Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 25 Ebrill 2018.
Weinidog, roeddwn am eich holi ynglŷn â chyfrifon dysgu unigol. Beth yw eich cynlluniau o ran lansio’r cynlluniau peilot, ac a wnewch chi sicrhau, a sut y byddwch yn sicrhau, fod y gwersi a oedd i'w dysgu o fersiynau blaenorol o'r cyfrifon dysgu unigol yn llywio’r fersiwn newydd yn briodol?