Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:37, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, byddwn yn hiraethu ar ei ôl ar ôl iddo fynd. A hoffwn symud ymlaen nawr. Nid wyf i'n gwybod beth yw amcanion hirdymor y Prif Weinidog, a pha un a yw'n bwriadu sefyll i fod yn Aelod o'r Cynulliad yn etholiadau nesaf y Cynulliad ac, felly, i ba raddau y mae'n cynnal diddordeb ym mha un a fyddwn ni'n ehangu maint y sefydliad hwn ai peidio. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cychwyn ar ymarfer ymgynghori, nad yw ei ganlyniadau wedi eu cyhoeddi eto, ond does neb wir wedi canfod y teimlad ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, cyn belled ag y gwn i, ac felly mae UKIP wedi llenwi'r bwlch ac wedi cynnal arolwg barn, a gynhaliwyd gan Opinion Research, cwmni ymchwil i'r farchnad uchel ei barch. A gofynasom i'r cyhoedd, 'A ydych chi'n cefnogi cynnydd i nifer yr Aelodau Cynulliad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, o 60 i 80 neu 90?' Dim ond 32 y cant o ymatebwyr oedd o blaid cynnydd, nid yw 42 y cant a 26 y cant yn gwybod. A yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod hi'n iawn y dylem ni fwrw ymlaen â'r ymarfer hwn heb fynd â'r cyhoedd gyda ni?