ystod mor eang o safbwyntiau a lleisiau Cymreig ag y gallasom eu crynhoi. Mae'r grŵp cynghori ar Ewrop, er enghraifft, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog yn union ar ôl y refferendwm, yn dwyn ynghyd ystod eang a dwfn o arbenigeddau. Mae'r cyfarfodydd o gwmpas y bwrdd ar Brexit a gadeirir gan fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths wedi bod yn fforwm uchel ei barch y gwnaed defnydd da iawn ohono yn y Gymru wledig. Mae gweithgor ymadael â'r UE cyngor datblygu'r economi, dan gadeiryddiaeth Ken Skates, wedi creu cyd-destun lle mae buddiannau economaidd allweddol yng Nghymru yn siarad yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru ar waith paratoi ar gyfer Brexit. A gallwn fynd o gwmpas bwrdd y Cabinet i gyd, Ddirprwy Lywydd, yn nodi'r ymgysylltiad uniongyrchol y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i ddatblygu â'r sector addysg, y sector iechyd ac ati, a byddwn yn parhau i wneud hyn ac i wneud mwy yn y cyfnod nesaf.
O'r cychwyn cyntaf, a'r papur ar y cyd a gynhyrchwyd â Phlaid Cymru ym mis Ionawr y llynedd, rydym wedi dadlau na ellid paratoi'n briodol ar gyfer bywyd y tu hwnt i Brexit o fewn dwy flynedd proses erthygl 50. Ar y cychwyn, ni yn unig a ddadleuodd dros gytundeb pontio. Wrth gwrs, erbyn hyn rydym yn croesawu'r cytundeb dros dro ar gyfnod pontio, hyd yn oed os ydym yn parhau i gredu y bydd angen ymestyn y gwaith paratoi ymhell y tu hwnt i'r 21 mis sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd.
Nodwyd yr ymateb gan y Llywodraeth i saith argymhelliad yr adroddiad gan y Prif Weinidog ar 12 Ebrill, ac mae'r cyd-destun hwn yn dylanwadu arnynt. Mae Cadeirydd y pwyllgor wedi dwyn rhan o fy araith drwy fynd drwy bob un o'r saith argymhelliad, ond bu'n ddadl eang ei chwmpas, Ddirprwy Lywydd, a chyffyrddodd ar gyfres o faterion pwysig iawn. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Mick Antoniw ar weithrediad y cyd-bwyllgor Gweinidogion a'r angen am brosesau rhynglywodraethol llawer cryfach i'r Deyrnas Unedig allu ffynnu ar yr ochr draw i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.
Mae Jane Hutt ac eraill yn tynnu sylw at y gronfa ffyniant gyffredin. Gadewch imi ei gwneud yn gwbl glir unwaith eto, Ddirprwy Lywydd: mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r gronfa ffyniant gyffredin yn llwyr. Mae'n enghraifft arall eto o gipio pŵer yn ôl i San Steffan. Yma y mae'r cyfrifoldeb dros ddatblygu economaidd rhanbarthol yn perthyn, ac mae pawb sydd wedi adrodd yn ei gylch yn annibynnol yn dadlau'r un fath. Mae'n hanfodol bwysig fod datblygu economaidd rhanbarthol yn cyd-fynd â'r sefydliadau sydd â phresenoldeb ar lawr gwlad yma yng Nghymru, sy'n gallu ymateb i'n partneriaid, yn gallu darparu'r gwasanaethau y mae datblygu economaidd yn dibynnu arnynt, ac mae cronfa ffyniant gyffredin a roddwyd mewn maniffesto na chafwyd mwyafrif o'i phlaid mewn etholiad, a lle'r aeth y Llywodraeth a'i cynigiodd tuag yn ôl yn gyflym yma yng Nghymru, yn brin o gydlyniad deallusol a mandad democrataidd.
Aeth Jenny Rathbone at wraidd cyfres o faterion yn ymwneud â pharodrwydd ar gyfer Brexit mewn perthynas â rhwystrau masnach y bydd busnesau Cymru yn eu hwynebu os ydym y tu hwnt i gymryd rhan lawn yn y farchnad sengl a'r tu allan i undeb tollau. Nododd hi a Leanne Wood gyfres o bwyntiau penodol yn y fan honno: hedfan—y posibilrwydd real na fyddwn yn gallu hedfan allan o'r wlad hon yn y ffordd y gallwn ei wneud heddiw; mynediad at feddyginiaethau newydd a niwclear—trefniadau iechyd cyhoeddus hanfodol. Rydym yn rhan o gyfres ar draws Ewrop o drefniadau sy'n diogelu iechyd pobl yma yng Nghymru bob dydd, ac os nad oes gennym fynediad at yr arolygiaeth honno, y wybodaeth honno, i'r bygythiadau i iechyd y cyhoedd y gwyddom y gallant ddigwydd yn unrhyw le ar draws y cyfandir, byddwn yn dlotach o ganlyniad.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ychydig am funud ar un thema allweddol yn argymhellion y Pwyllgor—y cynllunio senarios. Eisoes, rydym wedi cynhyrchu costau perthnasol cynllunio senarios i economi Cymru, canlyniadau gweithdai cynllunio senarios y grŵp bwrdd crwn Brexit, y senarios gwahaniaethol a gyhoeddwyd gennym ar gyfer dyfodol y diwydiant pysgota, y papur manwl yn nodi posibiliadau ar gyfer dyfodol datblygu economaidd rhanbarthol, gwaith dadansoddi opsiynau gwahanol ôl-Brexit Ysgol Fusnes Caerdydd ar gyfer cwmnïau mawr a chanolig yng Nghymru, gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar oblygiadau Brexit i amaethyddiaeth, ardaloedd gwledig a defnydd tir yng Nghymru—mae hyn i gyd yn dangos ein penderfyniad i barhau i gynllunio, paratoi a llunio'r dyfodol, dyfodol a wynebwn ar yr ochr draw i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Ond fel y dywedais ar y dechrau, Ddirprwy Lywydd, ceir cyfyngiadau gwirioneddol ar y cyngor dibynadwy a phendant y gellir ei ddarparu pan fo cymaint o ansicrwydd yn parhau. Mae'r adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau clir a hygyrch ar oblygiadau senarios Brexit amrywiol. Y broblem yw bod cyn lleied o eglurder yn bodoli.
Dychmygwch pe bawn wedi cynhyrchu canllawiau o'r fath ar sail araith Lancaster House y Prif Weinidog ym mis Ionawr y llynedd. Byddem wedi dweud wrth y nifer yr oedd yr adroddiad yn ymwneud â'u buddiannau i gynllunio ar gyfer Brexit yn seiliedig ar na i gyfnod pontio; na i dalu unrhyw fil ymadael; na i unrhyw rôl ar gyfer Llys Cyfiawnder Ewrop; na i barhau i gymryd rhan yn sefydliadau'r UE, a na i fargen dros hawliau dinasyddiaeth. Erbyn diwedd yr un flwyddyn, a'r cytundeb yn y Cyngor Ewropeaidd ym mis Rhagfyr, byddem yn cyhoeddi set hollol wahanol o ganllawiau. Bellach, byddwn yn dweud wrth rai sydd â buddiannau yng Nghymru i baratoi ar gyfer cyfnod pontio, ar gyfer dyfodol ariannol, a byddwn, yn gwbl briodol, yn talu ein biliau mewn biliynau o bunnoedd, sy'n mynd i bara hyd at 2064. Byddwn yn dweud wrth bobl am baratoi ar gyfer rôl warantedig ar gyfer Llys Cyfiawnder Ewrop, heb ei lleihau drwy'r cyfnod pontio ac i barhau ymhell y tu hwnt iddo. Byddwn yn dweud wrthynt am baratoi ar gyfer parhau i ymwneud â sefydliadau allweddol lle y gallwn berswadio'r UE 27 i ganiatáu i hynny ddigwydd, a chyfres o hawliau dinasyddiaeth sydd, diolch byth, yn mynd ymhell y tu hwnt i ddim yr oedd Mrs May yn barod i'w ystyried lai na blwyddyn yn gynharach. Nid yw'n fawr o syndod fod gweithwyr proffesiynol iechyd Caerllion wedi dweud wrth Mr Isherwood fod cynllunio senarios yn achosi problemau.
Y pwynt rwy'n ei wneud, Lywydd, yw hwn: wrth gwrs ein bod am y cyngor gorau posibl i ddinasyddion yng Nghymru, ond rhaid inni wneud hynny mewn amgylchiadau sy'n anorfod yn ansicr. Ni ellir cynllunio'n syml i gael gwared ar Brexit 'dim bargen', ni waeth pa mor soffistigedig yw'r dadansoddiad neu ba mor ronynnog yw'r treiddgarwch sectoraidd. Dyna pam yr ydym yn benderfynol o barhau i weithio gydag eraill yma yng Nghymru, gan ddilyn gwaith a chyngor y pwyllgor yn agos, fel ein bod yn paratoi gyda'n gilydd ar gyfer dyfodol gwahanol iawn a dyfodol sy'n gweithio i Gymru.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar David Rees i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Dirprwy Llywydd. Hoffwn ddiolch i Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma ac i Ysgrifennydd y Cabinet.
Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn egluro rhai o'r pwyntiau. Ac ar gyfer Leanne Wood: a wnewch chi hefyd drosglwyddo'r neges ynglŷn â pha mor bwysig yw'r rôl y mae Steffan Lewis yn ei chwarae yn y pwyllgor? Byddwn ninnau hefyd yn edrych ymlaen at ei weld yn dychwelyd i'r pwyllgor oherwydd mae ganddo rôl bwysig ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn y materion hyn ac mae'n helpu'r pwyllgor yn aruthrol. Felly, edrychwn ymlaen at ei weld yn dod yn ôl hefyd.
Mae wedi bod yn glir fod llawer o'r Aelodau wedi amlygu materion tebyg. Rydym wedi cael y cwestiynau ynghylch ariannu, ac rwy'n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlygu pa mor gryf yw gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i fwriadau posibl cronfa a reolir yn San Steffan, lle y dylai ganolbwyntio mwy mewn gwirionedd ar anghenion Cymru a dylid ei dyrannu i Gymru fel bloc i ganiatáu i hynny ddigwydd.
Unwaith eto, a gaf fi ddiolch i Mick am ei eiriau caredig ac am ei gyfraniad i'r pwyllgor, i'r gwaith ar Brexit? Ac mae'n hollol iawn: nid ydym ar ein pen ein hunain yn y mater hwn, mae'n digwydd ar draws y gwahanol sefydliadau o fewn y DU oherwydd roedd y cyfarfodydd a fynychwyd gennym yn cynrychioli'r Alban, Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin ac roedd teimlad unfrydol ynghylch methiant y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Ac ni allwn adael i Llywodraeth y DU reoli unrhyw gyllid a ddylai fod wedi bod yn dod i ni beth bynnag.
Pwysleisiodd Mark y pwynt ei fod yn siomedig iawn mai rhai yn unig a dderbyniwyd mewn egwyddor—a finnau hefyd. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ond rydym yn symud ymlaen, ac mae angen inni gael eglurder ar y canllawiau i ganiatáu i gyrff sefydlu cynlluniau wrth gefn. Mae hynny'n hollbwysig. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi bod terfynau i allu gwybod faint y gall ei roi oherwydd bod cymaint o ansicrwydd yn dal i fodoli, ac rwy'n sylweddoli hynny, ond rhaid inni baratoi ar gyfer hyn. Mae angen inni wybod yn awr fod yna gyfnod pontio, er mwyn inni ddechrau gweithio tuag at baratoi ar gyfer y cyfnod pontio hwnnw a beth bynnag sy'n digwydd wedyn. Ac rwy'n cytuno'n llwyr ag Ysgrifennydd y Cabinet ar farn bersonol: nid wyf yn credu y cawn bopeth wedi'i ddatrys cyn mis Hydref, pan fydd yn rhaid iddynt fynd at y Seneddau ar gyfer ystyried unrhyw gytundeb ymadael. Felly, mae hon yn mynd i fod yn gêm hir i'w chwarae.
A gaf fi hefyd atgoffa pawb o bencampwriaeth agenda cydraddoldebau Jane Hutt ar hyn? Mae hi wedi bod ar y blaen, yn gwthio'r pwyllgor i edrych ar y materion hyn a'r goblygiadau o ganlyniad i Brexit i gydraddoldebau a'r hyn y mae angen inni ei wneud ynglŷn â hynny, ac ni fyddwn yn pasio heibio i'r materion hynny.
Amlygodd Jenny Rathbone rywbeth am y cynrychiolydd o Fwlgaria, a soniwyd am yr asiantaethau. Cawsom ein hatgoffa ganddo, mewn gwirionedd, ynglŷn â chwestiwn diddorol: fod aelodaeth o asiantaethau yn gymhleth oherwydd bod rhai asiantaethau'n gysylltiedig â'r farchnad sengl, ac fel y cyfryw, rhaid inni edrych yn ofalus iawn. Os nad yw Theresa May am fod yn y farchnad sengl, mae hynny'n cyfyngu ar ein mynediad at asiantaethau. Felly, mae angen i Lywodraeth y DU feddwl o ddifrif, ac mae angen inni gael y trafodaethau hynny, a'r paratoadau, o ran beth fydd eu goblygiadau i Gymru.
Trof yn awr at Michelle Brown, a rhaid imi fynegi fy siom enfawr ei bod hi wedi defnyddio'r cyfle i ailddatgan dadleuon y refferendwm yn ôl yr hyn a welwn. Nid oes prosiect ofn, nid oes ond edrych ar sut y gallwn ddarparu'r gorau ar gyfer Cymru; dyna rydym yn ceisio ei wneud. Yn fy marn i, credaf ei bod wedi camddisgrifio gwaith y Llywodraeth. Ac maent yn ymateb; y nifer o weithiau y maent wedi sôn eu bod yn ymateb i ewyllys y bobl. Tybiaf y byddai'r Arlywydd Trump wedi galw'r rhan honno'n debycach i newyddion ffug na newyddion go iawn.
Felly, gadewch i ni gyfeirio'n ôl at yr hyn rydym yn canolbwyntio arno: sut y mae Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit? Ac mae hynny'n hollbwysig. Rydym yn wynebu llawer mwy o fisoedd i ddod—11 mis bellach, mewn gwirionedd, hyd nes y byddwn yn gadael, mae'n debyg mai tua chwe mis o negodi a fydd tan y cytundeb ymadael, ac yna y trafodaethau ar y cytundeb ymadael. Ac yn yr amser hwnnw, bydd yna lawer iawn o faterion a fydd yn codi, ar lefel yr UE a lefel y DU, y bydd yn rhaid eu negodi er mwyn sicrhau bod Cymru'n cael y fargen orau. Ac rydym yn paratoi ein busnesau, rydym yn paratoi ein cyrff cyhoeddus, rydym yn paratoi ein trydydd sector i sicrhau, pan fydd yn digwydd, ein bod mewn sefyllfa gref i symud ymlaen, a bod yr effaith arnom o ganlyniad i unrhyw beth sy'n codi o Brexit cyn lleied ag y bo modd.
Byddwn yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyfrif, oherwydd hoffwn ganmol Robin Walker, sydd wedi mynychu'r pwyllgor, ac mae wedi ymrwymo i ddod yn ôl. Byddwn yn eu dwyn i gyfrif. Byddai'n braf pe bai David Davis, yr Ysgrifennydd Gwladol, hefyd yn mynychu oherwydd gallai hynny ddangos, efallai, fod ei ddealltwriaeth o ddatganoli yn ogystal—mae'n ymddangos yn ddiffygiol ar hyn o bryd. Ond byddwn yn parhau â'n gwaith i ddiogelu buddiannau pobl Cymru. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau felly yn derbyn yr adroddiad a gadewch inni symud ymlaen, gan gadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd yn Brexit. A pheidiwch â thynnu eich llygaid oddi arno oherwydd os blinciwch, fe gollwch chi rywbeth.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.