Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 24 Ebrill 2018.
Ie, yn wir. Mae Mike Hedges yn gwneud pwynt hynod bwysig. Mae Llywodraeth y DU wedi dewis amddiffyn trethdalwyr rhag ysgwyddo holl gostau gwastraff a rhwymedigaethau datgomisiynu gweithfeydd ynni niwclear newydd drwy Ddeddf Ynni 2008. Rydym ni ar ddeall bod amcangyfrif cyfanswm y costau datgomisiynu yn y cynllun datgomisiynu a ariennir, gan gynnwys y gronfa wrth gefn, ryw £8.5 biliwn, ond o ystyried y costau sy'n gysylltiedig â'r mynegai, gall y costau gwirioneddol erbyn diwedd oes weithredol yr orsaf o 60 mlynedd fod mor uchel â £116 biliwn, ar ôl ystyried chwyddiant. Nawr, yn amlwg, nid yw hynny'n chwarae teg. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt rhwng BEIS—yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol—y datblygwyr a Llywodraeth Cymru ynglŷn â materion technegol a chostau gwirioneddol sy'n gysylltiedig â morlyn llanw Bae Abertawe, gan gynnwys ariannu'r prosiect i gynnwys costau cyfatebol eraill.