Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 24 Ebrill 2018.
Wel, rwy'n credu bod arweinydd UKIP yn enghraifft o fywyd ar ôl marwolaeth mewn gwleidyddiaeth, er nad wyf i'n siŵr pa fath o fywyd gwleidyddol ydyw iddo fe. O'm safbwynt i, rwyf i wedi amlinellu amserlen. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y wlad yn cael parhad, ac wrth gwrs mae'n bwysig bod popeth yn ei le i baratoi ar gyfer fy olynydd, pwy bynnag y gallai fod.