Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 24 Ebrill 2018.
Bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon, ac rydym ni'n bwriadu cefnogi'r holl welliannau yn y grŵp hwn ar y cam hwn. Ond hoffwn achub ar y cyfle i egluro beth yw ein dull ni o weithredu'r ddeddfwriaeth hon, fel y gwnaeth David Melding hefyd. Rydym wedi cefnogi egwyddor y ddeddfwriaeth, mewn ffordd bragmatig, ers iddi ddod yn amlwg y byddai penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol fel sefydliadau sector cyhoeddus yn cael effaith sylweddol ar allu'r sector i ariannu tai newydd. Ar y cynsail hwnnw, dylwn ddweud, yr ydym yn ei gefnogi. Ond yn yr un modd, mae wedi dod yn amlwg y gallai fod canlyniadau annisgwyl i'r ddeddfwriaeth hon a ddylai fod yn bryder i bawb ohonom, yn arbennig o ran cyfranogiad tenantiaid. Rydym wedi bod yn gyson ynghylch hyn o'r dechrau'n deg, ac mae hyn wedi'i adlewyrchu yn ein gwelliannau ochr yn ochr â David Melding yng Nghyfnod 2, ac yn ein dogfen naratif ynghylch y Bil penodol hwn. Ceir nifer o enghreifftiau lle nad yw cyfranogiad tenantiaid wedi bodloni'r safon, hyd yn oed o fewn y deddfau presennol, heb sôn am beth allai ddigwydd yn sgil y ddeddfwriaeth hon—er enghraifft, y diffyg ymgynghori a fu pan ddaeth Tai Cantref dan reolaeth Tai Wales and West. Ac rydym ni wedi gweld rhywbeth tebyg yn digwydd o ran ailddosbarthu colegau addysg bellach lle, er enghraifft, mae Coleg Dinbych yn cau heb unrhyw ymgynghori ac mae hynny'n amharu'n fawr ar y myfyrwyr—rhywbeth nad yw ond yn bosib oherwydd ailddosbarthu.