Grŵp 1: Cyfranogiad tenantiaid (Gwelliannau 1, 1A, 3, 4)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:43, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

O ran y pwynt hwnnw—ac os caf ddatgan buddiant, gan fy mod yn aelod o Wales and West—o ran y ffaith i Wales and West gymryd Tai Cantref dan ei reolaeth, yn hynny o beth, ni fu unrhyw ymgynghori o gwbl gyda'r tenantiaid, fel y dywedwch, o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Creodd lawer iawn o anfodlonrwydd, sy'n dal i fodoli, gyda phobl yn ansicr ynghylch a yw'r landlord newydd hwn mewn gwirionedd yn atebol iddynt. Felly, mae'n newid diwylliant y berthynas rhwng tenantiaid a'r landlord os nad oes gennych chi gyfranogaeth lawn, a dyna pam fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn edrych ar y gwelliannau hyn i weld ymhle y gallwn ni wella'r Bil hwn yn hynny o beth.