Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 24 Ebrill 2018.
Dau beth: yn gyntaf, bydd yn yn y contract economaidd. Bydd pwyslais trwm iawn ar gyflogaeth deg. Yn ail, fel y cyhoeddais ddydd Sadwrn, bydd comisiwn gwaith teg yn cael ei sefydlu. Swyddogaeth y comisiwn hwnnw fydd edrych ar holl ysgogiadau—rhai deddfwriaethol o bosibl, rhai ddim—er mwyn sicrhau, cyn belled ag y gallwn ni fynd o ran y pwerau sydd gennym, ein bod wir yn gwneud Cymru yn wlad gwaith teg.