1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl addysg yn y broses o fynd i'r afael â gamblo cymhellol? OAQ52020
Diolch, Mick. Mae addysg yn un ffordd o fynd i'r afael â gamblo cymhellol. Un o'r argymhellion yn adroddiad Prif Swyddog Meddygol Cymru oedd darparu rhagor o wybodaeth i bobl sy'n gyfrifol am iechyd a lles plant a phobl agored i niwed ynglŷn â'r niwed posibl y gall gamblo ei achosi.
Diolch am eich ateb. Tybed a allwch fynd ychydig ymhellach. Yr hyn a wyddom, gan y Comisiwn Hapchwarae, yw bod oddeutu 0.5 miliwn o ddisgyblion ledled Cymru a Lloegr, rhwng 11 a 15 oed, bellach yn gamblo ar sail wythnosol. Byddai hynny'n cyfateb i oddeutu 25,000 o blant yng Nghymru rhwng 11 a 15 yn gamblo ar sail wythnosol, gyda nifer ohonynt bellach yn gamblwyr cymhellol. Yng ngoleuni adroddiad y prif swyddog meddygol, tybed a fyddwch yn cyfarfod gyda'r prif swyddog meddygol i ddatblygu strategaeth, fel rhan o strategaeth iechyd y cyhoedd yn gyffredinol, i fynd i'r afael â phroblem gamblo gynyddol ar gyfer y dyfodol ymhlith ein plant, sy'n gweithio ac yn byw mewn amgylchedd lle mae gamblo, drwy bethau fel chwaraeon, bron â bod wedi'i normaleiddio yn ein cymdeithas ac yn creu heriau gwirioneddol inni ar gyfer y dyfodol rwy'n credu.
Rwy'n deall eich pryderon, Mick. Fe fyddwch yn gwybod bod arweinydd y tŷ ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno'n ddiweddar i ysgrifennu at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu ynghylch y pwynt penodol hwnnw ynglŷn â chyffredinolrwydd hysbysebion gamblo. Mae nawdd gan gwmnïau gamblo yn broblem gan fod llawer iawn o blant yn eu gweld. Rwy'n falch iawn o roi gwybod i chi fod arolwg rhwydwaith ymchwil ymddygiad iechyd mewn plant oedran ysgol ar gyfer arolwg 2017-2018 wedi cynnwys cwestiynau ar gamblo, fel y gallwn sicrhau gwell dealltwriaeth gan y plant eu hunain ynglŷn â'r effaith y gall gamblo ei chael arnynt fel unigolion, ac mae'n rhoi data sylfaen inni allu gweithredu go iawn.
Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn defnyddio ein cyfleoedd drwy elfen addysg bersonol a chymdeithasol ein cwricwlwm presennol i allu ystyried peryglon gamblo gyda'n plant a phobl ifanc, ac fe fyddwch yn ymwybodol, wrth inni ddatblygu ein cwricwlwm newydd, fod cyfleoedd ym maes dysgu a phrofiad newydd iechyd a lles i ysgolion fynd i'r afael â'r materion hyn ond hefyd drwy ein maes dysgu a phrofiad rhifedd, lle buaswn yn disgwyl i ysgolion siarad am lythrennedd ariannol a sut i wneud dewisiadau cadarnhaol ynglŷn â sut rydych yn defnyddio eich arian.
Drwy ein rhwydwaith ysgolion iach, yn ogystal â'n hyb profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, rydym hefyd yn arfogi ein hysgolion yn well i ymdopi â materion sy'n ymwneud â gamblo cymhellol os ydynt yn dod yn ymwybodol o hynny yng nghymuned yr ysgol. Credaf fod llawer o bethau y gallwn eu gwneud yn drawslywodraethol, boed ym maes iechyd a gofal cymdeithasol neu gynllunio, i fynd i'r afael â'r agenda hon yn uniongyrchol.
Rhannaf y pryderon a fynegwyd gan Mick Antoniw ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod angen inni roi rhagor o gamau ar waith yn ein hysgolion i fynd i'r afael â gamblo cymhellol. Un o'r pryderon a gafodd ei ddwyn i fy sylw yw bod tasg Bagloriaeth Cymru wedi'i rhoi i rai disgyblion yng Nghymru yn gofyn iddynt ddychmygu sut deimlad yw ennill y loteri a gwario'r arian hwnnw. Nawr, ymddengys i mi fod hynny'n gwbl anaddas o ran annog pobl i ddychmygu tasg o'r fath, ac mae'n mynd yn groes i'r negeseuon ynglŷn ag iechyd y cyhoedd y dymunwn eu lledaenu fel cenedl i'n pobl ifanc. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i weithio gyda CBAC, Cymwysterau Cymru ac eraill i sicrhau bod gamblo'n cael ei ddileu o'n holl arholiadau, ein holl werslyfrau, o ran ei hyrwyddo yn y ffordd hon a bod yr unig neges a welant ynglŷn â gamblo yn un negyddol?
Diolch am hynny, Darren. Buaswn yn disgwyl i bob cwestiwn arholiad a holl dasgau Bagloriaeth Cymru gael eu hysgrifennu mewn modd addas. A gaf fi ddweud yn gwbl glir mai'r hyn rydym yn sôn amdano yma yw gamblo cymhellol a chydnabod hynny fel mater iechyd, mater o ddibyniaeth, yn union fel y mae modd bod yn gaeth i bethau eraill? Credaf fod angen inni fod yn weddol ofalus wrth gymharu chwarae'r loteri â gamblo cymhellol. Rwy'n credu bod angen inni fod yn weddol ofalus ynglŷn â hynny, ond buaswn yn disgwyl i bob cwestiwn ym mhob papur arholiad fod wedi'u hysgrifennu mewn ffordd sy'n addas i'r plant sy'n eu darllen ac sy'n defnyddio'r adnoddau hynny.
Yn ychwanegol at y sylwadau hynny—ac rwy'n cytuno â'r holl sylwadau hyd yn hyn—byddai Mick Antoniw yn gwybod bod astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol De Cymru wedi dangos nad yw un o bob pedwar gamblwr yn ystyried eu hunain yn gamblwyr, ac mae hynny'n cynnwys plant hefyd. Felly, gan bwyso ymhellach ar y mater hwn o addysg mewn ysgolion, yn amlwg mae fy nghyd-Aelod Bethan Sayed eisoes wedi crybwyll egwyddorion addysg ariannol a fyddai'n cynnwys addysg o'r fath, ond mae angen inni bwysleisio hyn yn gryf fel y crybwyllwyd eisoes, oherwydd natur lechwraidd y diwydiant gamblo yn gwthio'i hun i bob agwedd ar fywyd ac yn ceisio normaleiddio'r peth. Nid yw bod yn gamblwr yn normal, a buaswn yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ar y mater.
Dai, rydych yn llygad eich lle: mae angen inni ystyried y materion hyn y tu hwnt i faes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn unig. Bydd addysg ariannol yn elfen allweddol yn y cwricwlwm newydd, gan gynnig darpariaeth gref i gynorthwyo dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ariannol, gan gynnwys rheoli eu harian. Bûm yn ddigon ffodus yn ddiweddar i fynychu ysgol arloesi yn eich rhanbarth, ysgol Olchfa, dosbarth mathemateg blwyddyn 8, lle roeddent yn sôn am y system dreth a sut y byddech yn rheoli eich arian ac yn cyfrifo eich dyledion treth. Felly, rydym eisoes yn gweld gwersi yn hyn o beth ar lawr gwlad yn ein hysgolion ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, wrth inni agosáu at ddefnydd statudol o'r cwricwlwm, buaswn yn disgwyl gweld mwy o hynny. Roedd yn hollol wych gweld dysgwyr cymharol ifanc yn eu gyrfa addysg uwchradd yn meddu ar y gallu i ddatblygu eu sgiliau rhifedd a dysgu a deall ar yr un pryd sut y mae treth yn gweithio a chael trafodaeth foesol iawn mewn gwirionedd ynglŷn ag a ddylid codi mwy neu lai o dreth ar bobl.