Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 25 Ebrill 2018.
Rhannaf y pryderon a fynegwyd gan Mick Antoniw ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod angen inni roi rhagor o gamau ar waith yn ein hysgolion i fynd i'r afael â gamblo cymhellol. Un o'r pryderon a gafodd ei ddwyn i fy sylw yw bod tasg Bagloriaeth Cymru wedi'i rhoi i rai disgyblion yng Nghymru yn gofyn iddynt ddychmygu sut deimlad yw ennill y loteri a gwario'r arian hwnnw. Nawr, ymddengys i mi fod hynny'n gwbl anaddas o ran annog pobl i ddychmygu tasg o'r fath, ac mae'n mynd yn groes i'r negeseuon ynglŷn ag iechyd y cyhoedd y dymunwn eu lledaenu fel cenedl i'n pobl ifanc. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i weithio gyda CBAC, Cymwysterau Cymru ac eraill i sicrhau bod gamblo'n cael ei ddileu o'n holl arholiadau, ein holl werslyfrau, o ran ei hyrwyddo yn y ffordd hon a bod yr unig neges a welant ynglŷn â gamblo yn un negyddol?