Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 24 Ebrill 2018.
Cyn imi roi sylw i'r grŵp cyntaf o welliannau ynglŷn â'r Bil hwn, a gaf i yn gyntaf oll ailadrodd y ffaith fod pob un o'm gwelliannau heddiw, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, wedi deillio o argymhellion yr is-bwyllgor ar y Bil hwn neu o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol?
Er nad oes unrhyw amheuaeth bod amcanion y Bil hwn er budd y cyhoedd, o ystyried barn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae angen inni gadw mewn cof bod y Bil yn weithred sylweddol o ddadreoleiddio yn y sector tai ac, o ganlyniad, nodwyd yn adroddiad y ddau bwyllgor y byddai'n gofyn am reoli risg diwyd a monitro effeithiol.
Oherwydd bod fy ngwelliannau'n deillio o drafodaethau'r pwyllgor trawsbleidiol ac o egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, y mae, unwaith eto, gefnogaeth drawsbleidiol iddynt, rwy'n credu ei bod hi'n werth cydnabod nad oes ar neb yma eisiau amharu ar neu arafu'r broses o ailddosbarthu. Mae a wnelo hyn â llunio cyfraith dda. Llywydd, a gaf i ddweud bod yr holl welliannau yr wyf wedi eu cyflwyno wedi cael cefnogaeth lawn cyfreithwyr y Comisiwn, ac wedi eu llunio'n fedrus ganddynt, a byddwn yn gwrthod unrhyw goel bod diffygion yn y gwelliannau hynny o safbwynt cyfreithiol?