Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:41, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, efallai y gallaf i eich helpu, Prif Weinidog. Yn ôl cyfran, mae mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi ar gontractau dim oriau nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU erbyn hyn. Os caf ei roi mewn ffordd arall, o dan Lywodraeth Lafur, mae mwy o bobl fesul pen o'r boblogaeth mewn gwaith dim oriau, ansefydlog nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. A allai'r Prif Weinidog gyfeirio'r 43,000 o bobl yng Nghymru sydd ar gontractau dim oriau at y man yng nghynllun gweithredu economaidd ei Lywodraeth lle mae strategaeth i atal yr arfer cyflogaeth gwrthun hwn?