– Senedd Cymru am 4:19 pm ar 24 Ebrill 2018.
Cyn inni gychwyn ar Gyfnod 3 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), pwynt o drefn gan Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n codi'r pwynt o drefn gan fod newyddion yn torri, ac rwy'n gofyn am eich cymorth, mewn ffordd, i weld a oes modd i'r Cynulliad drafod y newyddion yma. Y sefyllfa yw ei bod hi'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cytundeb gyda'r Blaid Geidwadol yn San Steffan ynglŷn â'r Bil tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd, ynglŷn â'r pwerau fydd yn cael eu datganoli a'r pwerau fydd yn cael eu cadw yma. Rwy'n clywed y bydd cyfnod o saith mlynedd, neu bum mlynedd, pan fydd pwerau'n cael eu cadw yn San Steffan a ddim yn dod i'r Cynulliad. Nawr, efallai bod y cytundeb yma yn werthfawr i'r Llywodraeth, ond y safbwynt yr ydw i â diddordeb ynddo fe yw beth sydd gyda ni fel Aelodau Cynulliad i ddweud dros hyn. A oes yna rywun wedi gofyn i wneud datganiad brys, Llywydd, ynglŷn â'r materion hyn, neu a oes modd i Aelodau Cynulliad, fel finnau, ofyn am ddatganiad brys nawr neu ryw fath o eglurhad gan y Llywodraeth o beth yn union yw'r sefyllfa?
Gan nad oes neb yn ymateb i'r pwynt o drefn yna, fe wnaf i ddweud wrthych chi, Simon Thomas, eich bod chi'n gwybod taw mater i'r Llywodraeth yw penderfynu ar faterion busnes y Llywodraeth. Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, yn atebol i'r Cynulliad yma ac fy nymuniad i yw sicrhau ar bob cyfle fod datganiadau o bolisi mawr gan y Llywodraeth yn atebol ac yn cael eu cyflwyno i'r Cynulliad yma yn eu cyfanrwydd er mwyn caniatáu’r cwestiynau priodol a'r atebolrwydd priodol. Nid yw hynny wedi cael ei gynnig ar gyfer y prynhawn yma hyd yn hyn. Mae'n bosibl y daw hynny maes o law.