Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 24 Ebrill 2018.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sicrhau tegwch cymhariaeth prisiau rhwng Hinkley Point a morlyn llanw Bae Abertawe? Gan fod terfyn uchaf wedi'i roi ar gostau datgomisiynu a chostau storio datblygiad Hinkley Point, nid ydym cymharu tebyg â thebyg. Trwy bennu terfyn uchaf ar gostau adeiladu morlyn llanw Abertawe ar lefel lawer is na'r gost debygol, byddai'n llawer rhatach cynhyrchu trydan yno.