Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 24 Ebrill 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i gytuno â'r sylwadau a wnaed yn gynharach gan Darren Millar ynghylch pen-blwydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn gant a hanner? Es i i'r digwyddiad hwnnw hefyd, ynghyd â llawer o Aelodau eraill y Cynulliad. Roedd yn llwyddiannus iawn a dymunwn y gorau iddynt.
Ar yr un pryd, cynhaliais i fy nigwyddiad fy hun i fyny'r grisiau yn yr Oriel ar gyfer Love Zimbabwe. Arweinydd y tŷ, mae bellach ryw bum mis ers ymddiswyddiad Robert Mugabe yn Zimbabwe. Mae'r wlad honno yn dal yn y broses—yn y dyddiau cynnar iawn—o adfer ei hun gyda chymorth cynifer o bobl â phosibl o weddill y byd. Mae canolbwynt gweithredu'r grŵp Love Zimbabwe wedi'i leoli yn fy etholaeth i. Ar hyn o bryd, rwyf wrthi'n codi arian ac yn casglu llyfrau i gyflenwi llyfrgell yn Zimbabwe ac i geisio cael y wlad honno i symud i'r cyfeiriad y dylai fod wedi bod yn symud iddo dros flynyddoedd lawer, ond cafodd hynny wedi'i lesteirio. A wnewch chi ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi pobl Zimbabwe wrth iddynt geisio rhoi trefn ar eu bywydau ac adfer eu gwlad, a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod bod pobl Cymru a'r Cynulliad yn estyn eu cyfeillgarwch gwirioneddol iddynt?