Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 24 Ebrill 2018.
Arweinydd y Tŷ, rwy'n credu eich bod wedi cael rhyw syniad o'r hyn yr wyf eisiau ei godi. Byddwch yn gwybod y cyhoeddodd y Gweinidog tai ddatganiad ysgrifenedig ar dai fforddiadwy ac asesu'r angen yn y dyfodol, ac felly'r targedau ar gyfer cyflenwi. Rwyf yn credu y dylid bod wedi cyflwyno rhywbeth o'r fath arwyddocâd aruthrol i'r Siambr hon ar ffurf datganiad llafar. Mae'n agor y posibilrwydd o newid enfawr yn y polisi, a byddwn i'n croesawu hynny, ond, fel y nodwyd yn glir yn sylw'r wasg a ddeilliodd o ymgyrch eang Llywodraeth Cymru i gyfleu ei neges—nid wyf yn eich beirniadu am hynny, ond, yn amlwg, roedd Llywodraeth Cymru yn sylweddoli pa mor sylweddol oedd y cam a gymerwyd ddoe, ac, a dweud y gwir, nid ydych yn trin y Siambr hon â'r parch y mae'n ei haeddu drwy ei gyhoeddi ar ffurf datganiad ysgrifenedig.
Gallai fod wythnosau yn pasio cyn craffu ar hyn yn llawn, a ffurfio'r adolygiad mewn gwirionedd a'r grŵp a fydd yn cynnal yr adolygiad, a'r rhai a fydd yn rhan o'r grŵp hwnnw—mae arweinydd neu gadeirydd y grŵp hwnnw eisoes wedi'i ddewis gan y Gweinidog—ni chaiff ddim o hyn ei graffu'n gynnar yma, er gwaethaf y ffaith iddo fynd allan i'r byd a'r betws erbyn hyn drwy'r Western Mail a'r BBC. Rwyf yn gobeithio na fydd y math hwn o driniaeth wael yn digwydd eto. Os oes gennych ymgyrch wasg enfawr ar unrhyw gyhoeddiad, mae'n gwbl sicr y dylech chi wneud datganiad yma yn y Siambr.