Grŵp 2: Gwaith craffu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Gwelliannau 5, 13, 19, 2)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 24 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:55, 24 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd, rwy'n cynnig, felly. Mae'r ddau welliant cyntaf yn y grŵp hwn wedi deillio o'r argymhellion a gyflwynwyd yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—sef, Argymhelliad 7. Mae gwelliannau 5 a 13 yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i gyflwyno cyfarwyddydau a gyhoeddir o dan adran 5, rhai sy'n ymwneud â newid cyfansoddiadol a strwythurol, ac adran 14, ynghylch gwarediadau penodol o dir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, i gyflwyno cyfarwyddydau o'r fath gerbron y Cynulliad o fewn 14 diwrnod o roi'r cyfarwyddyd hwnnw.

Mae'r ddau welliant hyn yng ngrŵp 2, yn fy marn i, Llywydd, yn arwyddocaol iawn. O dan adrannau 5 a 14 o'r Bil, fel y mae ar hyn o bryd, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyhoeddi cyfarwyddydau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ynghylch agweddau technegol ac ymarferol ar unrhyw hysbysiadau y mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn eu rhoi i Weinidogion Cymru, o ran newidiadau cyfansoddiadol neu strwythurol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, neu mewn cysylltiad â gwaredu tir. O ystyried pwysigrwydd y cyfarwyddydau a'r gwelliannau hyn, byddai methiant i gydymffurfio â nhw yn arwain o bosib at orfodi neu hysbysiad cosb. Er mwyn sicrhau tryloywder, cytunodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y byddai'n briodol gweld unrhyw gyfarwyddyd o'r fath a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 14 diwrnod o roi'r cyfarwyddyd hwnnw. Yng Nghyfnod 2, dywedodd y Gweinidog y byddai cwmpas y cyfarwyddydau o dan yr adrannau hyn yn gyfyngedig, o natur weinyddol ac na fyddent yn cynnwys darpariaethau sylweddol.

Dywedodd hefyd y byddai'n fwy na bodlon rhoi ymrwymiad y caiff cyfarwyddydau a roddir o dan y darpariaethau newydd eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Wel, mae'n rhaid imi ddweud, Llywydd, fy mod i'n credu bod ymddangos ar wefan Llywodraeth Cymru yn beth gwych, ond rwyf yn credu y dylai fod yn rhywbeth y dylid ei gyhoeddi neu ddod i'r Cynulliad hefyd, o fewn pythefnos. Nid wyf yn credu bod hynny mewn unrhyw fodd yn rhwymedigaeth feichus ar y Llywodraeth. Mewn cynllun dadreoleiddio o'r fath, er mor angenrheidiol ydyw, ni ddylem laesu dwylo. Nid wyf yn credu mai materion technegol yn unig mo'r rhain. Pan edrychwch chi ar faterion fel gwaredu tir, os aiff pethau o le ac o chwith, mae arferion gwael yn dod i'r amlwg, a bydd hynny ynglŷn â rhywbeth tebyg i hynny. Pa mor wyliadwrus bynnag mae'r Llywodraeth yn bwriadu bod, mae angen sicrwydd dauddyblyg, a'n gwaith ni yw craffu ar hynny.

Llywydd, mae'r ddau welliant olaf yn y grŵp hwn yn sefydlu gofyniad y dylai'r Cynulliad graffu ar y Bil ar ôl deddfu o fewn cyfnod o ddwy i bedair blynedd ar ôl y diwrnod y byddai'r Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol i fod yn Ddeddf. Yn benodol, mae gwelliant 19 yn datgan mai un o bwyllgorau'r Cynulliad fyddai'n adolygu gweithrediad y Ddeddf ac, os yw'n briodol, o ganlyniad i'w ganfyddiadau, yn gwneud argymhellion ar gyfer diddymu neu ddiwygio'r Ddeddf ac yn cyhoeddi'r canfyddiadau a'r argymhellion hyn. Mae gwelliant 2 yn ddiwygiad canlyniadol i welliant 19 a bydd yn golygu newid adran drosolwg y Bil, pe cytunid ar y gwelliant.

Mae'r gwelliant hwn yn deillio o argymhelliad yr is-bwyllgor a wnaeth y gwaith craffu manwl a'r ymgynghori, ac a gyhoeddodd yr adroddiad, ac yna, a gymeradwywyd yn y Pwyllgor llawn yn ddiweddarach pan dderbyniodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol adroddiad yr is-bwyllgor. Yn ystod ein trafodaethau ar yr is-bwyllgor, daeth pob un ohonom ni i'r casgliad bob gwaith craffu ôl-deddfwriaethol yn hanfodol yn yr achos hwn, dim ond oherwydd ei fod yn ddeddf dadreoleiddio mewn maes mor bwysig sy'n cynnwys tenantiaid—yn gyntaf, i sicrhau bod hawliau tenantiaid yn cael eu diogelu ac, yn ail, fel nad yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael gwared ar dir ac asedau mewn ffordd sy'n annisgwyl i'r Llywodraeth. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn—sut mae'r cynllun newydd yn gweithredu, a'r gallu i fyfyrio ynghylch pa mor addas i'r diben yw'r ddeddfwriaeth yng ngoleuni'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd, a byddai hynny, felly, yn elwa o graffu ôl-ddeddfwriaethol.

Yn ymateb ysgrifenedig cychwynnol y Gweinidog i adroddiad yr is-bwyllgor, braf iawn oedd clywed y Gweinidog yn dweud y byddai'n croesawu'r cyfle i Lywodraeth Cymru gymryd rhan mewn unrhyw broses graffu ôl-ddeddfwriaethol fel y bo'n briodol.

Ar hyn o bryd, rydym ni'n canmol ein hunain gan feddwl, 'o'r diwedd, rydym ni wedi gwneud rhywfaint o gynnydd; bu newid sylweddol ac, mewn gwirionedd, mae'r pwynt ynglŷn â hyn yn cael ei weld fel Deddf Dadreoleiddio yn cael ei arddel'. Yn anffodus, yn ystod Cyfnod 2, gwelsom dro pedol llwyr gan y Gweinidog, a ddadleuodd y byddai'r gwelliant hwn yn cyfyngu ar allu'r Cynulliad i benderfynu ar sut dylid blaenoriaethu ei adnoddau yn y dyfodol, o bosib yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.

Llywydd, rydym ni, wrth gwrs, wedi arfer â'r Llywodraeth yn diogelu breintiau'r ddeddfwrfa gydag eiddigedd, felly rwy'n canmol y math hwnnw o feddylfryd. Ond rwy'n credu ei fod wedi mynd o chwith yn yr achos hwn, ac, yn wir, rwy'n credu nad yw'n ddim ond twyllresymeg. Yn gyntaf, ynglŷn â'r ddadl o ymrwymo Cynulliad yn y dyfodol, os caiff y Bil ei basio cyn bo hir, fel y mae pob disgwyl y caiff, mae gennym dair blynedd i wneud y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol, ac mae'n amlwg y byddai cyfnod o ddwy i bedair blynedd ar gael inni, ac fe allem ni gwblhau'r gwaith hwn ein hunain. Felly, ni fyddem o reidrwydd yn rhwymo neb ond ni ein hunain.

Mae'n rhaid imi ddweud bod y ffordd y mae deddfwrfeydd yn gweithredu yn frith o rwymedigaethau sy'n anochel yn cael eu creu gan adrannau deddfwriaethol Llywodraethau dros feysydd sylweddol—mae cymalau machlud yn cael yr un effaith drwy ymrwymo deddfwrfa i weithredu yn y dyfodol, naill ai i bleidleisio i gynnal Deddf neu i roi terfyn arni—ac mae hynny'n egwyddor bwysig. Yn wir, rydym yn rhoi pob math o ddyletswyddau ar Gynulliadau'r dyfodol yn y ffordd y mae'n rhaid iddynt ymdrin ag offerynnau statudol a chyflwyno rheoliadau y cytunir arnynt gan y weithdrefn gadarnhaol neu'r weithdrefn uwchgadarnhaol, ac mae hyn, wrth gwrs, yn effeithio ar amser, llwyth gwaith, ac ati. Ond, wrth gwrs, gyda'r hyn yr ydym ni yn ei gynnig, gellid cynnull pwyllgor, cynnal un sesiwn a phenderfynu, wyddoch chi, fod y Ddeddf yn gweithio'n wych, ac felly nid oes angen gwneud dim. O ystyried difrifoldeb yr hyn a allai ddigwydd, a phwysigrwydd y Bil hwn, nid wyf yn credu bod hyn mewn unrhyw fodd yn faich—rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd arnom ni i sicrhau bod yr hyn a rown ni ar waith yn mynd i fod yn gwbl addas i'r diben a'n bod yn llunio cyfraith gref.

Yn wir, ceir un enghraifft wirioneddol o Ddeddf Gymreig yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad yn y dyfodol, a hynny yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, o ran pa fath o gyflogaeth y gall archwiliwyr cyffredinol ymgymryd â hi, a chyhoeddi rhestr mewn cysylltiad â hynny.

A gaf i ddim ond dweud, mae Comisiwn y Gyfraith eu hunain wedi datgan y byddai craffu ôl-ddeddfwriaethol yn arwain at well rheoleiddio a datblygu pwyslais mwy caeth ar weithredu?

Felly, mae ganddo'r fantais honno yn amlwg. A gaf i hefyd ddweud, Llywydd, pa mor rhagorol oedd y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol a wnaed ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010? Ystyriaf ei fod yn waith arloesol, nid yn lleiaf oherwydd iddo sylwi ar ganlyniadau annisgwyl, yr oedd angen polisi cyhoeddus er mwyn eu haddasu.

Felly, Llywydd, rwy'n credu y dylid ystyried craffu ôl-ddeddfwriaethol fel mater o drefn mewn meysydd pwysig o bolisi cyhoeddus, yn rhan o'r broses ddeddfwriaethol. Rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol, ar adegau, i fynnu bod y Cynulliad presennol neu Gynulliad yn y dyfodol yn cynnal yr ymarfer diwydrwydd dyladwy hwnnw, ac felly rwy'n cynnig y gwelliant.