– Senedd Cymru am 4:06 pm ar 24 Ebrill 2018.
Eitem 5 yw Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018. Rwy'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y cynnig—Julie James.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Llywodraethu Digidol (Cyrff Cymreig) (Cymru) 2018. Mae Deddf yr Economi Ddigidol 2017, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2017, yn rhoi pwerau newydd i awdurdodau cyhoeddus i rannu data gydag awdurdodau cyhoeddus eraill i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, nodi a gweithredu ar ddyledion sy'n ddyledus i'r sector cyhoeddus, a nodi a mynd i'r afael â thwyll yn erbyn y sector preifat. Er mwyn i gorff cyhoeddus allu arfer y pwerau newydd hyn, mae angen iddo fod yn benodol yn y ddeddfwriaeth. Ar gyfer y pwerau i gyflawni gwasanaethau cyhoeddus, bydd angen hefyd i gorff cyhoeddus gael ei enwi gerbron yr amcan polisi penodol, a fydd yn cael ei nodi yn y rheoliadau ar wahân.
Nid yw cyrff datganoledig Cymru ar hyn o bryd yn cael eu henwi yn Neddf yr Economi Ddigidol 2017 ac ni allant wneud defnydd o unrhyw un o'r pwerau newydd. Mae Llywodraeth y DU yn paratoi i gyflwyno rheoliadau newydd, a fydd yn nodi'r cyntaf o bedwar amcan y pwerau i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: yn cefnogi'r unigolion a'r aelwydydd yr effeithir arnynt gan anfanteision lluosog, er enghraifft, anabledd, diweithdra, neu'r rhai sy'n gadael gofal; yn nodi a chefnogi unigolion ac aelwydydd a allai fod yn gymwys i gael cymorth dan gynllun dychwelyd setiau teledu; yn nodi a chefnogi unigolion ac aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd; ac yn nodi a chefnogi unigolion ac aelwydydd sy'n byw mewn tlodi dŵr.
Bydd y rheoliadau sy'n cael eu hystyried gan yr Aelodau heddiw yn sicrhau bod sefydliadau datganoledig Cymru yn gallu defnyddio'r pwerau newydd ochr yn ochr â'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban. Mae'n hanfodol bod ein cyrff cyhoeddus datganoledig yn alluog i ddefnyddio'r pwerau newydd hyn, ochr yn ochr â chyrff Saesnig a chyrff sydd heb eu datganoli, i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl. Mae rhannu data, pan wneir hynny'n ddiogel ac am y rhesymau cywir yn hollbwysig i alluogi gwasanaethau i integreiddio a chydweithio i sicrhau canlyniadau gwell i ddinasyddion. Os na all cyrff yng Nghymru gael y defnydd o'r pwerau hyn, bydd dinasyddion Cymru dan anfantais o ran tlodi dŵr a thanwydd.
Rydym wedi ymgynghori yn gyhoeddus ar y rheoliadau, ac, yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn cydnabod y manteision cadarnhaol o gynnwys cyrff cyhoeddus yng Nghymru, ac, yn wir, roedd llawer o ymatebwyr yn awyddus i fwy o gyrff cyhoeddus gael eu henwi. I'r dyfodol, bydd y Cynulliad hwn hefyd yn gallu pennu amcanion polisi newydd ar gyfer rhannu data ymhlith cyrff cyhoeddus datganoledig i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru. Rwy'n cymell yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau hyn.
Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr yn y ddadl, felly y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Gan hynny, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyn inni symud at y ddadl ar Gyfnod 3 Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), rwy'n bwriadu gohirio'r trafodion am 10 munud. Bydd y gloch yn cael ei chanu bum munud cyn inni ailgynnull, a byddwn yn annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon. Caiff yr eisteddiad ei ohirio nawr am 10 munud.
Galw'r Aelodau i drefn.