Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 25 Ebrill 2018.
Y realiti, wrth gwrs, yw bod rhai o'r gwasanaethau addysg yma yn cilio yn bellach ac yn bellach oddi wrth gymunedau ar draws Cymru. Byddwch chi'n ymwybodol, er enghraifft, bod y coleg yn Ninbych yn mynd i gau nawr yn yr haf sydd i ddod. Ac rwyf i wedi siarad â rhai o'r myfyrwyr, ac maen nhw yn poeni nawr y byddan nhw'n methu jyglo'r balans rhwng eu hastudiaethau a'r swyddi rhan amser sydd gyda nhw oherwydd bydd rhaid iddyn nhw deithio ymhellach i gael mynediad i'r addysg yna yn Llandrillo-yn-Rhos neu yn y Rhyl. Felly, a gaf i ofyn beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau y bydd y gwasanaethau yma yn aros yn ein cymunedau ni a bod addysg ôl-16 yn hygyrch i bawb?