Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:21, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Materion Deddfwriaethol, ac i'r Pwyllgor Cyllid am graffu'n fanwl ar y Bil drwy gydol Cyfnod 1 a Chyfnod 2. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar ac i Aelodau'r Cynulliad am eu cefnogaeth i'r Bil hyd yn hyn ar ei daith drwy'r Cynulliad.

Mae ymrwymiad y Llywodraeth i denantiaid wrth galon y rheoliad wedi'i wneud yn gwbl glir drwy gydol y broses graffu. Gobeithiaf ei bod hi'n amlwg nad yw'r Bil hwn yn gwneud dim i newid hyn, na'r disgwyliad rheoleiddiol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ymgynghori â thenantiaid a gwrando ar eu barn. Mae hwn yn ofyniad sylfaenol. Mae gofyn ar i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ddangos bod tenantiaid yn rhan o lunio gwasanaethau a phenderfyniadau a bod gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn gwella. Nodir hyn yn safon perfformiad 2 a gyhoeddwyd o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996. Ac, i gadarnhau yr hyn a ddywedais o'r blaen, byddwn yn diweddaru ac yn cyhoeddi canllawiau statudol o dan adran 33B y Ddeddf Tai, a fydd yn rhoi disgwyliadau rheoleiddiol ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ynghylch amryw o faterion, gan gynnwys ymgynghori.

Fodd bynnag, ar ôl gwrando'n ofalus ar y dadleuon, rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 i nodi'r darpariaethau ar gyfer ymgynghori â thenantiaid ar wyneb y Bil. Mae fy ngwelliant yn gwneud hyn. Mae'n nodi'r darpariaethau i'w gwneud hi'n ofynnol ymgynghori â thenantiaid pan fo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ystyried newidiadau cyfansoddiadol penodol megis cyfuno neu uno gwirfoddol. Nid wyf i, fodd bynnag, yn bwriadu gosod dyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ymgynghori mewn amgylchiadau lle credaf nad yw unrhyw ddyletswydd o'r fath yn briodol ac y byddai'n peri risg ychwanegol i denantiaid a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, er enghraifft pan fydd landlord cymdeithasol cofrestredig dan straen ariannol. Mae hyn oherwydd y gall newid strwythurol, fel y mae gwelliannau 3 a 4 yn eu cwmpasu, fod yn ffordd o ymdrin â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sydd dan straen ariannol neu sy'n wynebu posibilrwydd o fethdalu. Yn yr amgylchiadau hyn, rhaid i'r landlord cymdeithasol cofrestredig a'r rheoleiddiwr allu gweithredu ar fyrder, mewn modd penodol iawn, i ymyrryd er mwyn amddiffyn tenantiaid. Hyd yn oed lle bo trefniadau gwirfoddol ar waith i ymdrin â straen ariannol, yn aml bydd nifer o ffactorau y tu hwnt i reolaeth y landlord cymdeithasol cofrestredig—credydwyr, amserlenni ac ati—a fydd yn dylanwadu ar y cynigion a wneir gan landlord cymdeithasol cofrestredig ac a all gyfyngu ar ei allu i gynnal ymgynghoriad effeithiol sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.

Nid wyf, beth bynnag fo'r amgylchiadau, yn dweud y dylid celu pethau gan denantiaid wrth ystyried newidiadau o'r fath. Rwyf wedi nodi'n glir, ac nid wyf yn credu bod unrhyw un yn anghytuno, bod yn rhaid cyfathrebu'n briodol gyda thenantiaid pan ystyrir y cynigion hyn a bydd y trefniadau cyfathrebu hynny'n destun trosolwg rheoleiddiol. Ond mae cyfathrebu yn wahanol i ymgynghori'n ffurfiol. Mae gan ddyletswydd i ymgynghori ystyr dealladwy penodol yn y gyfraith.

Nid yw fy ngwelliant chwaith yn cynnwys gofyniad ar gyfer ymgynghori os yw landlord cymdeithasol cofrestredig yn bwriadu newid o fod yn gymdeithas gofrestredig i fod yn gwmni, neu i'r gwrthwyneb. Yn yr amgylchiadau hyn, ni fydd yn arwain at newid landlord y tenant, dim ond at newid yn ffurf gyfreithiol y landlord. Ar y llaw arall, effaith gwelliant 1A fyddai rhoi dyletswydd i gynnal ymgynghoriad pan fo landlord cymdeithasol cofrestredig yn cynnig newid o fod yn gymdeithas i fod yn gwmni. Rwy'n cydnabod y gall fod pryderon y gallai newid o fod yn gymdeithas i fod yn gwmni olygu newid ethos i landlord cymdeithasol cofrestredig, ond mae trefniadau diogelu yn erbyn hyn. Mae rhaid i bob landlord cymdeithasol cofrestredig sydd wedi cofrestru yng Nghymru, gan gynnwys y rhai hynny sy'n gwmnïau, fod yn rhai nid-er-elw ac mae'n rhaid i'w dibenion gynnwys darparu, adeiladu, gwella neu reoli tai cymdeithasol. Caiff arallgyfeirio ei fonitro'n fanwl, ac felly hefyd sefydlu is-gwmnïau sydd heb eu cofrestru. Mewn gwirionedd, mae gwneud cynnydd gyda diben craidd y busnes yn ganolog i safon perfformiad 1 a bydd hyn yn destun trosolwg rheoleiddiol parhaus. 

Datblygwyd fy ngwelliant i fynd i'r afael â materion a drafodwyd yn ystod y broses graffu, gan ystyried gwybodaeth a phrofiad y sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru a'r dull o gyd-reoleiddio yr ydym ni yn ei ddefnyddio yma yng Nghymru. Dyna'r ffordd fwyaf priodol o sicrhau yr ymgynghorir â thenantiaid pan fo newidiadau wedi eu cynllunio, gan ganiatáu hyblygrwydd i ymateb i sefyllfaoedd brys.

Cyfeiriodd David Melding at TPAS Cymru, y sefydliad sy'n cynrychioli tenantiaid, wrth siarad am ei welliant yng Nghyfnod 2. Fel y gallech ddisgwyl, mae swyddogion wedi trafod fy ngwelliant gyda TPAS Cymru, sydd, er eu bod yn croesawu'r cynnig i nodi'r darpariaethau ar gyfer ymgynghori ar wyneb y Bil, hefyd yn cydnabod na fydd hyn o bosib yn ymarferol bob amser mewn achosion lle mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig dan straen ariannol neu mewn peryg o fethdalu. Rydym ni'n croesawu'r papur briffio a roddwyd i'r Cynulliad gan Gartrefi Cymunedol Cymru, sy'n cefnogi fy ngwelliant i, gan gydnabod ei fod yn ymdrin â'r pryderon y cyfeiriwyd atyn nhw yng Nghyfnod 2, gan sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd penderfyniadau ynghylch dyfodol eu landlord a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu. Felly, mae gwelliannau 1A, 3 a 4 yn ddiangen. Mae fy ngwelliant o'r herwydd yn rhoi gofyniad priodol ar gyfer ymgynghori ond heb yr anawsterau gweithredol a fyddai'n codi pe derbynniwyd gwelliannau 3 a 4.

Mae gwelliannau 3 a 4 fel y'u drafftiwyd i bob pwrpas yn gosod dyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ymgynghori cyn ymgymryd ag amrywiaeth eang o newidiadau cyfansoddiadol, gan gynnwys y rhai a allai gael eu sbarduno gan yr angen i landlord cymdeithasol cofrestredig wneud trefniadau â'u credydwyr, neu cyn cymryd camau penodol sy'n ymwneud â methdalu, ac nad ydynt, fel y dywedais, yn ymarferol. Mae'r angen i allu ymyrryd a gweithredu pan fo hyfywedd landlord cymdeithasol cofrestredig yn y fantol yn fater a gydnabyddir yn yr Alban hefyd, lle gall y rheoleiddiwr, er enghraifft, eithrio Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o'r gofyniad i ymgynghori â thenantiaid cyn iddo ddod yn is-gwmni o gorff arall os yw dod yn gwmni yn un o'r ffyrdd o osgoi methdalu.

At hyn, mae gwelliannau 3 a 4 yn ceisio annilysu penderfyniadau penodol. Efallai y bydd ganddynt ganlyniadau annisgwyl—er enghraifft, yn creu ansicrwydd ynghylch a all yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu'r Cofrestrydd Cwmnïau gofrestru'r penderfyniadau hynny, neu a oes yn rhaid iddynt ystyried a yw landlord cymdeithasol cofrestredig wedi cynnal ymgynghoriad cyfreithlon. Felly argymhellaf fod yr Aelodau yn cefnogi gwelliant 1 ac yn gwrthod gwelliannau 1A, 3 a 4 am y rhesymau yr wyf wedi'u hamlinellu.