Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 24 Ebrill 2018.
Roeddem ni, yn UKIP, yn hapus i gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn ac, fel y dywedais yn y ddadl gynharach yn y fan yma, gwnaethom hynny oherwydd mae angen inni ddiogelu'r ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru. Effaith y Bil hwn fydd gwrthdroi ailddosbarthiad y cymdeithasau tai i fod yn gyrff cyhoeddus, gyda chanlyniadau a fyddai'n effeithio ar fenthyca yn y sector cyhoeddus. Felly, mae hynny'n amlwg er budd y cyhoedd, ac am y rheswm hwnnw mae cefnogaeth drawsbleidiol i'r Bil.
Wedi dweud hynny, rydym yn awyddus bod hawliau tenantiaid cymdeithasau tai yn cael eu hamddiffyn. Credwn fod y gwelliannau a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr heddiw yn gwella'r Bil. Maen nhw'n rhoi cyfle i denantiaid ymgysylltu a chael gwrandawiad pan fo eu landlord cymdeithasol cofrestredig yn wynebu newidiadau mawr. Yng ngoleuni ein dadleuon diweddar yma yn y Siambr hon yn ymwneud â hawliau rhydd-ddeiliad a diwygiadau i lesddeiliadaeth, ac roedd UKIP yn gefnogol i'r ddau beth, gwelwn y gwelliannau hyn yn rhesymegol ac yn ymgais adeiladol i wella'r ddeddfwriaeth hon. Am y rheswm hwnnw, bydd UKIP yn cefnogi pob un o welliannau'r Ceidwadwyr heddiw.
O ran gwelliant y Llywodraeth—gwelliant 1—teimlwn ei fod braidd yn gyfyng, ac y gallai olygu dim llais i denantiaid pe byddai eu cymdeithas dai yn newid dwylo. Gwn, yn y Cyfnod Pwyllgor, fod y Gweinidog wedi dweud bod cyfathrebu priodol gyda thenantiaid, yn y sefyllfaoedd hyn, yn rhan o'r canllawiau rheoleiddiol, ac y cedwir trosolwg rheoleiddiol o hynny.
Rydym yn derbyn y sylw hwnnw, ond ar y cyfan, byddai'n well gennym ni pe byddai hawliau tenantiaid yn yr amgylchiadau hynny yn cael eu rhoi yn y Bil yn hytrach na mewn canllawiau. Felly, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 1 o eiddo'r Llywodraeth heddiw. Diolch yn fawr.