Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 24 Ebrill 2018.
Wel, yn wir. Mae'n ddrwg gen i na lwyddais i fod yn bresennol yn y digwyddiad, oherwydd byddwn i wedi hoffi bod yno yn fawr iawn. Wrth gwrs, rydym yn hynod falch o'n cysylltiadau ag Affrica ac o'r rhaglen Cymru o blaid Affrica. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw fanylion penodol am Zimbabwe, ond rwy'n fwy na pharod ymchwilio i hynny ar gyfer yr Aelod. Mae ein hymdrechion ar ran Affrica, drwy'r rhaglen Cymru o blaid Affrica, bob amser yn dod â manteision, nid yn unig i'r bobl yr ydym yn eu cynorthwyo yn Affrica i wneud pethau megis adeiladu ysgolion, cael cyfarpar cyfrifiadurol, llyfrgelloedd ac ati, ond mewn gwirionedd i gyfoethogi bywyd diwylliannol Cymru yn aruthrol drwy'r trafodaethau. Rwy'n ymwybodol iawn o lawer o raglenni o'r fath yn fy etholaeth i fy hun. Yn anffodus nid wyf yn gwybod y manylion am Zimbabwe, ond rwy'n fwy na pharod i ymchwilio i'r mater ac ysgrifennu at yr Aelod yn unol â hynny.