Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 24 Ebrill 2018.
Byddwn yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Mae craffu i fod yn un o swyddogaethau craidd y Cynulliad hwn, a bu gwendid â deddfwriaeth flaenorol sef, yn aml, nad yw craffu ôl-ddeddfwriaethol wedi cael y sylw haeddiannol. Felly, byddwn yn cefnogi gwelliant 19 ar y sail hon, ac mewn gwirionedd nid wyf yn credu mai lle'r Llywodraeth yw penderfynu beth ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol ei wneud o ran swyddogaeth strwythurau'r pwyllgorau. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni benderfynu arno fel deddfwrfa, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, y gobeithiaf y gwnawn ni yn awr. Ond nid wyf yn credu y dylai hynny osod safbwynt arbennig, ac rwy'n teimlo efallai y rhoddwyd yr argraff honno, yn anffodus, hyd yn oed os nad oedd yn fwriad gwneud hynny.
Credaf y ceir dadl bod rhwymo Cynulliadau'r dyfodol—ac mae'n debygol bod hyn yn rhwymo ni ein hunain, yn hytrach na Chynulliad yn y dyfodol, beth bynnag—i waith craffu ôl-ddeddfwriaethol yn beth da, ac mae wedi bod yn wendid yn y broses hyd yma y gallwn ni roi sylw iddo yn y fan yma.
Gan droi at welliannau 5 a 13, byddwn yn cefnogi'r rhain hefyd. Hwyrach eu bod yn ymddangos yn ddiwygiadau gweithdrefnol bychain y gall y Llywodraeth honni nad ydynt yn angenrheidiol, ond nid yw rhywbeth nad yw'n angenrheidiol yn gwneud hynny'n niweidiol. Gallwn, wrth gwrs, gael sicrwydd nad yw cyfarwyddydau yn cynnwys darpariaethau sylweddol, ond mae eu gosod gerbron y Cynulliad yn cynnwys y sicrwydd ychwanegol hwnnw rhag ofn y bydd Gweinidog neu Lywodraeth wahanol yn newid eu meddwl. Ni fydd yn costio dim i'r Llywodraeth nac yn newid polisi, ond maen nhw'n ychwanegu sicrwydd, ac, fel yr amlinellwyd yn gynharach, mae gennym ni bryderon am ganlyniadau annisgwyl y Bil hwn. Felly, byddai cael amddiffyniad ychwanegol y gwelliannau hyn yn ddefnyddiol.