Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch. Credaf fod hwn yn gyfle eithaf cyffrous i ni, ac un o'r pethau cyntaf a wneuthum pan gefais fy mhenodi’n Weinidog oedd mynd i wrando ar yr hyn yr oedd y melinau trafod yn ei ddweud. Ac roedd hwn yn faes lle roeddent yn dweud, 'Mewn gwirionedd, mae cyfle go iawn i'w gael.' Nawr, mae'n wir yn y gorffennol fod enw gwael i'r cyfrifon dysgu unigol. Nid oedd problem yng Nghymru, ond cafwyd rhywfaint o broblemau yn Lloegr mewn perthynas ag arian yn newid dwylo. Nawr, credaf ein bod mewn sefyllfa wahanol bellach gan fod cyfle gennym i wneud pethau'n ddigidol, felly ni fydd arian yn newid dwylo. Bellach, yr wythnos diwethaf, daethom â grŵp o bobl sy'n arbenigwyr yn y maes at ei gilydd i bennu sut y dylai’r cynllun peilot hwnnw edrych, ac i ystyried unrhyw drafferthion posibl. Felly, mae cynnydd yn cael ei wneud, a gobeithio y bydd modd inni lansio rhywbeth oddeutu mis Medi.