Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 24 Ebrill 2018.
Rwy'n falch o gynnig gwelliant 1A—polisi yswiriant David Melding, i ddefnyddio'i eiriau ef. Byddai'n well gennym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, pe cai'r gwelliannau eraill eu pasio yn lle hynny. Ond fel y dywedodd David Melding yn ei sylwadau, os nad yw hynny'n digwydd, yna rydym ni yn credu bod cyfiawnhad o leiaf i wneud yn siŵr yr ymgynghorir yn benodol â phreswylwyr o ran y newid hwnnw rhwng cymdeithas gofrestredig a chwmni.
Gwrandewais yn astud ar sylwadau agoriadol y Gweinidog, ac fe wnaethoch ddefnyddio'r ymadrodd, 'rydym ni eisiau rhoi tenantiaid wrth wraidd y broses hon'—rhywbeth mewn gwirionedd yr ysgrifennais i lawr fy hun, ar fy nodiadau i fy hun yn fan hyn, cyn ichi ddweud hynny. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno mai dyna yw nod y ddeddfwriaeth hon. Rydym ni'n credu yma, fel y mae pethau ar hyn o bryd, os nad ydych chi'n derbyn ein gwelliannau, yna ni fydd y system mor gadarn ag y gallai fod. Fel y dywedodd David Melding, os ydych chi'n rhoi hyn ar wyneb y Bil, yna mae hynny'n rhoi sicrwydd i denantiaid cymdeithasau yr ymgynghorir yn llawn â nhw pan ac fel sy'n angenrheidiol.
Fel y dywedodd Simon Thomas yn ei sylwadau, bu drwgdeimlad hyd yma oherwydd nid yw tenantiaid yn teimlo yr ymgynghorwyd â nhw o hyd pan fu newid diwylliannol yn y sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu eu cartref iddynt. Nid yw hynny wedi bod yn ddigon da yn y gorffennol. Rydym ni eisiau cefnu ar hynny, felly byddwn yn annog yr Aelodau, yn gyntaf oll, i gefnogi'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, ond os na ellir gwneud hynny, i gefnogi'r gwelliant hwn.