Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 24 Ebrill 2018.
Cytunaf yn llwyr â'r Aelod fod arnom ddyled enfawr o ddiolch i'n cyn-filwyr. Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus nodi ei farn ar y mater yn glir iawn ac, wrth gwrs, bydd yr Aelod yn cael cyfleoedd i'w holi yn ystod ei amser cwestiynau ei hun, ynghylch unrhyw gamau pellach angenrheidiol. Ond hoffwn danlinellu'r hyn a ddywedodd, sef, wrth gwrs ein bod i gyd yn cydnabod bod arnom ddyled enfawr o ddiolch i'n cyn-filwyr, a ddylai gael y gwasanaethau gorau oll o ganlyniad i'w gwasanaeth.