Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:35, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Pan oeddem yn casglu tystiolaeth, ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at hyn eisoes, roedd gennym, rwy'n credu, gefnogaeth gref TPAS Cymru, y corff tenantiaid. Rwy'n credu y cafwyd croeso mawr i hynny wrth ddatblygu syniadau'r is-bwyllgor a oedd yn ystyried hyn ac a ddarparodd eu hadroddiad. Nid wyf wedi clywed unrhyw beth sy'n gwneud imi amau bod y pryderon hynny, mewn unrhyw fodd, yn amhriodol, a mynegodd TPAS Cymru eu barn drwy bwysleisio fod y ddeddfwriaeth yn bwysig iawn a, beth bynnag fydd yn digwydd, ni ddylai hynny atal y ddeddfwriaeth rhag cyrraedd y llyfr statud. Unwaith eto, dyna farn yr ydym ni i gyd yn ei goleddu.

Felly, mae'n fater o gydbwysedd, ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael hynny'n gywir. Mae angen mwy o bwyslais ar gynnwys tenantiaid yn y penderfyniadau mawr sy'n digwydd o'u cwmpas. I bob pwrpas, y rhain yn eu bywydau a'u cartrefi, ac nid wyf yn credu ei bod yn ormod disgwyl i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o leiaf eu gwahodd i gynnig eu barn mewn ymgynghoriad.

Ar gyfer grŵp 1, nawr, mae'r Llywodraeth, fel y dywedais, wedi cydnabod y mater, ac wedi cyflwyno ei chynigion, ond rwyf eisoes wedi ei gwneud hi'n gwbl glir fy mod yn credu bod ymateb y Llywodraeth yn fwy amwys o lawer na fy un i. Rwy'n credu bod eglurder mewn deddfwriaeth yn rhywbeth i'w groesawu. Felly, fy marn i yw, er fy mod yn croesawu'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud, rwy'n dal i gredu ei bod yn mynd ati mewn modd llugoer braidd ac nid wyf yn credu bod hynny'n ddigon da i ddiogelu tenantiaid. Mae geiriad gwelliant y Llywodraeth yn dweud bod rhaid i gymdeithas hefyd roi datganiad i Weinidogion Cymru ynghylch yr ymgynghori a wnaeth y Gymdeithas gyda'i thenantiaid cyn pasio'r penderfyniad y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

Eto, nid wyf yn credu bod hynny mor gadarn ag y dylem fod yn anelu ato. Mae braidd yn amwys ac, er nad yw'n arwynebol, teimlaf nad oes ganddo drylwyredd gwelliannau 3 a 4, yr wyf yn eu cynnig heddiw, i roi i Weinidogion Cymru yr hyblygrwydd i benderfynu ar ddull ac amserlen yr ymgynghori drwy gyfrwng rheoliadau y byddai gennym ni ryw ddylanwad drostynt. Byddai hynny'n sefyllfa gadarnach o lawer.

Felly, os caf i droi at y sylw, unwaith eto, y cyfeiriodd y Gweinidog ato—bod gwelliant wedi ei gyflwyno yn enw Nick Ramsay, sef gwelliant 1A, ac rwyf wedi cyflwyno hwn fel rhyw fath o bolisi yswiriant, rwy'n tybio, rhag ofn y byddai gwelliant 1 y Llywodraeth yn llwyddiannus. Ein barn ni yw bod yr eithriad ymgynghori ar gyfer amgylchiadau a nodir ym mhwynt (2B) y mae'r Llywodraeth yn ei gyflwyno, sef achos o drosglwyddo o fod yn gymdeithas i fod yn gwmni, fel arfer dan orfodaeth ariannol—rydym ni o'r farn nad oes cyfiawnhad dros yr eithriad hwnnw.

Nawr, rydym ni wedi clywed llawer gan y Gweinidog am achosion o bwysau ariannol a bod yn rhaid symud yn gyflym neu mae'r holl beth yn dymchwel. Wel, gadewch imi ddweud bod y maes hwn yn dal i gael ei reoleiddio gan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, ac er mwyn i gymdeithas allu troi'n gwmni, mae gofyniad, na ellir ei osgoi, ar i'r gymdeithas yn gyntaf oll gynnal pleidlais ymysg aelodaeth y gymdeithas. Mae rhai amodau llym yn gysylltiedig â'r bleidlais hon, megis y gofyniad bod yn rhaid i 50 y cant o'r aelodau fod yn bresennol ac i o leiaf 75 y cant o'r rheini bleidleisio i drosi. Nawr, o'i gymharu â sefyllfaoedd eraill lle mae angen pleidleisiau aelodaeth, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod yr amodau hynny'n llym iawn. Er y bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau nad yw trosi yw newid sylweddol, byddwn yn anghytuno â hynny. Barn y Llywodraeth yw na fyddai hynny mewn gwirionedd nac yma nac acw iddyn nhw oherwydd nad yw eu landlord yn newid, dim ond natur cyfansoddiad y landlord. Wel, wyddoch chi, mae'r rheolau y mae gweithdrefn y Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol yn seiliedig arnynt yn drylwyr ac arwyddocaol iawn. Os oes angen y cyfryw gefnogaeth gan yr Aelodau ar gyfer y newid hwnnw, pam nad yw'r tenantiaid yn cael unrhyw lais o gwbl? Yn ystod yr amser y mae'n rhaid bodloni gofynion y Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol, mae digon o gyfle i gynnal ymgynghoriad. Credaf y gall fod yn rhesymol bod yr amgylchiadau yn dylanwadu ar union natur hyn, ac felly gallai'r Llywodraeth bennu sut y dylai hynny fod yn berthnasol.

Felly, rwy'n credu na ddylem gael ein twyllo y gallai newidiadau sylweddol iawn weithiau, hyd yn oed o dan orfodaeth ariannol, ddigwydd i strwythur yr hyn a oedd yn gymdeithas dai. Ac yn yr amgylchiadau hynny o ddadreoleiddio a newid, dylai fod yn ofynnol sicrhau diogelwch sylweddol i denantiaid, ac o leiaf rywfaint o ymgynghori. Felly, pe bai'r Cynulliad yn penderfynu cymeradwyo gwelliant 1 o eiddo'r Llywodraeth yn hytrach na gwelliannau 3 a 4 o'n heiddo ni, sy'n cynnig yr amddiffyniad priodol cynhwysfawr—pe byddech chi yn cymeradwyo gwelliant 1, rwy'n gobeithio y byddwch chi wedyn yn cymeradwyo gwelliant 1A o'n heiddo, sydd o leiaf yn sicrhau bod dull y Llywodraeth, yn gyfyngedig fel y mae, yn dal yn berthnasol i'r achosion hynny o newid sy'n gysylltiedig â sefyllfa ariannol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gymdeithas ddod yn gwmni. Felly, felly rwy'n cynnig hynny.