Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 24 Ebrill 2018.
Rwy'n sylweddoli nad yw bob tro yn bosibl darparu datganiadau i'r Cynulliad hwn, ond rwy'n credu o ran terfynu Cymunedau yn Gyntaf, fod hynny yn deilwng o ddatganiad yma, a chafodd ei dynnu allan unwaith eto yr wythnos diwethaf ar ôl inni adael y siambrau dadlau hyn i'n rhanbarthau neu ein pwyllgorau. Nawr, o ystyried bod hon yn rhaglen flaenllaw Llywodraeth Lafur mewn cysylltiad â lliniaru effeithiau tlodi, mae'r ffaith na chafwyd unrhyw esboniad ynghylch beth fydd yn digwydd nesaf, nac unrhyw ddadansoddiad o'r hyn sydd wedi digwydd gyda Cymunedau yn Gyntaf yn y gorffennol, neu unrhyw gydnabyddiaeth o'r ffaith bod 50,000 yn fwy o blant yn wynebu byw mewn tlodi yng Nghymru erbyn hyn, yn rhywbeth yr wyf yn ei gael i fod braidd yn frawychus gan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad yma yn y Siambr hon, fel y gallwn ddeall, fel Aelodau Cynulliad, beth sy'n digwydd nesaf. Os bydd yn cael ei gynnwys yn y grant refeniw ar gyfer awdurdodau lleol, sut y byddwn yn monitro hynny, a sut ydym ni'n sicrhau y bydd y bobl hynny y mae angen cefnogaeth arnynt fwyaf yn ei chael.
Ac mae fy ail gais am ddatganiad gan yr un Gweinidog ar y fframwaith troseddwyr a gyhoeddodd, eto yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu bod angen i ni ddeall, os yw Llywodraeth Cymru yn oedi cynlluniau unrhyw garchar newydd, beth yw ystyr hynny o ran polisïau cyfiawnder troseddol ehangach y mae ef a'r Llywodraeth yn eu datblygu yn hyn o beth. Felly, hoffwn i weld y gallwn drafod hynny hefyd, er mwyn i ni, fel Aelodau Cynulliad, o bob rhan o'r Siambr, gyfrannu at y system cyfiawnder troseddol honno i Gymru.